Yr Amgylchedd

Lansio’r bwriad i roi’r gorau i ddefnyddio glo yn uwch-gynhadledd COP23 ar y newid yn yr hinsawdd

Yn Bonn, yr Almaen, rhwng 6 ac 17 Tachwedd, cynhaliwyd trydedd sesiwn ar hugain Cynhadledd y Pleidiau (COP), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC), a elwir yn COP23. Fe'i cynhaliwyd gan Lywodraeth Fiji, sydd, fel gwladwriaeth ynys sy'n datblygu, yn un o'r gwledydd sydd yn y perygl mwyaf o effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Beth yw uwchgynhadledd COP23 ar y newid yn yr hinsawdd?

Yn Bonn, yr Almaen, rhwng 6 ac 17 Tachwedd, cynhaliwyd trydedd sesiwn ar hugain Cynhadledd y Pleidiau (COP), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC), a elwir yn COP23. Fe’i cynhaliwyd gan Lywodraeth Fiji, sydd, fel gwladwriaeth ynys sy’n datblygu, yn un o’r gwledydd sydd yn y perygl mwyaf o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Prif ffocws COP23 oedd i wledydd gytuno ar y ‘rheolau’ o ran sut y caiff Cytundeb Paris ei roi ar waith. Cadarnhawyd y Cytundeb ym mis Tachwedd 2016 ac mae bron bob gwlad sy’n rhan o’r Confensiwn (170 hyd yma) wedi addo cyfyngu ar eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Y nod yw cadw’r tymheredd byd-eang rhag codi ddim mwy na 2 radd Celsiws uwchlaw’r lefelau cyn-ddiwydiannol yn y ganrif hon. Mewn erthyglau Image showing COP23 logoblaenorol ar Pigion ceir crynodeb o fanylion y cytundeb a chyfeiriad at ei bwysigrwydd yng nghyd-destun gwaith blaenorol UNFCCC.

Mabwysiadwyd Protocol Kyoto ym 1997 ac roedd yn ymrwymo’r gwledydd a oedd yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr y gorffennol a’r presennol i dargedau lleihau allyriadau a oedd yn eu rhwymo’n rhyngwladol. Cafodd Gwelliant Doha i Brotocol Kyoto ei fabwysiadu yn 2012 ac mae’n ymrwymo’r gwledydd i ostwng yr allyriadau nwyon tŷ gwydr i 18 y cant fan lleiaf o dan lefelau 1999 erbyn 2020. Er mwyn dod â’r gwelliant i rym rhaid iddo gael ei lofnodi gan 143 gwlad, a hyd yn hyn, mae 91 gwlad wedi gwneud hynny, gan gynnwys y DU.

Beth ddigwyddodd yn COP23?

Gwnaed sawl cyhoeddiad ac ymrwymiad yn ystod COP23. Dyma rai o’r prif bethau:

  • Mae gwledydd sy’n datblygu wedi negodi camau gweithredu cyn 2020 ac addewidion ariannol gan wledydd datblygedig yn nhestun penderfyniad COP23 (PDF 417KB). Mae’r camau gweithredu cyn 2020 yn mynnu bod gwledydd datblygedig yn lleihau allyriadau (trwy Welliant Doha). Mae angen hyn i sicrhau bod yr allyriadau byd-eang yn cyrraedd eu hanterth cyn 2020 er mwyn bodloni nod Cytundeb Paris;
  • Cyhoeddodd yr UE a’i aelod-wladwriaethau eu bwriad i lofnodi Gwelliant Doha erbyn diwedd y flwyddyn hon. Targed y DU yw sicrhau gostyngiad o 19 y cant erbyn 2020. O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ostyngiad o 80 y cant erbyn 2050 a bydd yn gosod targed interim ar gyfer 2020 erbyn diwedd 2018;
  • Llofnodwyd Ymrwymiad Bonn-Fiji (PDF 192KB) gan y Llywodraethau Lleol a Rhanbarthol, gan gynnwys Rebecca Ashcroft ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n ymrwymo’r arweinwyr lleol a rhanbarthol i weithredu Cytundeb Paris yn eu hawdurdodaethau a chaiff ei ystyried yn fenter ‘o’r gwaelod i fyny’ i annog mwy o weithredu gan arweinwyr gwledydd; a
  • Lansiodd Claire Perry AS, Gweinidog y DU dros Newid yn yr Hinsawdd a Diwydiant, a Catherine McKenna AS, Gweinidog yr Amgylchedd a’r Newid yn yr Hinsawdd, y Gynghrair Pweru Heibio Glo i gefnu’n raddol ar ddefnyddio glo heb dechnoleg dal a storio carbon (unabated coal) (gorsafoedd pŵer lle na chaiff y carbon deuocsid ei ddal a’i gladdu o dan y ddaear). Hyd yma mae 20 o wledydd wedi ymuno, a’r nod yw cael 50 o lofnodwyr erbyn COP24 y flwyddyn nesaf.

Pam yr ymgyrch i roi’r gorau i ddefnyddio glo?

Mae Adroddiad diweddaraf Bwlch Allyriadau Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (2017) yn dangos bod addunedau’r gwledydd sy’n rhan o’r Cytundeb Paris presennol i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr ddim ond cyflawni traean o’r hyn sydd ei angen i aros o dan 2 radd Celsiws o gynhesu. Mae glo yn cael ei ddefnyddio o hyd i gynhyrchu 40 y cant o drydan y byd, er bod rhai o’r farn mai glo yw’r tanwydd ffosil ‘budraf’ oll.

Yn ôl Europe Beyond Coal, mae gorsaf bŵer olaf Cymru, yn Aberthaw, yn 25ain ar y rhestr o orsafoedd sy’n cynhyrchu’r lefelau uchaf o garbon deuocsid (gweler y ffigur isod), ac yn 18fed ymhlith y rhai sydd fwyaf niweidiol i iechyd yn yr UE. Ym mis Medi 2016, canfu Llys Cyfiawnder Ewrop fod Llywodraeth y DU wedi methu â chyfyngu ar y nitrogen ocsid (llygrydd a all effeithio ar iechyd) a oedd ddwywaith y lefel gyfreithlon. Codwyd y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn, a dywedodd Jane Hutt AC ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd, fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi caniatâd newydd i orsaf bŵer Aberthaw ar 1 Ebrill 2017. Roedd y caniatâd yn pennu terfyn is o allyriadau nitrogen ocsid yn unol â dyfarniad y Llys.

Map o orsafoedd pŵer a yrrir gan lo

Oherwydd y lefelau uchel o allyriadau nwyon tŷ gwydr a llygryddion sy’n deillio o orsafoedd pŵer a yrrir gan lo, ystyrir bod rhoi’r gorau i ddefnyddio glo heb dechnoleg dal a storio carbon yn gam pwysig i gyrraedd Cytuneb Paris. Dangosodd dadansoddiad gan gwmni di-elw Climate Analytics fod angen rhoi’r gorau i ddefnyddio glo erbyn 2030 fan hwyraf yng ngwladwriaethau’r UE ac yng ngwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD); ac erbyn 2050 fan hwyraf yng ngweddill y byd. Yn 2015, ymrwymodd y DU i gau pob gorsaf bŵer a yrrir gan lo erbyn 2025. Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod o blaid cefnu’n raddol ar bŵer a yrrir gan lo heb dechnoleg dal a storio carbon erbyn 2025 ac y byddai’n defnyddio ei phwerau cynllunio i gyfyngu ar y cyfleoedd i ddatblygu gorsafoedd glo newydd.

Hyd yma, nid oes yr un o’r gwledydd hynny sy’n defnyddio llawer iawn o lo, gan gynnwys Tsieina a’r Almaen, wedi ymuno â’r Gynghrair Pweru Heibio Glo. Sefydlwyd y Gynghrair hon oherwydd y bu cynnydd yn allyriadau carbon deuoscid y byd yn 2017, a hynny am y tro cyntaf ers tair blynedd, yn bennaf oherwydd bod Tsieina yn defnyddio hyd yn oed rhagor o lo. Mae’r gwledydd sydd wedi llofnodi’r Gynghrair ddim ond yn gyfrifol am 3 y cant o’r glo a ddefnyddir yn y byd. Fodd bynnag, dywedodd Claire Perry AS, Gweinidog y DU dros Newid yn yr Hinsawdd a Diwydiant, y gall y Gynghrair ddangos i eraill sut i roi’r gorau i ddefnyddio glo:

In July 2012, our [the UK’s] generation profile still included 40% coal. In July this year, this fell to 2% and in April, the UK had its first full day when no coal was used for 135 years.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Moya Macdonald gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.


Erthygl gan Moya Macdonald, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llun o
COP23
Llun o Europe Beyond Coal