PIGION

Lansio’r bwriad i roi’r gorau i ddefnyddio glo yn uwch-gynhadledd COP23 ar y newid yn yr hinsawdd

23 Tachwedd 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Beth yw uwchgynhadledd COP23 ar y newid yn yr hinsawdd?

Yn Bonn, yr Almaen, rhwng 6 ac 17 Tachwedd, cynhaliwyd trydedd sesiwn ar hugain Cynhadledd y Pleidiau (COP), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC), a elwir yn COP23. Fe’i cynhaliwyd gan Lywodraeth Fiji, sydd, fel gwladwriaeth ynys sy’n datblygu, yn un o’r gwledydd sydd yn y perygl mwyaf o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Prif ffocws COP23 oedd i wledydd gytuno ar y ‘rheolau’ o ran sut y caiff Cytundeb Paris ei roi ar waith. Cadarnhawyd y Cytundeb ym mis Tachwedd 2016 ac mae bron bob gwlad sy’n rhan o’r Confensiwn (170 hyd yma) wedi addo cyfyngu ar eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Y nod yw cadw’r tymheredd byd-eang rhag codi ddim mwy na 2 radd Celsiws uwchlaw’r lefelau cyn-ddiwydiannol yn y ganrif hon. Mewn erthyglau blaenorol ar Pigion ceir crynodeb o fanylion y cytundeb a chyfeiriad at ei bwysigrwydd yng nghyd-destun gwaith blaenorol UNFCCC.

Mabwysiadwyd Protocol Kyoto ym 1997 ac roedd yn ymrwymo’r gwledydd a oedd yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr y gorffennol a’r presennol i dargedau lleihau allyriadau a oedd yn eu rhwymo’n rhyngwladol. Cafodd Gwelliant Doha i Brotocol Kyoto ei fabwysiadu yn 2012 ac mae’n ymrwymo’r gwledydd i ostwng yr allyriadau nwyon tŷ gwydr i 18 y cant fan lleiaf o dan lefelau 1999 erbyn 2020. Er mwyn dod â’r gwelliant i rym rhaid iddo gael ei lofnodi gan 143 gwlad, a hyd yn hyn, mae 91 gwlad wedi gwneud hynny, gan gynnwys y DU.

Beth ddigwyddodd yn COP23?

Gwnaed sawl cyhoeddiad ac ymrwymiad yn ystod COP23. Dyma rai o’r prif bethau:

Pam yr ymgyrch i roi’r gorau i ddefnyddio glo?

Mae Adroddiad diweddaraf Bwlch Allyriadau Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (2017) yn dangos bod addunedau’r gwledydd sy’n rhan o’r Cytundeb Paris presennol i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr ddim ond cyflawni traean o’r hyn sydd ei angen i aros o dan 2 radd Celsiws o gynhesu. Mae glo yn cael ei ddefnyddio o hyd i gynhyrchu 40 y cant o drydan y byd, er bod rhai o’r farn mai glo yw’r tanwydd ffosil ‘budraf’ oll.

Yn ôl Europe Beyond Coal, mae gorsaf bŵer olaf Cymru, yn Aberthaw, yn 25ain ar y rhestr o orsafoedd sy’n cynhyrchu’r lefelau uchaf o garbon deuocsid (gweler y ffigur isod), ac yn 18fed ymhlith y rhai sydd fwyaf niweidiol i iechyd yn yr UE. Ym mis Medi 2016, canfu Llys Cyfiawnder Ewrop fod Llywodraeth y DU wedi methu â chyfyngu ar y nitrogen ocsid (llygrydd a all effeithio ar iechyd) a oedd ddwywaith y lefel gyfreithlon. Codwyd y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn, a dywedodd Jane Hutt AC ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd, fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi caniatâd newydd i orsaf bŵer Aberthaw ar 1 Ebrill 2017. Roedd y caniatâd yn pennu terfyn is o allyriadau nitrogen ocsid yn unol â dyfarniad y Llys.

Oherwydd y lefelau uchel o allyriadau nwyon tŷ gwydr a llygryddion sy’n deillio o orsafoedd pŵer a yrrir gan lo, ystyrir bod rhoi’r gorau i ddefnyddio glo heb dechnoleg dal a storio carbon yn gam pwysig i gyrraedd Cytuneb Paris. Dangosodd dadansoddiad gan gwmni di-elw Climate Analytics fod angen rhoi’r gorau i ddefnyddio glo erbyn 2030 fan hwyraf yng ngwladwriaethau’r UE ac yng ngwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD); ac erbyn 2050 fan hwyraf yng ngweddill y byd. Yn 2015, ymrwymodd y DU i gau pob gorsaf bŵer a yrrir gan lo erbyn 2025. Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod o blaid cefnu’n raddol ar bŵer a yrrir gan lo heb dechnoleg dal a storio carbon erbyn 2025 ac y byddai’n defnyddio ei phwerau cynllunio i gyfyngu ar y cyfleoedd i ddatblygu gorsafoedd glo newydd.

Hyd yma, nid oes yr un o’r gwledydd hynny sy’n defnyddio llawer iawn o lo, gan gynnwys Tsieina a’r Almaen, wedi ymuno â’r Gynghrair Pweru Heibio Glo. Sefydlwyd y Gynghrair hon oherwydd y bu cynnydd yn allyriadau carbon deuoscid y byd yn 2017, a hynny am y tro cyntaf ers tair blynedd, yn bennaf oherwydd bod Tsieina yn defnyddio hyd yn oed rhagor o lo. Mae’r gwledydd sydd wedi llofnodi’r Gynghrair ddim ond yn gyfrifol am 3 y cant o’r glo a ddefnyddir yn y byd. Fodd bynnag, dywedodd Claire Perry AS, Gweinidog y DU dros Newid yn yr Hinsawdd a Diwydiant, y gall y Gynghrair ddangos i eraill sut i roi’r gorau i ddefnyddio glo:

In July 2012, our [the UK’s] generation profile still included 40% coal. In July this year, this fell to 2% and in April, the UK had its first full day when no coal was used for 135 years.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Moya Macdonald gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.


Erthygl gan Moya Macdonald, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llun o
COP23
Llun o Europe Beyond Coal