Cyhoeddiad newydd: Cynllunio Gofodol Morol

Cyhoeddwyd 05/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 12 Rhagfyr 2017. Mae’n cael ei phostio eto cyn y Ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar Gynllun Drafft Morol Cenedlaethol Cymru ar 09 Ionawr 2018.

Sefydlodd Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 system newydd ar gyfer cynllunio ym moroedd y DU. Nod y broses cynllunio morol yw sicrhau bod rhanddeiliaid yn deall pa weithgareddau sy’n debygol o gael eu caniatáu yn y gwahanol ardaloedd a datrys, cyhyd ag y bo modd, unrhyw wrthdaro’n ymwneud â defnyddio’r môr a hynny ar sail ofodol. Mae'r papur briffio ymchwil hwn yn rhoi cyflwyniad i gynllunio gofodol morol ac yn amlinellu'r sefyllfa bresennol o ran cynnydd yng Nghymru, ar draws y DU ac Iwerddon.

Cyhoeddiad newydd: Cynllunio Gofodol Morol (PDF, 2,007KB)

Dyma ddelwedd o glawr y cyhoeddiad


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru