Cyhoeddiad newydd: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) – Crynodeb o’r newidiadau yng Nghyfnod 2

Cyhoeddwyd 23/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r papur briffio hwn wedi’i baratoi i gynorthwyo’r Cynulliad i graffu ar y Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Bydd y Bil yn cyfyngu ar yr Hawl i Brynu (gan gynnwys yr Hawl i Brynu a Gadwyd a’r Hawl i Brynu a Estynnwyd) a’r Hawl i Gaffael yng Nghymru ac, yn y pen draw, yn dod â nhw i ben. Diben datganedig Llywodraeth Cymru y Bil yw diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu caffael cartrefi drwy’r farchnad dai.

Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil yn cynnwys gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod 2 y broses graffu. Mae unrhyw gyfeiriad at y Memorandwm Esboniadol, yn cyfeirio at y fersiwn cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2.

Cyhoeddiad newydd: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) – Crynodeb o’r newidiadau yng Nghyfnod 2 (PDF, 2.87MB)

Clawr i'r ddogfen


Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru