Cyllideb Derfynol 2018-19

Cyhoeddwyd 15/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cynhelir dadl ar gynnig cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar 16 Ionawr. Cliciwch yma i edrych ar y gyllideb.

Cyhoeddwyd cyllideb yr Hydref y DU tua mis ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chyllideb ddrafft, gan arwain ar newidiadau yn y cyllid sydd ar gael i Gymru. Mae hyn yn cynnwys £210m mewn adnoddau; £328m o gyfalaf confensiynol a £557m o gyfalaf trafodiadau ariannol rhwng 2018-19 a 2020-21.

O'i gymharu â Chyllideb ddrafft, cyhoeddwyd £103m o refeniw ychwanegol yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 (nid oed y cyfalaf wedi newid ac eithrio newid cyffredinol o refeniw i gyfalaf o £850,000 mewn Rheoli a Chymorth Asedau Rhwydwaith). Dangosir y prif newidiadau isod:

  • £50m “i gefnogi trawsnewid yn y gwasanaeth iechyd”. Gan gynnwys, cyllid ychwanegol ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig (ICF), cyllid wedi'i dargedu i glystyrau gofal sylfaenol a chymorth ar gyfer cynllunio rhanbarthol.
  • £20 miliwn i awdurdodau lleol drwy'r RSG. Mae cyllid ychwanegol o £11.5 miliwn arall yn yr RSG a chyllid NDR. Mae'r Setliad Terfynol yn cyfeirio at £7m i gynyddu'r terfyn cyfalaf o ran codi am ofal preswyl a £1.3 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes dewisol. Mae'r tablau yn dangos hefyd bod amcangyfrif Gwariant a Reolir yn Flynyddol NDR £2m yn llai na'r ffigurau yn y Gyllideb Ddrafft. Mae tablau'r Gyllideb yn dangos £5.2m ychwanegol yn y “Llinell Wariant yn y Gyllideb rhyddhad ardrethi annomestig”.
  • £5m ar gyfer CCAUC a £2.5m ar gyfer rhaglenni ac ymyriadau sydd wedi'u hanelu at wella sgiliau.
  • £2.5 miliwn ar gyfer gwella ansawdd aer (i awdurdodau lleol)
  • £5m ar gyfer paratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd i helpu busnesau a'r sector cyhoeddus yng Nghymru i addasu a pharatoi ar gyfer gadael yr UE.
  • £2m miliwn o arian ychwanegol i sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru.

Newidiadau treth yn dilyn Cyllideb y DU mewn ymateb i newidiadau polisi treth y DU:

  • Lleihau’r cynnydd a gynlluniwyd yn y lluosydd NNDR drwy gynyddu RPI i CPI.
  • Cynyddu trothwy is yn y Dreth Stamp o £150k i £180k, ynghyd â newidiadau i gyfraddau.

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol a Phwyllgorau eraill y Cynulliad wedi cyhoeddi adroddiadau craffu ar y gyllideb ddrafft.


Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru