Cyfansoddiad

Sut y gall academyddion gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad?

Mae ymgysylltu academaidd neu gyfnewid gwybodaeth â’r Cynulliad o fudd i ymchwilwyr academaidd ac i’r Cynulliad, ac mae sawl ffordd o gymryd rhan. Dyma restr o awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut i ymgysylltu â ni.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

12 Mawrth 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’n deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae ymgysylltu academaidd neu gyfnewid gwybodaeth â’r Cynulliad o fudd i ymchwilwyr academaidd ac i’r Cynulliad, ac mae sawl ffordd o gymryd rhan.

Dyma restr o awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut i ymgysylltu â ni:

Cadwch olwg ar y materion diweddaraf

Mae’r Cynulliad yn sefydliad deinamig, prysur iawn lle mae llawer o faterion sy’n effeithio ar bobl Cymru yn cael eu trafod ar unrhyw adeg benodol. Er mwyn llywio trafodaethau a gwella’r broses o lunio polisïau a chyfreithiau newydd, mae angen i’r Cynulliad gael mynediad at yr ymchwil a’r arbenigedd gorau posibl i helpu i lywio trafodaethau a gwaith craffu ar bolisïau.

Mae hyn yn amrywio o ymchwil benodol ynglŷn ag effaith polisïau a gwariant presennol Llywodraeth Cymru, i wybodaeth ac arbenigedd a all helpu Aelodau’r Cynulliad i ystyried yr heriau a’r cyfleoedd hirdymor sy’n wynebu Cymru.

Drwy gadw golwg ar yr hyn sy’n cael ei drafod, byddwch yn gwybod pryd yw’r amser gorau i ymgysylltu a sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Mae sawl ffordd o ddarganfod beth sy’n digwydd yn y Cynulliad:

 phwy y dylwn gysylltu?

Mae sawl ffordd y gall academyddion rannu eu hymchwil â’r Cynulliad:

Aelodau Cynulliad

  • Gallwch weld pa faterion y mae gan Aelodau’r Cynulliad ddiddordeb ynddynt ac yn cymryd rhan ynddynt drwy edrych ar eu proffil AC. Mae’r proffiliau hyn yn rhestru pa bwyllgorau a grwpiau trawsbleidiol y maent yn aelodau ohonynt, ynghyd â’u diddordebau personol. Bydd gan lawer o Aelodau’r Cynulliad eu gwefan bersonol eu hunain hefyd a all fod yn ffynhonnell wybodaeth. Gallwch weld pa ardal o Gymru y mae AC yn ei chynrychioli yma.
  • Gallwch gwrdd ag AC naill ai yn ei swyddfa etholaeth neu yn y Cynulliad.
  • Ewch i ddigwyddiadau a drefnir gan AC.

Pwyllgorau’r Cynulliad

Grwpiau o Aelodau’r Cynulliad o wahanol bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad yw’r pwyllgorau. Mae pob pwyllgor wedi’i sefydlu i drafod maes polisi eang (e.e. addysg, iechyd, yr amgylchedd) a bydd yn craffu ar gyfreithiau arfaethedig (Biliau) ac yn cynnal ymchwiliadau i feysydd polisi datganoledig. Mae rhestr lawn o bwyllgorau presennol y Cynulliad ar gael yma.

Sut i gymryd rhan yng ngwaith un o’r pwyllgorau:

  • Os yw pwyllgor yn casglu gwybodaeth am bwnc, bydd yn galw am dystiolaeth ar ei dudalen we. Mae rhestr o’r galwadau presennol am dystiolaeth ar gael yma.
  • Os yw eich ymchwil yn berthnasol i’r pwnc sy’n cael ei drafod, efallai y byddwch yn cael gwahoddiad i roi tystiolaeth yn un o gyfarfodydd y pwyllgor.
  • Os oes angen arbenigedd technegol manylach ar fater pwysig efallai y bydd panel arbenigol yn cael ei greu.
  • Gall pwyllgor wahodd arbenigwr i weithredu fel cynghorydd ar gyfer darn penodol o waith.
  • Yn ogystal â thystiolaeth lafar neu ysgrifenedig ffurfiol, gall pwyllgorau hefyd gasglu gwybodaeth trwy ymweliadau â lleoedd neu sefydliadau penodol, neu ddefnyddio systemau pleidleisio neu arolygu ar-lein.

Cewch ragor o wybodaeth am gymryd rhan mewn pwyllgor yn y canllawiau hyn (PDF, 225KB).

Grwpiau trawsbleidiol

Grwpiau o Aelodau’r Cynulliad sy’n dod ynghyd i ganolbwyntio ar bwnc penodol yw grwpiau trawsbleidiol. Gall Aelodau’r Cynulliad hefyd wahodd rhanddeiliaid perthnasol ac arbenigwyr pwnc i ymuno â’r drafodaeth. Mae grwpiau trawsbleidiol yn llai ffurfiol na phwyllgorau ac nid ydynt yn rhan o fusnes ffurfiol y Cynulliad, ond maent yn dal i fod yn ffordd ddefnyddiol i Aelodau’r Cynulliad drafod pynciau sy’n berthnasol i waith y Cynulliad.

Sut i ymgysylltu â grwpiau trawsbleidiol:

  • Edrychwch drwy’r rhestr o grwpiau trawsbleidiol cofrestredig ar y wefan i ddod o hyd i grwpiau perthnasol.
  • Mae pwrpas, aelodaeth a manylion cyswllt pob grŵp trawsbleidiol wedi eu nodi ar y wefan. Gallwch naill ai gysylltu â’r grŵp yn uniongyrchol neu siarad ag aelod o’r grŵp ar wahân.

Ymchwil y Senedd

Mae Ymchwil y Senedd yn cefnogi Aelodau’r Cynulliad yn eu gwaith drwy sicrhau bod ganddynt ymchwil, dadansoddiadau a gwybodaeth arbenigol, ddiduedd a dibynadwy, a luniwyd yn arbennig ar gyfer eu hanghenion. Defnyddir y wybodaeth a gynhyrchir gan Ymchwil y Senedd i helpu Aelodau’r Cynulliad i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac i’w helpu i gynrychioli eu hetholwyr. Mae Ymchwil y Senedd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau fel y dangosir yn y ffeithlun hwn.

Sut i ymgysylltu ag Ymchwil y Senedd:

  • Dewch yn Gymrawd Academaidd yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r cynllun Cymrodoriaeth Academaidd yn galluogi academyddion ar lefel uwch yn eu gyrfa (ar ôl cwblhau PhD) i dreulio amser yn gweithio gyda staff Ymchwil y Senedd ar brosiect penodol, pan fo hyn o fudd i’r academydd ac i’r Cynulliad. Fel arfer mae galwad am ymgeiswyr bob blwyddyn galendr felly cadwch lygad ar y dudalen Cymrodoriaethau Academaidd i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, gwaith Cymrodyr blaenorol a dyddiadau allweddol.
  • Dewch yn intern PhD Ymchwil ac Arloesedd y DU. Mae rhagor o wybodaeth am leoliadau PhD ar gael yma.
  • Edrychwch drwy’r gwahanol dimau ymchwil yn Ymchwil y Senedd a chysylltwch â’r ymchwilydd neu’r Arweinydd Tîm perthnasol i roi gwybod iddo am eich ymchwil.
  • Cadwch lygad ar flog Pigion Ymchwil y Senedd i weld y materion sy’n cael sylw a chysylltwch os oes gennych arbenigedd perthnasol. Efallai y byddwn yn eich gwahodd i ysgrifennu erthygl ar ein blog.

Awgrymiadau cyffredinol

Ar unrhyw adeg benodol, bydd Aelodau’r Cynulliad yn ymdrin â nifer o wahanol faterion ac yn prosesu gwybodaeth amdanynt. Mae’n bwysig felly bod eich ymchwil mor hygyrch a pherthnasol â phosibl. Mae nifer o wahanol ffyrdd o wneud hyn:

  • Byddwch yn glir wrth gyfathrebu am ymchwil. Efallai na fydd yr AC yn arbenigwr yn y maes rydych am ei drafod felly dylech wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio cyn lleied o jargon â phosibl.
  • Os byddwch yn rhoi lincs i bapurau ymchwil neu ffynonellau eraill gwnewch yn siŵr eu bod yn rhai mynediad agored a’u bod yn ddarllenadwy i bobl nad ydynt yn academyddion.
  • Byddwch yn gryno wrth roi crynodeb o’ch ymchwil. Dim ond hyn a hyn o amser fydd gan Aelodau’r Cynulliad i ddarllen am eich ymchwil felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cyfleu eich gwaith mewn modd cryno a chlir.
  • Gan fwyaf, bydd Aelodau’r Cynulliad yn canolbwyntio ar feysydd polisi sydd wedi’u datganoli i Gymru a llai ar y rhai sydd wedi’u cadw ar lefel y DU. Cewch ragor o wybodaeth am bwerau sydd wedi eu datganoli neu eu cadw yma.

Ble i fynd i gael rhagor o wybodaeth

  • Mae tudalen we Ymgysylltu Academaidd Ymchwil y Senedd yn rhoi rhagor o wybodaeth am ffyrdd eraill o ymgysylltu ac unrhyw fentrau sydd ar y gweill.
  • Mae’r nodyn briffio ‘Effaith Ymchwil a Deddfwrfeydd’ a luniwyd ar y cyd gan bedair deddfwrfa’r DU yn rhoi trosolwg o effaith ymchwil mewn deddfwrfeydd. Cafodd ei ysgrifennu i lywio gwaith y pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU wrth iddynt ddatblygu meini prawf asesu ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf yn 2021.
  • Mae nodyn briffio tebyg ar ‘Gyfnewid Gwybodaeth a Deddfwrfeydd’ sy’n rhoi trosolwg o’r cyfnewid gwybodaeth rhwng prifysgolion a phedair deddfwrfa’r DU, er mwyn llywio datblygiad strategaethau a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth ar gyfer prifysgolion ac ymchwilwyr academaidd ledled y DU. 
  • Mae gan yr Ymgyrch dros y Gwyddorau Cymdeithasol ganllawiau ynghylch Llwybrau at Effaith sy’n cynnwys awgrymiadau penodol defnyddiol ynglŷn ag ymgysylltu â’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru.
  • Gwerthusiad annibynnol o waith ymgysylltu academaidd y Cynulliad, ochr yn ochr â rhai deddfwrfeydd eraill y DU gan Dr Danielle Beswick a Dr Marc Geddes (i ddod).

Erthygl gan Emily Tilby a Graham Winter, Ymchwil y Senedd

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Emily Tilby gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: