Gwelyau ysbyty yng Nghymru; rôl bresennol ac yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 13/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r pwysau ar wasanaethau gofal iechyd ledled y DU wedi'u dogfennu'n dda, a cheir trafodaethau parhaus ynghylch math a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ateb y galw hwnnw. Mae gwasanaethau cleifion mewnol mewn ysbytai yn rhan hanfodol o'r gwasanaethau hynny ac mae un o brif bwyntiau'r ddadl yn ymwneud â gwelyau ysbyty; nifer y gwelyau, sut y cânt eu defnyddio ac a oes digon i ofalu am y nifer cynyddol o gleifion a welir ym mhob rhan o'r GIG. Wrth i'r gaeaf nesáu, daw'r ddadl ynghylch galw a chapasiti'r gwasanaeth yn arbennig o ddifrifol.

Cefndir - y galw am wasanaethau iechyd

Yn ystod hydref 2016, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ymchwiliad i ba mor barod yr oedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru ar gyfer gaeaf 2016/17. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y galw cynyddol ar wasanaethau yn ystod misoedd y gaeaf ond hefyd pa mor amlwg oedd y pwysau hynny drwy gydol y flwyddyn - yn enwedig ar wasanaethau gofal heb ei drefnu. Nododd BMA Cymru:

There is an ever increasing demand for health services across the NHS which is exacerbated during winter months. Demand within the health service is now so great that hospitals are full all year round, preventing the system from coping with a seasonal spike in demand.

Nododd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bwysau ychwanegol y gaeaf ond pwysleisiodd hefyd mai'r hyn sydd wedi dod yn amlwg yn fwy diweddar yw bod pwysau'r system bellach yn parhau yn ystod y flwyddyn gyfan i raddau mwy neu lai. Ar ei rhan, dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru nad yw'r darlun hwn wedi'i gyfyngu i Gymru ond y caiff ei gydnabod ledled y DU fel realiti drwy gydol y flwyddyn; mae adroddiad 2016 gan Bwyllgor Iechyd Tŷ'r Cyffredin ar bwysau'r gaeaf a gwaith ymchwil gan Gronfa'r Brenin yn cefnogi'r farn hon.

Yn yr un modd, mae adroddiad Llywodraeth Cymru Gaeaf 2016/17 - Gwerthusiad o wydnwch gwasanaethau iechyd a gofal (2017) yn nodi bod derbyniadau mewn ysbytai o adrannau brys mawr yng Nghymru wedi cynyddu tua 7 y cant ers 2011-12, gyda 13,203 o gleifion ychwanegol wedi'u derbyn i wely ysbyty yn 2016-17 o'i gymharu â 2015-16.

Deall y capasiti o ran gwelyau ysbyty

Mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos yn glir y gostyngiadau yn nifer y gwelyau ysbyty ar draws y GIG. Mae'r BMA wedi cyhoeddi adroddiadau'n dangos gostyngiadau yng nghapasiti cleifion mewnol mewn ysbytai ym mhob un o'r pedair gwlad yn y DU ers 2010-11. Mae gwaith a wnaed gan Gronfa'r Brenin a data'r GIG ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn dangos y duedd hon. Mae data a gyhoeddwyd gan StatsCymru yn dangos bod cyfanswm y gwelyau ysbyty yn GIG Cymru wedi gostwng o 12,149 yn 2010-11 i 10,856 yn 2016-17, gyda chynnydd yn y gyfradd gyffredinol o welyau a ddefnyddir o 84.7 y cant i 87.4 y cant dros yr un cyfnod.

Mae nifer o gyrff proffesiynol wedi mynegi pryderon ynghylch y duedd hon, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Coleg Brenhinol y Meddygon, y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a BMA Cymru. Ar yr un pryd, mae'r ffigurau hyn yn haeddu archwiliad pellach. Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer cyffredinol y gwelyau, mae arloesedd meddygol a newidiadau mewn arferion clinigol wedi chwarae rhan, gan gynnwys cynnydd mewn llawdriniaeth achos dydd, llai o amser aros yn yr ysbyty a mwy o driniaeth yn y gymuned mewn rhai arbenigeddau, megis iechyd meddwl.

Felly, gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar ddata mewn nifer o arbenigeddau penodol.

Tabl 1: Nifer cyfartalog y gwelyau dyddiol sydd ar gael a chanran y gwelyau sy'n cael eu defnyddio, 2012-13 i 2016-17

Ffynhonnell: StatsCymru, Data cryno ar welyau’r GIG yn ôl blwyddyn Er gwybodaeth: Mae nifer y gwelyau dyddiol cyfartalog sydd ar gael wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf

Yn gyffredinol mae Tabl 1 yn dangos gostyngiadau yn nifer y gwelyau, ond hefyd cyfradd uchel barhaus yn y gwelyau acíwt meddygol a meddygaeth geriatrig sy'n cael eu defnyddio. Mae dadl ynghylch y lefelau diogel a phriodol o ddefnyddio gwelyau, gyda gwaith gan Goleg Brenhinol Meddygon Caeredin yn cefnogi 85 y cant, a gwaith ymchwil arall yng Nghyfnodolyn Meddygol Prydain yn awgrymu 80-85 y cant. Yn y dystiolaeth a roddwyd i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad, dywedodd BMA Cymru:

Once you go above 85 per cent bed occupancy, you can predict that you can’t cope with fluctuations. You need about a 20 per cent surplus of beds to cope with the kind of fluctuations that we’re talking about. When you’ve got bed occupancies running at 86 or 87 per cent, you start getting C. diff; that delays the discharge of patients as well. (paragraff 47)

Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys hefyd wedi dadlau y gall lefelau uchel o ddefnyddio gwelyau olygu bod cleifion yn cael eu rhoi ar wardiau nad ydynt yn benodol neu'n briodol i'w hanghenion, gan arwain at wellhad arafach ac oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Mae adroddiad Llywodraeth Cymru ar Aeaf 2016-17 yn nodi mai'r gyfradd gorau posibl o ran defnyddio gwelyau yw 85 y cant.

Cynllunio capasiti cleifion mewnol

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod yn rhaid i brosesau cynllunio tair blynedd a chynlluniau tymhorol byrddau iechyd sicrhau bod y capasiti yn cyd-fynd â'r galw a ragwelir am ofal wedi'i drefnu a heb ei drefnu; byddai hyn yn cynnwys y gallu i fod yn hyblyg o ran capasiti ar adegau o alw cynyddol. Ar gyfer gaeaf 2016-17, gwnaeth GIG Cymru welyau ychwanegol ar gael i ymdopi â galw uwch, er bod staffio'r gwelyau hynny wedi peri anawsterau. Roedd gwerthusiad Llywodraeth Cymru yn nodi yr ymddengys nad oedd digon o gapasiti o hyd i ddiwallu'r galw ac mae wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu capasiti gwelyau ysbyty a gwelyau cymunedol ar gyfer gaeaf 2017-18.

Dull system gyfan

Roedd yr adroddiad ar baratoadau gaeaf 2016-17 gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad hefyd yn pwysleisio'r angen i ystyried gwelyau ysbyty fel rhan o wasanaeth ehangach yn hytrach nag ar ei ben ei hun. Yn wir, roedd ei adroddiad yn argymell yn benodol fod mwy o ffocws ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y gaeaf hwn yn cynnwys cynigion ar gyfer gwasanaethau ataliol, cymunedol, gofal sylfaenol a gwasanaethau gwaith cymdeithasol cryfach yn ogystal â chefnogaeth ychwanegol i gartrefi gofal. Mae'r olaf o nodyn arbennig, gan fod nifer y lleoedd sydd ar gael mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru hefyd wedi gostwng - dros 1,100 ers 2011.

Ailadroddwyd yr angen am ddull mwy integredig o ran cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn yr Adolygiad o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: adroddiad interim (Gorffennaf 2017). Roedd yr adroddiad yn galw am fodelau gofal newydd yng Nghymru a oedd yn cyfuno gofal sylfaenol, gofal ysbytai, a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol. Mae cyfeiriad y syniadau'n ymddangos yn glir; mae gwasanaethau ysbyty a gwelyau yn elfen hanfodol o wasanaethau gofal iechyd, mae argaeledd capasiti digonol i ateb y galw yn ddiogel yn hanfodol ond dylai gwasanaethau cleifion mewnol gael eu cynllunio a'u cyflwyno fwyfwy fel un elfen o system gyfan ehangach o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio gyda'i gilydd.


Erthygl gan Dr Paul Worthington a Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru