Economi

Y Cyfarfod Llawn i drafod adroddiad Seilwaith Digidol Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Ym mis Medi 2017 cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei adroddiad ar Seilwaith Digidol Cymru. Yn ystod yr ymchwiliad hwn, edrychodd yr Aelodau ar y materion sy'n rhwystro darpariaeth band eang a chysylltedd ffonau symudol yng Nghymru, a pha bolisïau y dylai Llywodraeth Cymru eu dilyn i wella'r sefyllfa. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chynllun Gweithredu i Wella Cysylltedd Ffonau Symudol, gan nodi sut y mae am wella'r ddarpariaeth cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru. A fydd hyn yn ddigon i gau'r bwlch o ran y ddarpariaeth cysylltedd ffonau symudol rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU?

16 Tachwedd 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ym mis Medi 2017 cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei adroddiad ar Seilwaith Digidol Cymru. Yn ystod yr ymchwiliad hwn, edrychodd yr Aelodau ar y materion sy’n rhwystro darpariaeth band eang a chysylltedd ffonau symudol yng Nghymru, a pha bolisïau y dylai Llywodraeth Cymru eu dilyn i wella’r sefyllfa. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chynllun Gweithredu i Wella Cysylltedd Ffonau Symudol, gan nodi sut y mae am wella’r ddarpariaeth cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru. A fydd hyn yn ddigon i gau’r bwlch o ran y ddarpariaeth cysylltedd ffonau symudol rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU?

Beth yw’r sefyllfa bresennol?

Mae data diweddaraf Ofcom ar gyfer gwasanaeth band eang 2016[1] yn dangos, ers 2014, fod gwasanaethau band eang cyflym iawn wedi cynyddu’n gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU:

Mae nifer yr adeiladau sy’n gallu manteisio ar gyflymder cyflym iawn neu uwch yn parhau i gynyddu

Er ei bod yn dal i fod yn llai na chyfartaledd y DU, mae gan Gymru gyfran ychydig yn fwy o adeiladau gyda mynediad i wasanaethau cyflym iawn na’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r cynnydd mewn mynediad wedi cyd-daro â BT yn cyflwyno prosiect Llywodraeth Cymru Cyflymu Cymru i gyflwyno band eang cyflym iawn (hy ar gyflymder o 30 Mbps neu’n gyflymach) i tua 96 y cant o adeiladau yng Nghymru erbyn mis Mehefin 2017. BT sy’n darparu’r cynllun, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, yr UE a Llywodraeth y DU, ynghyd â buddsoddiad BT.

Fodd bynnag, mae argaeledd cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru – er ei fod wedi gwella’n fawr yn y blynyddoedd diwethaf – yn parhau i fod yr isaf yn y DU:

Crynodeb o ddarpariaeth cysylltedd ffonau symudol awyr agored pob un o’r pedwar gweithredwr yn y DU

Crynodeb o ddarpariaeth cysylltedd ffonau symudol awyr agored pob un o'r pedwar gweithredwr yn y DU

 

Mae gan Gymru’r gyfran isaf o adeiladau gyda darpariaeth cysylltedd ffonau symudol o bob gwlad yn y DU, ac ar gyfer pob cenhedlaeth o dechnoleg cysylltedd ffonau symudol.

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am y sefyllfa?

Mae rheoliad telathrebu wedi’i neilltuo i Lywodraeth y DU. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi’i chyfyngu i ddefnyddio’r offer polisi sydd ar gael iddi – megis polisi cynllunio, ardrethi busnes a darparu grantiau.

Y dyddiad cyflawni ar gyfer Cyflymu Cymru oedd Mehefin 2017, gyda Llywodraeth Cymru yn diswyl y byddai BT wedi cysylltu digon o adeiladau yng Nghymru fel bod gan oddeutu 96% fynediad i fand eang cyflym iawn. Mae’r cynllun hwn ond ar waith mewn ardaloedd lle nad yw cyflwyno band eang yn fasnachol wedi digwydd, ac ni ddisgwylir iddo ddigwydd yn y dyfodol agos. Yna cafodd BT gyfnod o 6 mis i orffen unrhyw waith oedd yn weddill cyn dyddiad olaf y contract ar 31 Rhagfyr 2017.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun olynu i fynd â band eang cyflym iawn i’r adeiladau hynny na fyddant yn cael eu cynnwys naill ai ym mhrosiect Cyflymu Cymru na’r cyflwyno masnachol. Mae adolygiad marchnad agored Llywodraeth Cymru wedi nodi 98,000 o eiddo a allai o bosibl fod o fewn cwmpas y cynllun olynu hwn. Gellir gweld map rhyngweithiol sy’n dangos yr adeiladau y disgwylir iddynt fod heb fand eang cyflym iawn yn ystod y tair blynedd nesaf yma. Dywedodd y Gweinidog ar y pryd (Julie James AC oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am seilwaith digidol – mae hi’n cadw’r cyfrifoldeb hwn yn ei rôl newydd fel Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip) y byddai’r cynllun olynu yn cael ei ategu gan gyllideb sector cyhoeddus o hyd at £80 miliwn fydd, yn ei thro, yn ysgogi cyllid cyfatebol yn y sector preifat.

Allwedd Band Eang Cymru yw cynllun grant Llywodraeth Cymru sy’n cynnig hyd at £800 fesul adeilad nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym. Rhaid i’r gwasanaeth newydd arfaethedig sicrhau cyflymder llwytho i lawr o 10Mbps o leiaf, ac o leiaf ddwywaith y cyflymder presennol.

Y cynllun Talebau Cysylltedd Gwibgyswllt yw cynllun grant Llywodraeth Cymru sy’n cynnig hyd at £10,000 i gyllido (neu rannol gyllido) costau gosod cysylltiadau gwibgyswllt newydd.

Ym mis Hydref 2017 – dros flwyddyn ar ôl i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi strategaeth gyfatebol  – cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu i Wella Cysylltedd Ffonau Symudol i wella’r ddarpariaeth cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau polisi sydd ar gael, megis cynllunio ac ardrethi busnes, i wella amodau’r farchnad ar gyfer defnyddio seilwaith cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru.

A fydd hyn yn cau’r bwlch?

Mae topograffeg a dosbarthiad poblogaeth Cymru (sydd wedi’i dosbarthu’n weddol gyfartal ar draws ardaloedd gwledig) yn peri heriau sylweddol i’r gwaith o gyflwyno’r ddarpariaeth cysylltedd ffonau symudol yn fasnachol. Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom Cymru, wrth y Pwyllgor:

In terms of digital terrestrial television, in Wales we have 67 masts per million of the population. The number in England is 12. Felly mae’n wahaniaeth mawr. Nid yw hynny’n rhoi i chi gydraddoldeb â Lloegr. That still only gets you, in television terms, to 97.7 compared to 98.7 in England […] For mobile, and especially for mobile data services, the density of masts that is required is substantially more.

Mae’r dadansoddiad hwn yn awgrymu – os mai’r unig nod yw sicrhau cydraddoldeb â Lloegr o ran darpariaeth cysylltedd ffonau symudol – mae’n rhaid i’r ystod o gymhellion ar gyfer gweithredwyr rhwydweithiau cysylltedd ffonau symudol i ddefnyddio seilwaith fod yn fwy yng Nghymru nac yn Lloegr, i wneud iawn am y diffyg cymhelliant masnachol i adeiladu yng Nghymru. Fel arall, byddai’n rhaid i Lywodraeth y DU orfodi mwy o ddefnydd yng Nghymru, er enghraifft trwy gysylltu amodau pellach at y sbectrwm cysylltedd ffonau symudol a arwerthir gan y rheolydd cyfathrebu Ofcom.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bwriad i ddefnyddio polisi cynllunio, ardrethi busnes ac efallai grantiau hyd yn oed i ysgogi cyflwyno cysylltedd ffonau symudol yng Nghymru: bydd angen aros i weld a fydd y gweithgarwch hwn yn ddigon i gau’r bwlch gyda Lloegr a gweddill y gwledydd eraill yn y DU.

[1] Nid yw’r Adroddiad Cyfathrebu Ofcom diweddaraf (2017) yn cynnwys ffigurau cymharol ar gyfer band eang neu ddarpariaeth symudol


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru