Brexit a’r amgylchedd: Edrych ar baratoadau pwyllgorau deddfwrfeydd y DU. Rhan 4 – Senedd y DU: Tŷ’r Arglwyddi

Cyhoeddwyd 17/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r gyfres hon o bedwar blog yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am waith gan bwyllgorau ar effeithiau posibl gadael yr UE ar bolisi amgylcheddol ac amaethyddol ledled deddfwrfeydd y DU. Mae’r gyfres hefyd yn trafod materion a fydd yn effeithio ar y meysydd polisi hyn, gan gynnwys masnach ryngwladol, mewnfudo ac unrhyw newidiadau posibl i setliadau datganoli.

Mae’r gyfres yn nodi ymholiadau gan bwyllgorau yn ystod yr haf a’r hydref, a bydd yn trafod 1) Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2) Senedd yr Alban, 3) Tŷ’r Cyffredin a 4) Tŷ’r Arglwyddi (gan gydnabod bod pwyllgorau Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi’u diddymu o hyd). Mae’r blog terfynol hwn yn trafod Tŷ’r Arglwyddi ac yn dilyn yr erthygl flaenorol ar Dŷ’r Cyffredin.

Senedd y DU – Tŷ’r Arglwyddi

1. Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE

Brexit: ymchwiliad i ddiogelwch ynni

Nod yr ymchwiliad i ddiogelwch ynni a Brexit yw tynnu sylw at y materion y bydd angen i Lywodraeth y DU eu hystyried wrth ddatblygu perthynas newydd â’r UE ynghylch ynni. Ar 6 a 13 Medi, cynhaliodd yr is-bwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar i drafod y materion a ganlyn:

  • dibyniaeth y DU ar gydgysylltwyr â’r UE ar gyfer cyflenwadau nwy a thrydan diogel, gan ofyn a yw’r rhain mewn perygl ar ôl Brexit;
  • a all y DU adael yr UE a chadw mynediad at y Farchnad Ynni Fewnol;
  • faint o ddylanwad y bydd gan y DU dros bolisi ynni’r UE o’r tu allan i’r UE;
  • effaith Brexit ar ryng-gysylltwyr rhwng y DU ac ynys Iwerddon; ac
  • a all buddsoddiadau mewn gweithfeydd pŵer niwclear gan wledydd yr UE a thu hwnt barhau ar ôl i’r DU adael Euratom, a sut y bydd gadael y corff hwn yn effeithio ar y camau i reoli gwastraff niwclear.

Ar 25 Hydref, bu’r is-bwyllgor yn holi Richard Harrington, y Gweinidog dros Ynni a Diwydiant, am effaith Brexit ar ddiogelwch ynni. Dywedodd:

As far as security of supply is concerned, I do not believe it will affect it because we have a very well-functioning, competitive and resilient energy system now…
The capacity market, new nuclear, offshore wind and so on have helped a lot to [achieve diversity of supply]. I believe that government intervention generally—I promise I do not make a political point here—with contracts for difference and the capacity market options, for example, has made sure that we are not too dependent on any particular source of supply.

Hefyd, dywedodd wrth yr is-bwyllgor fod y DU yn elwa o ryng-gysylltiadau trydan â gwledydd Ewropeaidd eraill: ‘[this] is something that we think can deliver benefits in terms of both cost but also security in being part of the larger market.’

Mae’r is-bwyllgor bellach yn ysgrifennu ei adroddiad ar yr ymchwiliad.

Brexit: ymchwiliad i les anifeiliaid fferm

Roedd yr ymchwiliad hwn, sydd bellach wedi dod i ben, yn edrych ar y risgiau posibl i safonau lles anifeiliaid yn y DU yn sgil Brexit. Ar 25 Gorffennaf, cyhoeddodd yr is-bwyllgor ei adroddiad ar Brexit: Lles anifeiliaid fferm. Rhestrir y prif ganfyddiadau isod:

  • Ar hyn o bryd, mae gan y DU rai o’r safonau uchaf yn y byd ar gyfer lles anifeiliaid fferm ac mae cefnogaeth ar draws y sector i gynnal y safonau uchel hynny ar ôl Brexit; a
  • daw’r bygythiad mwyaf i safonau lles anifeiliaid fferm ar ôl Brexit o ymdrechion gan ffermwyr y DU i gystadlu yn erbyn bwyd rhad wedi’i fewnforio o wledydd sydd â safonau cynhyrchu is na’r DU. Felly, nid yw dyhead y Llywodraeth i’r DU fod yn arweinydd byd-eang mewn masnach rydd o reidrwydd yn gydnaws â’i hawydd i gynnal safonau uchel o ran lles anifeiliaid.

Llun o ddefaid

Gweithgareddau eraill y pwyllgor

Ar 1 Tachwedd, bu’r is-bwyllgor yn holi Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Yn ystod y cyfarfod hwn, galwodd yr Ysgrifennydd Gwladol am greu comisiwn amgylcheddol y DU i ddisodli swyddogaethau’r Comisiwn Ewropeaidd ar ôl Brexit. Soniodd hefyd am y pryderon ynghylch ‘ras i’r gwaelod’ wrth i’r DU adael yr UE. Fodd bynnag, nid oedd yn credu y byddai hyn yn digwydd, a nododd mai bwriad Bil yr UE (Ymadael) yw sicrhau bod cyfraith Ewropeaidd yn cael ei throsglwyddo i gyfraith y DU. Fodd bynnag, cyfaddefodd fod trosglwyddo’r gyfraith yn unig yn gadael bwlch o ran llywodraethu.

Cafwyd trafodaeth bellach ar gorff tebyg i’r Comisiwn yn ystod sesiwn y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol (Tŷ’r Cyffredin) yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Yn ystod y sesiwn hon, nid oedd Michael Gove yn gallu cadarnhau a fyddai corff o’r fath yn ei le ar ddiwrnod gadael yr UE neu a fyddai’n gallu gosod dirwyon ar y Llywodraeth. Trafodwyd a fyddai cyrff diogelu ar wahân yn eu lle ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig.

2. Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd

Brexit: ymchwiliad i ddatganoli

Ar 19 Gorffennaf, cyhoeddodd y Pwyllgor yr adroddiad ar ei ymchwiliad i Brexit a datganoli. Mae’r adroddiad yn ymdrin â materion cyfansoddiadol penodol sy’n deillio o Brexit ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, a hynny’n unigol ac ar y cyd. Y prif gasgliadau yn adroddiad y Pwyllgor yw:

  • yr angen i Lywodraethau’r DU gydweithio (mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod yr angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod y Cydbwyllgor Gweinidogol (Trafodaethau’r UE) yn gweithredu’n fwy effeithiol); a
  • bod angen sicrhau cyn lleied o newid â phosibl yn y cydbwysedd statudol presennol o gymwyseddau rhwng Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig.
  • Mae’r adroddiad yn rhybuddio y gallai unrhyw ymgais i ddefnyddio Brexit i gipio grym, naill ai drwy ‘ail-gadw’ pwerau a ddatganolwyd yn flaenorol neu drwy hawlio rhagor o bwerau datganoledig, achosi mwy o ansefydlogrwydd.

Brexit: a fydd cytundeb?

Mae’r ymchwiliad hwn, a lansiwyd ar 26 Medi, yn edrych ar y sefyllfaoedd a all arwain at beidio â sicrhau cytundeb a beth fyddai goblygiadau hynny (yn gadarnhaol ac yn negyddol). Mae’r ymchwiliad hefyd yn trafod y trefniadau pontio; hynny yw, a oes angen trefniadau o’r fath a beth fyddai’r materion allweddol i’w hystyried fel rhan o’r trefniadau hyn. Mae’n edrych ar sut y gellid cynnal perthynas y DU a’r UE yn ystod y cyfnod pontio a pha mor hir y dylai’r cyfnod pontio barhau.

3. Llyfrgell Tŷ’r Arglwyddi

Mae gan Lyfrgell Tŷ’r Arglwyddi grynodeb o’r adroddiadau, dadansoddiadau a dadleuon allweddol ynghylch Brexit yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae’r Llyfrgell yn cyhoeddi papurau briffio ar faterion sy’n gysylltiedig â Brexit.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru