Bil Parhad: Pam a phryd?

Cyhoeddwyd 05/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 12 Rhagfyr 2017, cyfarfu Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau'r UE). Roedd wedi cwrdd yn flaenorol ar 16 Hydref pan drafododd yr egwyddorion sy'n sail i ymagwedd y cytunwyd arni gan Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig tuag at Fframweithiau Polisi Cyffredin ar ôl i'r DU adael yr UE. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AC, a fynychodd ar ran Llywodraeth Cymru, ddatganiad. Ailadroddodd groeso Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed o ran trafodaethau Cyfnod 1 ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond daeth i'r casgliad fel a ganlyn:

[…] roeddwn yn glir na all Llywodraeth Cymru argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Fil yr EU (Ymadael) oni chaiff materion ynghylch pwerau datganoledig Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru eu datrys mewn diwygiadau y dylid cytuno arnynt cyn i'r Bil ymadael â Thŷ'r Cyffredin. Cytunodd Llywodraeth y DU y dylid cael trafodaeth benodol bellach ar lefel swyddogol ynghylch atebion posibl. Cytunodd Llywodraeth y DU y dylid cynnal trafodaeth benodol bellach ar lefel swyddogol ynghylch atebion posibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn flaenorol os bydd Bil yr UE (Ymadael) (“Bil Ymadael”) yn gadael Tŷ'r Cyffredin heb ei ddiwygio, na fyddai'n gallu argymell bod y Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol ac y byddai'n ystyried cyflwyno Bil Parhad. Mae'r erthygl hon yn egluro'r cefndir a'r hyn a all ddigwydd.

Beth yw Bil Parhad?

Clawr i'r Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

Mae'r Bil Ymadael yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac yn trosi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig y DU. Mae Cymal 11 o'r Bil Ymadael yn rhewi cymhwysedd Cynulliad Cymru mewn perthynas â chyfraith yr UE. Ar hyn o bryd, rhaid i'r Cynulliad gydymffurfio â chyfraith yr UE ac mae'r Bil Ymadael yn dweud y bydd yn rhaid i'r Cynulliad, ar ôl gadael yr UE, gydymffurfio â chyfraith yr UE a gedwir. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn gwrthwynebu Cymal 11 ac yn awyddus i'w newid.

Byddai'r Bil Parhad yn trosi cyfraith yr UE sy'n dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad yn gyfraith Cymru. Byddai'n diogelu pŵer Llywodraeth Cymru dros y meysydd lle mae cyfraith yr UE a chymhwysedd datganoledig yn croesi ac yn ceisio cadw deddfwriaeth yr UE mewn meysydd polisi datganoledig. Mae Llywodraeth y DU yn derbyn, wrth drosi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig, bod y Bil Ymadael yn effeithio ar faterion datganoledig a bod angen cydsyniad y Cynulliad.

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ffafrio cael Bil Parhad. Yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ymadael a osodwyd ym mis Medi 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n gallu argymell i'r Cynulliad ei fod yn cydsynio i'r Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd. Wedi hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiwygiadau i'r Bil Ymadael ar y cyd â Llywodraeth yr Alban. Fodd bynnag, nid yw unrhyw un o'r diwygiadau hyn wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth y DU yn ystod yr wyth niwrnod o gyfnod pwyllgor.

Safbwyntiau pwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad adroddiadau ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ymadael ar 15 Rhagfyr. Daeth y ddau Bwyllgor i'r casgliad y dylai'r Cynulliad ohirio ei gydsyniad ar gyfer y Bil yn ei ffurf bresennol.

Safbwynt Llywodraeth yr Alban

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban hefyd, yn sgil Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau'r UE), ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen â pharatoadau ar gyfer Bil Parhad os na chaiff newidiadau sylweddol eu gwneud i'r Bil Ymadael. Dywedodd y Gweinidog dros Drafodaethau'r DU ar Safle'r Alban yn Ewrop, Michael Russell MSP:

We have yet to receive a cast iron guarantee that significant changes will be made to the EU Withdrawal Bill. The bill at present means all devolved powers currently exercised at EU level will be transferred to the Westminster Parliament. Unless significant changes are made, we will not be able to recommend giving consent to the EU Withdrawal Bill, and therefore we have no choice but to pursue the option of our own legislation – a Continuity Bill for Scotland.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pe byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Parhad, bydd yn rhaid iddi symud yn gyflym er mwyn i'r Bil gwblhau ei daith cyn i'r Bil Ymadael gael ei basio gan Senedd y DU. Y rheswm dros hyn yw, mewn cyd-destun, bod pwerau cyfredol y Cynulliad yn fwy ffafriol i'r Cynulliad na'r pwerau newydd y bydd ganddo o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Mae'r Rheolau Sefydlog yn gwneud darpariaeth ar gyfer pasio deddfwriaeth frys os caiff ei chymeradwyo gan gynnig yn y Cynulliad. Rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil gynnig yr amserlen ar gyfer ystyried Cyfnodau 1 i 4 ar gyfer y Bil Brys. Gellir gwneud cynnig i ymdrin â’r holl gyfnodau mewn un diwrnod gwaith mewn wythnos eistedd. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod gan Lywodraeth Cymru fil wedi'i ddrafftio eisoes.


Erthygl gan Manon George ac Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru