Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Economi Yr Amgylchedd

Y Cynulliad i drafod adroddiad Pwyllgor ar wella coetiroedd Cymru

Bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad Pwyllgor ar wella coetiroedd Cymru ar 13 Rhagfyr. Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad - Heb gyrraedd gwreiddyn y mater - uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd - yn y Sioe Frenhinol yn ôl ym mis Gorffennaf. Mae'r adroddiad yn gwneud 13 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, â'r nod o wella cyfraniad amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol coetiroedd Cymru.

08 Rhagfyr 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad Pwyllgor ar wella coetiroedd Cymru ar 13 Rhagfyr.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad – Heb gyrraedd gwreiddyn y mater – uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd – yn y Sioe Frenhinol yn ôl ym mis Gorffennaf. Mae’r adroddiad yn gwneud 13 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, â’r nod o wella cyfraniad amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol coetiroedd Cymru.


Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn cyfrannu at yr adolygiad o’r Strategaeth Coetiroedd i Gymru, y cytunodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, i’w gynnal erbyn dechrau 2018. Ar ôl ailstrwythuro Cabinet Llywodraeth Cymru ar 3 Tachwedd, mae coedwigaeth a choetiroedd bellach yn gyfrifoldeb i Weinidog newydd yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC.

Ymchwiliad y Pwyllgor

Casglodd y Pwyllgor doreth o dystiolaeth dros bum mis yr ymchwiliad, gan glywed gan amrywiaeth o randdeiliaid o faes coedwigaeth fasnachol, y meysydd amgylcheddol, cymunedol ac academaidd, a’r byd hamdden yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd. Roedd hyn yn cynnwys tystiolaeth ysgrifenedig, sesiynau tystiolaeth lafar ffurfiol a gweithdy i randdeiliaid.

Hefyd, aeth Aelodau’r Pwyllgor i ymweld â choetiroedd a busnesau coetir yng Nghasnewydd, Dinas Powys, Crymlyn, Merthyr Tudful, y Bontnewydd ar Wy, Pwllheli a Maesteg. Yma, cawsant gyfle i ddysgu rhagor am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu perchnogion a rheolwyr coetiroedd, yn benodol ym meysydd coedwigaeth fasnachol, cadwraeth, mynediad cymunedol a gweithgareddau hamdden.

Adroddiad y Pwyllgor

Mae chwe rhan i’r adroddiad.Clychau'r gog mewn coetir hynafol

Mae rhan 1 yn tynnu sylw at y ffaith mai ychydig iawn o goetiroedd a grëwyd yng Nghymru yn ystod blynyddoedd diwethaf; ar gyfartaledd, plannwyd dim ond 10 y cant o’r targed a bennwyd yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd (2010). Daeth y Pwyllgor i’r casgliad mai rhesymau rheoleiddiol, biwrocrataidd, ariannol a diwylliannol oedd yn gyfrifol am hyn.

Yn ystod y sesiynau tystiolaeth lafar, cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet fod angen newid radical i fodloni’r targed. Nododd fod Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i gysoni’r prosesau rheoleiddio a chyllido’n well, ac i roi mwy o gymorth i ymgeiswyr. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod hefyd wedi ymrwymo i dynnu sylw’r gymuned ffermio at fanteision coetiroedd.

Mae Rhannau 2 i 5 yn dilyn y pedair thema a geir yn y strategaeth Coetiroedd i Gymru, sef: ymateb i’r newid yn yr hinsawdd; coetiroedd i bobl; sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig; ac ansawdd yr amgylchedd.

  • Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod ein gallu yng Nghymru i liniaru allyriadau carbon wedi’i gyfyngu oherwydd nad yw coetiroedd yn cael eu plannu, ac nad yw’r gwaith o addasu i’r perygl llifogydd cynyddol wedi cael sylw digonol;
  • Gwelwyd cynnydd da o ran y modd y mae grwpiau cymunedol yn defnyddio coetiroedd, ac yn y defnydd ohonynt ar gyfer gweithgareddau hamdden, ond roedd y duedd i’r gorchudd canopi leihau mewn ardaloedd trefol yn destun pryder;
  • Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod problem arbennig yn codi o’r ffaith nad oes coed conwydd yn cael eu plannu, gan y bydd hynny’n dechrau cyfyngu’n ddifrifol ar hyfywedd y sector coedwigaeth fasnachol yn y dyfodol agos; a
  • Chredir bod y prinder arian ar gyfer rheoli coetiroedd brodorol yn effeithio ar y gwaith o adfer planhigfeydd ar goetiroedd hynafol, ac ar ansawdd amgylcheddol coetiroedd yn fwy cyffredinol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor ei bod yn awyddus i Gymru gynhyrchu rhagor o bren ac i hwnnw gael ei ddefnyddio’n fwy eang yn y diwydiant adeiladu. Mae hi hefyd wedi ymrwymo i ystyried y posibilrwydd o ailgyflwyno Cynllun Rheoli Coetiroedd Glastir, a chyhoeddi canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol ar blannu coed mewn trefi.

Mae rhan 6 yn archwilio sut y gellid gwella’r strategaeth Coetiroedd i Gymru yn y dyfodol, a hynny’n benodol drwy sicrhau ei bod yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn olaf, mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth adael yr UE, i:

  • Ddatblygu cyfleoedd ariannu arloesol megis Taliadau am Wasanaethau Ecosystemau; a
  • Gwella’r modd y caiff dulliau o ddefnyddio tir gwledig, gan gynnwys coedwigaeth ac amaethyddiaeth, eu hintegreiddio mewn polisi ehangach ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy. Mae hyn yn cyd-fynd â chanfyddiadau adroddiad blaenorol y Pwyllgor: Dyfodol Rheoli Tir yng Nghymru.

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet

Cafwyd ymateb ffurfiol gan Ysgrifennydd y Cabinet i’r adroddiad ym mis Medi. Derbyniodd 12 o’r 13 argymhelliad, er bod naw o’r rhain wedi’u derbyn mewn egwyddor yn unig. Gwrthododd un yn unig.

Roedd yr argymhelliad a wrthodwyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau isafswm o 20 y cant o orchudd canopi gan goed mewn trefi, gan fynd i’r afael â hynny drwy Gynlluniau Llesiant Lleol a Datganiadau Ardal. Dadleuodd Ysgrifennydd y Cabinet fod un targed yn annhebygol o gynorthwyo i gyflawni nodau’r Pwyllgor ac y byddai’n niweidio’r broses a ragwelir o dan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf a’r Amgylchedd, lle y byddai penderfyniadau’n cael eu gwneud yn lleol.

Ymateb

Dywedodd Confor fod yr adroddiad yn hwb enfawr i’r diwydiant coedwigaeth a’i fod yn cyfleu’r neges ganolog y mae busnesau coed a choedwigaeth wedi bod yn aros amdani – plannu mwy o goed ac yn enwedig mwy o goed masnachol, i ddarparu’r deunydd crai i sbarduno’r economi wledig.

Croesawodd Cyswllt Amgylchedd Cymru yr adroddiad ac ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu’r strategaeth Coetiroedd i Gymru. Nododd ei fod o’r farn y dylai targedau hirdymor ar gyfer cynyddu gorchudd coed geisio cyflawni coedwigaeth amlbwrpas sy’n darparu ar gyfer bioamrywiaeth a mynediad i’r cyhoedd yn ogystal â phren cynaliadwy wedi’i dyfu yn y wlad hon.

Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru hefyd yn cefnogi cynigion wedi’u cynllunio’n dda ar gyfer cynyddu’r gorchudd coed mewn trefi i o leiaf 20 y cant, gan dynnu sylw at fanteision i ansawdd aer, bioamrywiaeth ac iechyd a lles trigolion.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru