Post blog gwadd Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy Cost Cudd Bwyd y DU

Cyhoeddwyd 14/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn y post blog gwadd hwn, mae Emma Rose o'r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy yn cyflwyno canlyniadau o astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Ymddiriedolaeth, The Hidden Cost of Food (PDF 23.9MB).

Mae'r astudiaeth yn cynnig trosolwg o gost y mae'r Ymddiriedolaeth yn disgrifio fel “allanoldebau negyddol” system fwyd y DU. Yn seiliedig ar adolygiad helaeth o dystiolaeth a gyhoeddwyd, amcangyfrifir bod y system fwyd yn cynhyrchu cost ychwanegol o £120 biliwn, yn ogystal â'r £120 biliwn a gaiff ei wario bob blwyddyn gan ddefnyddwyr ar fwyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn awgrymu bod y costau hyn yn cael eu trosglwyddo i gymdeithas mewn sawl ffordd.

Canfyddiadau'r astudiaeth

Mae cyfanswm cost allanoldebau'r system fwyd a nodwyd yn yr adroddiad hwn bron 30 gwaith yn uwch nag y nodwyd mewn amcangyfrifon blaenorol. Daw'r astudiaeth i'r casgliad, am bob £1 sy'n cael ei wario ar fwyd, codir costau 'cudd' ychwanegol o £1.

Cyfran fwyaf costau allanol y system bwyd cudd yw costau yn ymwneud â chynhyrchu, y gellir eu priodoli i effeithiau dulliau cynhyrchu dwys fel llygredd amgylcheddol, gostwng adnoddau dynol, diraddio pridd, colli bioamrywiaeth a rhai effeithiau iechyd. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn cyfateb i 50c ychwanegol am bob £1 sy'n cael ei wario ar fwyd.

Mae'r astudiaeth yn awgrymu bod ymddangosiad diwydiant bwyd sy'n gysylltiedig â marchnata a gwerthu bwydydd wedi'u prosesu llawer wedi gwaethygu tueddiad y defnyddiwr i fwyta bwyd afiach, a'r allanoldebau salwch yn ymwneud â bwyd a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Mae costau gofal iechyd yn ymwneud â bwyd sy'n gysylltiedig â deiet gwael - fel clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, canser, pydredd dannedd, diffyg maeth, pwysedd gwaed uchel, bod dros bwysau a gordewdra - yn cyfrif am 37c ychwanegol.

Yn ogystal â hyn:

  • Mae mewnforio bwyd i'r DU yn cyfrif am 7.8c ychwanegol am bob £1 sy'n cael ei wario.
  • Canfu fod costau rheoleiddio, gweinyddol ac ymchwil yn cyfrif am 2.7c arall am bob £1 sy'n cael ei wario ar fwyd mewn ffyrdd ychwanegol.
  • Mae taliadau cymorth i ffermydd yn cyfrif am 2.5c ym mhob £1 cudd sy'n cael ei wario ar fwyd.

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod y costau allanol hyn yn cael eu talu gan ddinasyddion mewn sawl ffordd; drwy drethi cyffredinol a lleol, yswiriant gofal iechyd preifat, incwm wedi'i golli, a chostau gan gwmnïau dŵr - yn rhannol i dalu am y costau o leihau lefelau rhai plaladdwyr a nitradau mewn dŵr yfed i lefelau sy'n dderbyniol yn gyfreithiol.

Beth yw'r broblem gyda chostau cudd?

Ym mhresenoldeb allanoldebau cudd, daw'r Ymddiriedolaeth i'r casgliad nad yw costau llawn gweithgaredd wedi'u cynnwys ym mantolenni'r busnesau sy'n rhaid eu talu, na'u hadlewyrchu ym mhris manwerthu bwyd, sy'n ei gwneud hi'n anodd i ddinasyddion wneud dewisiadau da am beth maent yn ei fwyta.

Mae allanoldebau'r costau hyn yn gwanhau'r achos busnes i'r rhan fwyaf o gynhyrchwyr bwyd, proseswyr neu fanwerthwyr i fuddsoddi mewn arferion mwy cynaliadwy. Yn yr un modd, mae busnesau sy'n mabwysiadu ffyrdd mwy cynaliadwy o gynhyrchu, prosesu neu ddosbarthu bwyd yn aml yn mynd i gostau ychwanegol heb gael budd o unrhyw arian ar gyfer y gwerth cymdeithasol neu amgylcheddol a gynhyrchir gan eu gweithgareddau. O ganlyniad, mae'n rhaid i fusnesau o'r fath fel arfer godi premiwm am gynnyrch bwyd, gan gyfyngu ar eu sail cwsmeriaid i'r rhai sy'n gallu fforddio'r nwyddau hyn. Felly, gellir dweud bod economi bwyd y DU yn ffafrio arferion cynhyrchu bwyd llai cynaliadwy.

Dadansoddiad o gostau allanol y system fwyd yn y DU yn 2015

Mynd i'r afael â phroblem costau cudd

Ar hyn o bryd, nid oes fframwaith cyffredinol ar gyfer meintoli a mesur effeithiau negyddol amrywiol y systemau bwyd. Drwy ddarparu amcangyfrif ystyriol o gostau ariannol yr effeithiau hyn, nod yr adroddiad hwn yw llenwi rhai o'r bylchau presennol yn y data, er ei fod yn gyfyngedig oherwydd y diffyg data dibynadwy mewn rhai meysydd. Er mwyn creu darlun mwy cywir o'r rhwydwaith o effeithiau system bwyd, mae angen gwaith ymchwil academaidd pellach ar y mater hwn. Mae'r Ymddiriedolaeth yn credu bod gwaith o'r fath yn hanfodol i helpu gwneuthurwyr polisi a busnesau i nodi a blaenoriaethu'r meysydd hynny o'r system fwyd sy'n fwyaf niweidiol i gymdeithas. Dylai hyn geisio rhoi darlun cliriach o effeithiau'r system fwyd benodol yng Nghymru a'r gwledydd datganoledig eraill.

Mae'r awduron yn gwneud tri argymhelliad i Lywodraeth y DU:

  1. Dylai pobl agwedd ar bolisi amaethyddol y DU ar ôl Brexit gael ei hategu gan arfarniad o wir costau a manteision gwahanol systemau a thechnegau cynhyrchu bwyd.
  2. Dylid ailgyfeirio cymorthdaliadau cyhoeddus mewn modd a fydd yn peidio â chefnogi arferion sy'n niweidiol i'r amgylchedd, tuag at systemau bwyd a mathau o fwyd sy'n darparu nwyddau cyhoeddus dilys;
  3. Dylid ystyried defnyddio trethi ar yr allbynnau amaethyddol mwyaf niweidiol. Un enghraifft fyddai cyflwyno treth ar bob tunnell o wrtaith nitrogen, gyda'r incwm a godir yn cael ei ddefnyddio i ddigolledu ffermwyr am y costau ychwanegol sydd ynghlwm a mabwysiadu arferion sydd wedi'u profi i gynyddu arferion dal a storio carbon yn y pridd.

Integreiddio gwir gyfrifo costau i waith ymchwil a datblygu polisi amaethyddol

Yn amlwg, mae llawer o ansicrwydd ynghylch dyfodol bwyd a ffermio yn y DU. Mae llawer o randdeiliaid yn hyrwyddo dulliau polisi sy'n annog systemau a thechnegau cynhyrchu bwyd sy'n darparu nwyddau cyhoeddus diriaethol. Mae'r Ymddiriedolaeth yn credu y gallai'r costau cudd a nodir gan yr astudiaeth hon fod yn arwydd defnyddiol o ble mae'r niwed mwyaf i'r cyhoedd, gan alluogi gwneuthurwyr polisi i strwythuro cymhellion ariannol a chymorthdaliadau yn y dyfodol mewn modd sy'n peidio â chefnogi'r arferion sy'n eu hachosi, ac ailgyfieio'r rhain i fod yn fwy effeithiol o ran cynaliadwyedd amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd.

Fel y nodwyd uchod, mae'r Ymddiriedolaeth yn credu bod angen rhagor o waith ymchwil ar yr heriau penodol sy'n wynebu bwyd a ffermio yn y gwledydd datganoledig. Mae llawer o'r data yn yr adroddiad hwn wedi'i gyfuno ar gyfer Cymru a Lloegr. Gallai arfarniad costau gwirioneddol o'r tirlun bwyd a ffermio unigryw yng Nghymru, gyda'i heffeithiau a rhyngddibyniaethau gwahanol, helpu i lywio trafodaethau ynghylch fframwaith ar gyfer bwyd a ffermio yn y DU ar ôl Brexit, a sicrhau bod gan y gweinyddiaethau datganoledig lais yn y broses hon.

Mae adroddiad cryno (PDF 9.1MB) wedi'i gyhoeddi ar y cyd â'r adroddiad llawn (PDF 23.9MB).


Erthygl gan Emma Rose, Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy (post blog gwadd)