Deddf Trais yn erbyn Menywod (Cymru) 2015: cynnydd yn arafu?

Cyhoeddwyd 08/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Pasiwyd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) ym mis Ebrill 2015. Ym mis Rhagfyr 2016, gwnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau waith craffu ar ôl y broses ddeddfu mewn perthynas â'r Ddeddf, gan fynegi pryderon ynghylch pa mor gyflym y mae'n cael ei rhoi ar waith. Flwyddyn yn ddiweddarach, a oes unrhyw beth wedi newid?

Strategaeth genedlaethol

Roedd adrannau 3-4 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth genedlaethol ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol erbyn 5 Tachwedd 2016.

Cyhoeddwyd y Strategaeth Genedlaethol ar 4 Tachwedd 2016 fel dogfen strategol lefel uchel, yn hytrach na chynllun gweithredu manwl. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd wrth y Pwyllgor y byddai cynllun cyflawni manylach yn cael ei gyhoeddi fel ffordd o fynd drwy'r her gyfreithiol o beidio â chyflawni'r strategaeth ar yr adeg briodol.

Mynegodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau bryderon na fyddai modd gorfodi'r cynllun cyflawni yn gyfreithiol o dan y Ddeddf, yn wahanol i'r strategaeth genedlaethol. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai grŵp gorchwyl a gorffen yn pennu statws cyfreithiol ac amserlen y cynllun cyflawni.

Fwy na blwyddyn ar ôl lansio'r strategaeth genedlaethol, nid yw'r cynllun cyflawni wedi'i gyhoeddi o hyd.

Strategaethau lleol

Mae adrannau 5-8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gyhoeddi strategaethau lleol ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol erbyn mis Mai 2018.

Llaw yn gafael ar braich plentyn yn dyn

Ym mis Hydref 2016, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fod strategaethau lleol yn dechrau cael eu datblygu yn absenoldeb y cynllun cyflawni neu ganllawiau comisiynu, a allai arwain at anghysonderau o ran dulliau gweithredu ar draws Cymru.

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn nodi "caiff canllawiau eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017". Nid yw'n ymddangos eu bod wedi cael eu cyhoeddi.

Cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru Canfyddiadau ein Galwad am Dystiolaeth ynghylch Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ym mis Awst 2017, a ganfu fod "strategaethau lleol yn datblygu ond mae angen eu hintegreiddio â deddfwriaeth ddiweddar er mwyn iddynt fod yn gwbl effeithiol".

Addysg

Mae adran 9 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno adroddiad ar sut y maent yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysg. Cadarnhaodd y Llywodraeth ym mis Ebrill 2017 na fyddai'r Rheoliadau angenrheidiol i weithredu adran 9 yn cael eu dwyn ymlaen.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp arbenigol ar gydberthnasau iach ym mis Mawrth 2017 i roi cyngor ar y cwricwlwm newydd. Mae'n ymddangos y lluniodd y grŵp adroddiad interim ym mis Gorffennaf 2017 (nad yw ar gael i'r cyhoedd), ac mae disgwyl gweld ei argymhellion terfynol 'yn yr hydref'.

Cyhoeddwyd adolygiad Estyn o addysg perthnasoedd iach ym mis Mehefin 2017, a ganfu fod "cynnwys addysg perthnasoedd iach, a’r ffordd y caiff ei chyflwyno, yn amrywio gormod mewn ysgolion ledled Cymru. At ei gilydd, nid yw ysgolion yn neilltuo digon o amser na phwysigrwydd i’r agwedd hon ar addysg bersonol a chymdeithasol."

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllaw Arfer Da: Dull Addysg Gyfan o fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru (a ddatblygwyd ar y cyd â Chymorth i Fenywod Cymru) ym mis Hydref 2015. Cyhoeddwyd canllaw ymarferol ar gyfer llywodraethwyr ysgol ym mis Mawrth 2016.

Addysg uwch

Mae adran 10 yn rhoi i Weinidogion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) y pŵer i gyhoeddi canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch. Ni ymddengys bod unrhyw gynnydd wedi bod yn y maes hwn.

Dangosyddion cenedlaethol

Mae adrannau 11-13 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi dangosyddion cenedlaethol i fesur y camau a gymerir i gyflawni amcanion y Ddeddf, a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar hyn. Nid yw'r dangosyddion cenedlaethol wedi'u cyhoeddi nac wedi bod yn destun ymgynghoriad.

Nododd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau na fyddai'r dangosyddion cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi cyn mis Hydref 2017.

Canllawiau statudol

Mae adrannau 14-19 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol.

  • Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn 2016 y byddai'r canllawiau comisiynu statudol yn destun ymgynghoriad erbyn mis Gorffennaf 2017. Nid ydynt wedi'u cyhoeddi nac wedi bod yn destun ymgynghoriad eto;
  • Mae canllawiau'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol mewn grym;
  • Daeth yr ymgynghoriad Gofyn a Gweithredu i ben ym mis Ionawr 2016. Mae prosiectau peilot ar y gweill ar hyn o bryd yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg ac yng Ngwent. Roedd llythyr diweddar Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn nodi bod Gofyn a Gweithredu yn cael ei gyflwyno'n raddol, yn hytrach na chael ei gyflwyno'n llawn yn genedlaethol;
  • Roedd y canllawiau cydweithio amlasiantaethol yn destun ymgynghoriad yn 2015. Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn nodi y caiff y canllawiau amlasiantaethol eu hystyried yng ngoleuni'r Papur Gwyn llywodraeth leol. Nid ydynt wedi'u cyhoeddi eto; ac
  • Yn ôl y dystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ymgynghorwyd ar y canllawiau ar weithio gyda chyflawnwyr gyda'r Bwrdd Cynghori yn 2015, ond nid ydynt wedi'u cyhoeddi.

Cynghorydd Cenedlaethol

Mae adrannau 20-23 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru benodi Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i roi cyngor, gwneud gwaith ymchwil a llunio adroddiadau.

Penodwyd Rhian Bowen-Davies yn Gynghorydd Cenedlaethol rhan-amser ym mis Gorffennaf 2015. Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddodd y byddai'n rhoi'r gorau i'w rôl, a gadawodd ym mis Hydref 2017.

Yn 2016, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei bod yn anodd i'r Cynghorydd wneud y gwaith yn effeithiol yn rhan amser, ac argymhellwyd y dylid adolygu capasiti'r rôl. Cafodd y swydd ei hysbysebu fel rôl llawn-amser, a'r dyddiad cau oedd 14 Medi 2017. Nid yw'r penodiad wedi'i gyhoeddi eto.

Datblygiadau eraill

Mewn dogfen ymgynghori ynghylch cyllid ar gyfer tai â chymorth, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017, cynigiodd Llywodraeth y DU i gael gwared ar lochesau a mathau eraill o dai â chymorth tymor byr o'r system les, sy'n golygu na fydd pobl yn gallu defnyddio'u budd-dal tai i dalu am dai â chymorth. Yn hytrach, mae'n cynnig bod awdurdodau lleol Lloegr a gweinyddiaethau datganoledig Cymru a'r Alban yn cael grant wedi'i neilltuo ar gyfer tai â chymorth tymor byr.

Ym mis Medi 2017, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y bydd yn eithrio llochesau o'r cap Lwfans Tai Lleol ar fudd-dal tai ar gyfer llety â chymorth.

Disgwylir y bydd y Bil Trais a Cham-drin Domestig sydd ar y gweill gan Lywodraeth y DU:

  • yn sefydlu rôl comisiynydd trais a cham-drin domestig;
  • yn pennu diffiniad cyfreithiol o gam-drin domestig, gan gydnabod bod cam-drin domestig yn ymestyn y tu hwnt i drais;
  • yn creu cyfundrefn gyfunol newydd ar gyfer atal cam-drin domestig a gorchmynion amddiffyn er mwyn creu llwybr cymorth cliriach i ddioddefwyr, ac
  • yn galluogi'r DU i erlyn rhai troseddau sy'n digwydd y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol mewn perthynas â rhai troseddau trais yn erbyn menywod a merched, fel trais rhywiol dros 18 oed ac ymosodiad rhywiol.

Yn ei llythyr mwyaf diweddar at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r amcangyfrif o gyfanswm cost gweithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol rhwng 2014-15 a 2017-18 oedd £1,406,800. Y gwir gost oedd £937,292 (gan gynnwys cyllid a ddyrannwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon), ond nid yw'n cynnwys costau staff.

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn nodi bod "datblygu model cyllido cynaliadwy yn flaenoriaeth er mwyn cyflawni’r Strategaeth Genedlaethol. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys adolygu cyllid presennol Llywodraeth Cymru sy’n cyfrannu at wasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r adnoddau sydd ar gael[...] Byddaf [yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd] yn cael adroddiad ar y cynnydd yn y Grŵp Cynghori ym mis Gorffennaf 2017." Nid oes unrhyw gyhoeddiad wedi bod am hyn eto.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun o media.defense.gov gan Mariah Haddenham. Dan drwydded Creative Commons.