Symudedd cymdeithasol yng Nghymru: Symud ymlaen neu'n ôl?

Cyhoeddwyd 10/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad State of the Nation 2017: Social Mobility in Great Britain ddiwedd 2017, penderfynodd pob un o'r pedwar aelod o Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol Llywodraeth y DU i ymddiswyddo o'r Comisiwn, gan nodi pryderon ynghylch diffyg cynnydd tuag at 'Brydain decach'.

Rhybuddiodd adroddiad State of the Nation:

Britain is a deeply divided nation. Those divisions take many forms. Class, income, gender, race. In recent years, each has been the subject of much scrutiny. But one form of division that has received far less attention is that based on geography.

Felly, beth yw cyflwr symudedd cymdeithasol yng Nghymru?

Tlodi

Mae gwaith dadansoddi a wnaed gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol yn dangos bod bron i chwarter (23%) o unigolion yng Nghymru yn byw mewn tlodi – sy'n uwch na phob un o ranbarthau Lloegr a Phrydain Fawr, heblaw am Lundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Ac mae adroddiad UK Poverty 2017 gan Sefydliad Joseph Rowntree yn egluro, o'r pedair gwlad yn y DU, mae Cymru yn gyson wedi bod â'r lefelau uchaf o dlodi, ac mae'r lefelau hyn ddim ond fymryn yn is na Llundain, ac yn debyg i lefelau Gogledd Ddwyrain Lloegr.

Y blynyddoedd cynnar

Mae adroddiad State of the Nation y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol yn rhoi dadansoddiad o berfformiad pob ardal awdurdod lleol ar draws y pedwar cyfnod bywyd – y blynyddoedd cynnar, ysgolion, ieuenctid a bywydau gwaith. Y dangosyddion perfformiad ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw sgôr meithrinfeydd nas cynhelir a chyfran y disgyblion sy'n cael cinio ysgol am ddim sy'n cael canlyniad 5+ yn y Dangosydd Cyfnod Sylfaen.

Sir Fynwy sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau i blant difreintiedig yn ystod eu blynyddoedd cynnar, gyda bron 83% i blant sy'n gymwys i gael cinio ysgol am ddim yn cael canlyniadau o 5 neu uwch yn y Dangosydd Cyfnod Sylfaen. Yr ardal sy'n perfformio waethaf yw Conwy, gyda 69% o blant yn cael 5 neu fwy yn y Dangosydd Cyfnod Sylfaen. Mae'r adroddiad yn egluro:

There is no strong correlation between rural and urban outcomes at this life stage, with both types of areas having strong and weak performers. There is some correlation between levels of deprivation and early years outcomes. Youngsters from disadvantaged backgrounds in areas with the lowest concentration of deprived places, such as Ceredigion and Monmouthshire, are generally achieving better outcomes than those in areas with some of the highest concentration of deprived places, such as Rhondda Cynon Taf and Neath Port Talbot.

Ysgolion

Y dangosyddion perfformiad adroddiad State of the Nation ar gyfer ysgolion yw canlyniadau Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 i ddisgyblion sy'n cael cinio ysgol am ddim. Mae'r adroddiad yn dangos yn y blynyddoedd ysgol, bod y perfformwyr gwaethaf ar y cyfan yr un fath â'r blynyddoedd cynnar, ond serch hynny, mae rhai symudiadau arwyddocaol ymysg y perfformwyr gorau. Mae Torfaen yn symud o fod y perfformiwr gorau yn y blynyddoedd cynnar i'r perfformiwr gwaethaf ond un yn yr ysgolion. Ac mae Sir Ddinbych a Gwynedd yn symud o fod yn berfformwyr cymharol wael yn y blynyddoedd cynnar i fod y perfformwyr gorau yn yr ysgolion, gyda chanlyniadau cryf iawn yng Nghyfnod Allweddol 4.

Yn ôl adroddiad Tlodi y DU 2017 gan Sefydliad Joseph Rowntree, mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o gefndiroedd cyfoethocach a thlotach yn 11 oed wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf o 26% i 14%. Fodd bynnag, erbyn 16 oed (Cyfnod Allweddol 4) mae'r bwlch cyrhaeddiad yn 31%. Mae adroddiad State of the Nation yn egluro bod y bylchau cyrhaeddiad mwyaf yng Nghyfnod Allweddol 4 i'w gweld yn rhai o ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru. Sir Fynwy sydd â'r crynodiad isaf o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru ond mae'n cynnwys y blwch cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion difreintiedig o dros 41%.

Bywydau gwaith

Y dangosyddion perfformiad yn adroddiad State of the Nation ar gyfer bywydau gwaith yw cyflog, cymhareb pris tai, canran y bobl mewn swyddi proffesiynol a chanran y swyddi sy'n cael llai na'r cyflog byw gwirfoddol.

Mae'r adroddiad yn nodi bod de Cymru yn dominyddu'r ardaloedd awdurdod lleol sy'n perfformio orau o ran bywydau gwaith, gyda Chaerdydd yn cynnwys y gyfran uchaf ond un o breswylwyr mewn swyddi proffesiynol a rheoli a'r ganran isaf o swyddi sy'n talu llai na'r cyflog byw. Mae ardaloedd yn y gorllewin – Sir Benfro, Gwynedd a Cheredigion – yn sgorio'n wael ar gyfer bywydau gwaith, gyda'r adroddiad yn awgrymu bod cyflogaeth yn gyfyngedig yn yr ardaloedd hyn, gyda hanner y swyddi wedi'u lleoli yn y de-ddwyrain.

Yn ôl yr adroddiad:

Apart from Cardiff, the major cities in Wales do not provide the best outcomes for their residents in their working lives. Newport, Swansea and Wrexham all deliver average outcomes on jobs, wages and housing. This is similar to the outcomes of English cities, which also do badly in this life stage, but a key difference is that whereas in England the most expensive places to live are the cities, in Wales housing is most expensive in the more rural, but affluent, areas, such as Ceredigion, Monmouthshire and Pembrokeshire.

Yn ôl adroddiad State of the Nation, mae cyflogau wythnosol canolrifol yn is yng Nghymru na Lloegr – £393 o gymharu â £434 – y mae'n credu y gellir ei egluro yn rhannol gan y diffyg gweithwyr ar gyflogau uchel, gan nodi bod gan Gymru gyfran uchel o swyddi ym maes manwerthu a chyfanwerthu, ac iechyd a gofal cymdeithasol, sydd ar y cyfan yn sectorau cyflog is.

Mae'r adroddiad yn egluro hefyd bod 26% o bobl Cymru yn ennill llai na'r cyflog byw gwirfoddol, sydd 5 pwynt canran yn uwch na'r Alban ond yn is na rhai rhanbarthau yn Lloegr. Fodd bynnag, mae'r gyfradd cyflogaeth yng Nghymru 3 phwynt canran yn is na'r cyfartaledd ym Mhrydain Fawr. Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal rhaglen waith hirdymor yn edrych ar dlodi yng Nghymru, tra bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad ar Cyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru