Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar gyfer 2018-19 (12/01/2018)

Cyhoeddwyd 12/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 21 Rhagfyr 2017. Mae’n cael ei phostio eto cyn y Ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Ionawr 2018.

Yn dilyn Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus beth oedd y Setliad Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2018-19 ar 20 Rhagfyr 2017. Mae hwn yn amlinellu’r cyllid ar gyfer pob un o’r dau ar hugain awdurdod lleol yng Nghymru. Caiff y setliad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Ionawr 2018.

Mae cyfanswm y Setliad yn £4.113 biliwn, sy’n gynnydd o £8.7 miliwn (0.2 y cant) o gymharu â’r Setliad Terfynol yn 2017-18. Mae’r Setliad Terfynol yn cynnwys cyllid ychwanegol o dros £28 miliwn o’i gymharu â’r Gyllideb Derfynol 2018-19, yn dilyn dyraniadau o £20 miliwn i lywodraeth leol, £7 miliwn i gefnogi’r cynnydd i’r terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl, ac £1.3 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes dewisol.

Mae’r Setliad Terfynol yn cynnwys cynnydd a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol. Y cynnydd mwyaf yw cynnydd o 0.9 y cant ar gyfer Caerdydd, a’r gostyngiad mwyaf yw gostyngiad o -0.5 y cant ar gyfer tri awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Conwy a Sir Fynwy).

Mae’r graff isod yn rhoi dadansoddiad llawn o’r newid canrannol mewn cyllid fesul awdurdod lleol. Graff yn dangos y newidiadau canrannol o ran dyraniadau i awdurdodau lleol rhwng y Setliadau Llywodraeth Leol Terfynol ar gyfer 2017-18 a 2018-19. Eleni, ni fydd gostyngiad o fwy na -0.5 y cant ar gyfer unrhyw awdurdod lleol, yn dilyn y dyraniadau ychwanegol a wnaed yn y Gyllideb Derfynol. Mae’r tri awdurdod a gaiff ostyngiad o -0.5 y cant mewn cyllid wedi cael cyllid ychwanegol o £807,000 i sicrhau nad ydynt yn cael gostyngiad y tu hwnt i’r lefel hon, a ddyrannwyd fel a ganlyn:

  • Blaenau Gwent – £717,000
  • Conwy – £39,000
  • Sir Fynwy – £51,000

Swm y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yn 2018-19 yw £143 miliwn.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at awdurdodau lleol, yr Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2018-19, a’r ddogfen Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol 2018-19: Tablau – Cymru gyfan, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.


Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru