Gwerth ychwanegol gros yng Nghymru – y penawdau a thu hwnt

Cyhoeddwyd 04/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r ystadegau diweddaraf ynghylch gwerth ychwanegol gros a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar 20 Rhagfyr yn dangos mai Cymru sydd â'r gwerth ychwanegol gros isaf y pen o hyd o blith gwledydd a rhanbarthau'r DU, sef 72.7% o gyfartaledd y DU yn 2016. Fodd bynnag, Cymru sydd â'r twf mwyaf mewn gwerth ychwanegol gros y pen o blith gwledydd y DU, sef 3.5% rhwng 2015 a 2016, gyda dim ond Llundain o blith rhanbarthau Lloegr yn gweld mwy o dwf mewn gwerth ychwanegol gros y pen.

Felly, i fynd i fwy o fanylder o'r penawdau, sut mae perfformiad yn amrywio ar draws Cymru, sut mae ffordd newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol o fesur gwerth ychwanegol gros yn gweithio, ac ai gwerth ychwanegol gros yw'r elfen hollbwysig wrth asesu perfformiad economaidd Cymru?

Beth yw'r penawdau o'r cyhoeddiad diweddaraf ynghylch gwerth ychwanegol gros o safbwynt perfformiad ledled Cymru?

Yn 2016, roedd gwerth ychwanegol gros holl wledydd a rhanbarthau'r DU yn is na chyfartaledd y DU, ac eithrio Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Gwerth ychwanegol gros y pen Cymru fel canran o gyfartaledd y DU yw'r isaf o blith holl wledydd a rhanbarthau'r DU ers 2001. Yn yr un modd, Gorllewin Cymru a'r Cymoedd sydd â'r lefel isaf o werth ychwanegol gros y pen fel canran o gyfartaledd y DU o blith holl ardaloedd NUTS 2 y DU (yr ardaloedd a ddefnyddiwyd yn hanesyddol i bennu dyraniadau cronfeydd strwythurol yr UE) ers 1998.

Mae'r ffigurau hyn yn rhan o'r cyd-destun ar gyfer yr anghydraddoldebau disymud, hirdymor a strwythurol a amlygwyd yng Nghynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru fel her allweddol sy'n wynebu Cymru. Mae'r anghydraddoldebau hyn wedi datblygu dros genedlaethau, ac mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen mynd i'r afael â hwy ar lefel llywodraeth gyfan, ynghylch â gwneud Cymru'n fwy cystadleuol a mynd i'r afael ag amrywiadau daearyddol o ran canlyniadau economaidd.

Er bod gwerth ychwanegol gros pob un o ardaloedd NUTS3 Cymru yn is na chyfartaledd y DU, ceir amrywiadau o ran perfformiad economaidd ledled Cymru. Ynys Môn a Chymoedd Gwent sydd â'r lefelau isaf o werth ychwanegol gros y pen o blith holl ranbarthau NUTS3 y DU, gyda gwerth ychwanegol gros y pen yn 51.8% a 56.0% o gyfartaledd y DU yn 2016 yn y ddwy ardal. Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod cymudo'n effeithio ar ffigurau gwerth ychwanegol gros ardaloedd llai, gyda mwy o bobl yn cymudo allan nag yn cymudo i mewn i ardaloedd fel Ynys Môn. Mae hyn yn golygu bod eu poblogaethau'n cyfrannu at werth ychwanegol gros ardaloedd eraill.

I'r gwrthwyneb, Caerdydd a Bro Morgannwg sydd â'r gwerth ychwanegol gros uchaf y pen o blith ardaloedd NUTS 3 Cymru ers 1999, gyda gwerth ychwanegol gros y pen o 93.8% o gyfartaledd y DU yn 2016.

Byddwn yn edrych yn fanylach ar ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a rhanbarthau economaidd Llywodraeth Cymru mewn erthygl arall yfory.

Ffigur 1: Gwerth ychwanegol gros y pen fel canran o gyfartaledd y DU, gwledydd a rhanbarthau'r DU yn 2016

Graff yn dangos gwerth ychwanegol gros y pen fel canran o gyfartaledd y DU, gwledydd a rhanbarthau'r DU yn 2016.

Ffigur 2: Gwerth ychwanegol gros y pen fel canran o gyfartaledd y DU, rhanbarthau NUTS 3 Cymru, 2016

Graff yn dangos gwerth ychwanegol gros y pen fel canran o gyfartaledd y DU, rhanbarthau NUTS 3 Cymru, 2016

Beth yw'r mesur 'cytbwys' o werth ychwanegol gros, a sut mae'n wahanol i'r mesur 'incwm' a oedd yn brif fesur gwerth ychwanegol gros yn flaenorol?

Mewn blynyddoedd blaenorol, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddau fesur ar wahân o werth ychwanegol gros. Mae'r mesur 'cytbwys' a gyflwynwyd ar gyfer ffigurau 2016 yn defnyddio'r ddau fesur, ac yn eu pwysoli'n unol ag ansawdd pob agwedd ar y ddau fesur i greu amcangyfrif terfynol o werth ychwanegol gros ardal. Y prif fesur a ddefnyddiwyd yn flaenorol oedd y dull 'incwm' o fesur gwerth ychwanegol gros, sy'n adio cydrannau incwm at ei gilydd fel cyflogau cyflogeion, incwm rhent ac elw a gwargedion masnachu. Fodd bynnag, datblygodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol dull 'cynhyrchu' hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy'n mesur gwerth ychwanegol gros fel cyfanswm allbwn nwyddau a gwasanaethau, a thynnu gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a ddefnyddir yn y broses gynhyrchu.

Daeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r casgliad mai gwendid cael dau fesur gwahanol oedd nad oedd mesur pendant o werth ychwanegol gros, ac o ganlyniad datblygodd y mesur 'cytbwys'. Mae hyn yn debyg i ddull y Swyddfa Ystadegau Gwladol o fesur cynnyrch domestig gros DU.

Pa ddata arall y gallai fod eu hangen i gael dealltwriaeth fwy cyflawn o berfformiad economaidd Cymru?

Mae dadansoddiad gan Brif Economegydd a Phrif Ystadegydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2015, yn datgan bod angen ystod o ddangosyddion i fesur perfformiad economaidd, gan gynnwys cyfraddau cyflogaeth, enillion a'r gyfradd tlodi, yn ogystal â mesurau traddodiadol fel gwerth ychwanegol gros ac incwm gwario gros aelwydydd. Mae'n nodi bod gwerth ychwanegol gros yn gysylltiedig â maint dinasoedd, a bod hyn yn cael effaith negyddol ar Gymru gan bod ganddi’r gyfran isaf o’i heconomi mewn dinasoedd mawr o blith holl wledydd a rhanbarthau Prydain Fawr.

Mae twf cynhwysol wedi dod yn fesur cynyddol bwysig ym meddylfryd Llywodraeth Cymru, gan chwarae rhan allweddol yn y Cynllun Gweithredu Economaidd diweddar. Yn y cynllun, nododd Llywodraeth Cymru ei huchelgais i sicrhau dosbarthiad tecach o fanteision twf economaidd rhwng unigolion, a rhwng gwahanol rannau o Gymru. Mae'n credu mai ei rôl yw cefnogi economi sy'n cynyddu cyfoeth llesiant pobl ledled Cymru, ac yn credu bod twf a thegwch yn atgyfnerthu'i gilydd yn hytrach na bod yn annibynnol ar ei gilydd.

Felly sut mae hyn yn ymwneud â gwerth ychwanegol gros? Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi y bydd yn bwysig asesu cynnydd tuag at sicrhau twf cynhwysol, ac y bydd angen datblygu mesurau uwchlaw gwerth ychwanegol gros i wneud hynny. Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus wedi dweud bod daearyddiaeth yn rhannu'r DU yn ddifrifol a bod ffigurau fel gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros yn cuddio'r ffaith nad yw'r economi yn gweithio i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth, ac nid yw'r elw twf yn cael ei rannu'n deg. Mae gwahanol sefydliadau wedi defnyddio amrywiaeth o fesurau i ddiffinio twf cynhwysol, gan gynnwys sefydliadau fel Comisiwn Twf yr LSE, sy'n defnyddio mesur unigol o dwf cynhwysol, Fforwm Economaidd y Byd, sy'n defnyddio ystod o ddangosyddion, a dull Sefydliad Joseph Rowntree o sgorio ardaloedd yn seiliedig ar 18 dangosydd o dwf cynhwysol.

Gan edrych ar newid mwy radical, dywedodd yr Athro Karel Williams wrth Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad fod gwerth ychwanegol gros yn fesur technocrataidd ac anghysbell, ac y byddai dangosfwrdd o ddangosyddion lles hygyrch ac ystyrlon yn ffordd well o wneud pethau.

Ar 17 Ionawr, bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cymryd tystiolaeth gan Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, gan gynnwys craffu ar y gyllideb economi a thrafnidiaeth a'r Cynllun Gweithredu Economaidd.


Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell ffigur 1: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol enwol (cytbwys) y pen a chydrannau incwm

Ffynhonnell ffigur 2: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol enwol (wedi'i gybwyso) y pen a chydrannau incwm