Camddefnyddio sylweddau - yr hyn y mae'r ystadegau diweddaraf yn ei ddangos

Cyhoeddwyd 16/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Amcangyfrifir bod 49,370 o bobl (PDF, 4.08MB) yng Nghymru rhwng 15 a 64 oed yn defnyddio opioidau, cocên a chrac, amffetamin a sylweddau seicoweithredol newydd. Yn 2016, dywedodd 20 y cant o oedolion (PDF, 4.08MB) eu bod yn yfed mwy o alcohol yn wythnosol na'r hyn a argymhellir mewn canllawiau.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, nid yw'r galw cyffredinol am wasanaethau camddefnyddio sylweddau yn cynyddu. Mae'r data diweddaraf o Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yn awgrymu y cafwyd gostyngiad yn 2016-17 yn nifer y bobl a gafodd asesiad a thriniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Fodd bynnag, cafwyd cynnydd yn nifer y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau yn 2016-17.

Mae'r blog hwn yn rhoi trosolwg cryno o dueddiadau a welwyd yn ddiweddar mewn perthynas â'r defnydd o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, a'r ymatebion polisi a gafwyd yn adroddiad Llywodraeth Cymru, sef yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg 2017.

Atgyfeiriadau, asesiadau a thriniaeth

Roedd 23,848 o atgyfeiriadau i Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yn 2016-17, gostyngiad o 2.3 y cant ers 2015-16.

Ffotograff o bentwr o dabledi.

O ran yr 18,279 o bobl a aseswyd yn dilyn hynny, alcohol oedd y sylwedd mwyaf problemus ar gyfer 52.6 y cant ohonynt a chyffuriau ar gyfer 46.7 ohonynt, er mai cyffuriau ac alcohol ar y cyd oedd y brif broblem mewn lleiafrif o'r atgyfeiriadau a gafwyd.

Roedd heroin yn cyfrif am 18.4 y cant o'r holl atgyfeiriadau, canabis am 11 y cant, cocên am 3.4 y cant, methadon am 2.9 y cant ac amffetaminau am 2.8 y cant.

Roedd 62.5 y cant o'r atgyfeiriadau alcohol â 71.5 y cant o'r atgyfeiriadau cyffuriau yn ymwneud â dynion.

Deilliannau'r driniaeth

Dechreuodd 16,406 o bobl gyfnod o driniaeth yn 2016-17, sef gostyngiad o 4.6 y cant o'r flwyddyn flaenorol, ac mae dangosyddion yn awgrymu bod pobl sy'n chwilio am gymorth wedi gweld gwelliant cyson o ran eu deilliannau. Mae un dangosydd perfformiad allweddol, sef Lleihau'r camddefnydd problematig o sylweddau (KPI 3) yn dangos bod y gyfran o unigolion yn adrodd bod y math hwn o ddefnydd wedi lleihau wedi cynyddu'n raddol ym mhob un o'r pum mlynedd diwethaf, o 69.2 y cant yn 2012-13 i 77 y cant yn 2016-17.

Mae cyfran yr unigolion sy'n cael triniaeth ac yn adrodd bod eu Hansawdd Bywyd wedi Gwella (DPA 4) wedi amrywio. Serch hynny, mae'n parhau i fod yn uwch yn 2016-17, ar lefel o 63.9 y cant, na'r 55.3 y cant a gofnodwyd yn 2012-13.

Marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau

Er bod y tueddiadau o ran atgyfeiriadau, asesiadau a thriniaethau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau yn gadarnhaol ar y cyfan, mae dangosyddion eraill yn llai calonogol. Yn 2016, cafwyd 192 o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau, sef cynnydd o 14.3 y cant; a 504 o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol, sef cynnydd o 8.9 y cant.

Mae gwyrdroi'r cynnydd mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn un o'r prif flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf yn ôl yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg 2017.

Pobl hŷn

Mae pryder hefyd ynghylch camddefnyddio sylweddau ymhlith pobl hyn. Ym mis Mawrth 2017 cyhoeddodd y panel ymgynghorol annibynnol ar gamddefnyddio sylweddau adroddiad o dan y teitl Substance Misuse in an Ageing Population, a oedd yn nodi bod poblogaeth hŷn Cymru yn fwy tebygol o fod angen gwasanaethau camddefnyddio sylweddau na chenedlaethau'r gorffennol; y garfan o bobl dros 50 oed yw'r unig garfan sy'n destun cynnydd mewn atgyfeiriadau at wasanaethau camddefnyddio sylweddau. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod angen addasu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau er mwyn diwallu anghenion oedolion hŷn, a bod angen darparu gwasanaethau mwy arbenigol iddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn gweithredu ar argymhellion y panel (PDF, 4.08MB).

Camddefnyddio alcohol

Bwriad Llywodraeth Cymru yw bod ei waith ar leihau'r camddefnydd o alcohol yn cael ei ategu gan Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), a gyflwynwyd ar 23 Hydref 2017. Nod y Bil yw lleihau'r defnydd o alcohol, yn enwedig ymhlith yfwyr 'niweidiol a pheryglus', a ddiffinnir fel dynion sy'n yfed rhwng 21 a 50 o unedau o alcohol yr wythnos a menywod sy'n yfed rhwng 14 a 35 o unedau yr wythnos.

Strategaeth camddefnyddio sylweddau

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau, sef Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed: Cynllun Cyflawni 2016 – 2018, sy'n nodi cynlluniau i fynd i'r afael ag effaith camddefnyddio sylweddau yng Nghymru am y ddwy flynedd sy'n weddill o Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru (2008-18). Yn ogystal â mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau anghyfreithlon, mae'r cynllun cyflawni yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau sy'n gwella perfformiad a delwedd (IPEDs), sylweddau seicoweithredol newydd (NPSs) a meddyginiaethau.


Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru