Aelodau'r Cynulliad i drafod adroddiad sy’n dweud bod angen i glystyrau gofal sylfaenol newid yn sylweddol os ydynt am lwyddo yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar glystyrau gofal sylfaenol ar 17 Ionawr.

Canolbwyntiodd ymchwiliad y Pwyllgor ar rôl y clystyrau (sef grwpiau o feddygon teulu sy'n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal i gynllunio a darparu gwasanaethau’n lleol) gan archwilio a yw'r model yn trawsnewid gofal sylfaenol er mwyn diwallu anghenion lleol yn well, ac yn cynnig gwasanaethau gwell i gleifion, yn unol â’r bwriad. Mae 64 o rwydweithiau clwstwr ledled Cymru (wedi'u pennu gan fyrddau iechyd lleol ym mhob ardal), ac maent yn gwasanaethu poblogaethau o rhwng 30,000 a 50,000 o gleifion.

Ar ôl adolygu’r dystiolaeth, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod cryn dipyn i’w wneud eto cyn y byddant yn gallu gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru a bod yn rhan arwyddocaol yn y broses o drosglwyddo gwasanaethau ac adnoddau o ysbytai ac i gymunedau lleol.

Clywodd aelodau'r Pwyllgor enghreifftiau o waith da sy’n mynd rhagddo mewn practisau meddygon teulu unigol mewn clystyrau penodol ledled Cymru, ond daethant i'r casgliad bod llawer o hyn i’w briodoli i frwdfrydedd ac ymroddiad rhai aelodau o staff, gan greu pryder y gallai model y clwstwr fod yn dibynnu’n ormodol ar unigolion allweddol. Roedd pryderon clir hefyd ymhlith rhai grwpiau proffesiynol nad ydynt yn cael eu cynnwys cymaint ag y dylent mewn gwaith clwstwr.

Anawsterau ymarferol oedd rhai o'r prif broblemau a ddaeth i’r amlwg. Roedd hyn yn cynnwys pryderon ynghylch natur byrdymor yr arian a geir i ddatblygu clystyrau a bod hynny’n ei gwneud yn anodd recriwtio a chadw staff, a phroblemau’n ymwneud â materion cyflogaeth ac indemniad. Clywodd y Pwyllgor hefyd gan randdeiliaid a oedd o’r farn nad yw'r ystâd gofal sylfaenol a'r seilwaith digidol presennol yn addas i'r diben o ran eu gallu i ddarparu ar gyfer model y clwstwr.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod angen newid mawr os yw’r clystyrau gofal sylfaenol yn mynd i fedru lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai yng Nghymru, gan fod tystiolaeth o’u heffaith yn gyfyngedig ar hyn o bryd.

Gwnaeth y Pwyllgor 16 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi model newydd ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol sy'n adfer gweledigaeth wedi'i diffinio'n glir ar eu cyfer o ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd;
  • Fel mater o frys, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod mecanwaith llawer mwy eglur a chadarn ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr. Er gwaethaf yr heriau clir, rhaid rhoi sylw i sut y gall mecanweithiau gwerthuso ddechrau mesur effaith gwaith clwstwr ar ganlyniadau cleifion.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor yn pwysleisio'r ffaith nad yw am fod yn 'rhy ragnodol' ynghylch sut y dylai clystyrau ddatblygu.

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw argymhellion y Pwyllgor yn cydnabod y cynnydd a wnaed gan glystyrau, a dywedodd y bydd ef yn parhau i annog clystyrau i esblygu ac aeddfedu gan gredu mai dyna’r ffordd orau o gynllunio gofal lleol sy’n hygyrch ac yn gynaliadwy.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ymhelaethu ar ei gweledigaeth yn ei chynllun gweithredu ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol, sydd i’w gyhoeddi fis Ebrill 2018. Bydd y cynllun yn cael ei lywio gan arfer hyd yma, adroddiad y Pwyllgor a chanlyniad yr Adolygiad Seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn nodi y gofynnir i'r bwrdd gofal sylfaenol gytuno ar y trefniadau llywodraethu erbyn mis Mehefin 2018.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru 11 o’r 16 argymhelliad (3 o'r rhain mewn egwyddor) a gwrthododd 5.

Argymhellion a wrthodwyd

Argymhelliad 10 - Dylai Llywodraeth Cymru roi arweiniad cenedlaethol ar waith i gydgysylltu anghenion hyfforddi a datblygu o fewn clystyrau. Dylai hefyd nodi ei disgwyliadau o ran sut y bydd anghenion hyfforddi yn cael eu nodi mewn ffordd systematig ar lefel leol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod hyn, gan nodi bod y cynllun cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru yn mynnu bod byrddau iechyd yn cynorthwyo’r clystyrau sydd ag anghenion datblygu. Yn genedlaethol, meddai, bydd cyfarwyddwyr y byrddau iechyd yn parhau i weithio gyda chanolfan gofal sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru a thîm 1000 o Fywydau Lives i ddarparu rhaglen gydgysylltiedig o hyfforddiant a chymorth datblygu cydlynol sefydliadol i glystyrau

Argymhelliad 11 - Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyllid datblygu clystyrau'n cael ei ddyrannu i glystyrau unigol ar sail tair blynedd yn hytrach nag un flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod hyn, gan ddweud ei fod wedi dyrannu’r £10 miliwn o’r gronfa genedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol er mwyn i glystyrau benderfynu sut i fuddsoddi’n rheolaidd. Wrth i swyddogaeth gynllunio’r clystyrau aeddfedu, meddai, bydd y clystyrau’n dod yn fwyfwy abl i wireddu’r cyfleoedd sy’n deillio o wneud penderfyniadau ynghylch sut i ddefnyddio’r cyllid hwn drwy eu cynlluniau treigl tair blynedd.

Argymhelliad 12 - Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad i nodi'r ffrydiau ariannu gofal sylfaenol cyfredol er mwyn gweithio tuag at resymoli a chynyddu effaith cyfanswm y cyllid sydd ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod hyn gan ddweud bod ffrydiau ariannu rheolaidd ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol dan gontract eisoes wedi’u nodi’n glir drwy lythyr dyrannu blynyddol y byrddau iechyd. Argymhelliad 13: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda byrddau iechyd ac arweinwyr clystyrau i sefydlu prosesau gwneud penderfyniadau clir ar gyfer gwerthuso a datblygu modelau llwyddiannus yn gyflym a dirwyn i ben arian ar gyfer mentrau llai llwyddiannus. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod hyn, gan ddweud bod proses benderfynu eisoes yn bodoli drwy’r rhaglen genedlaethol ar gyfer pennu cyfeiriad, a sefydlwyd yn 2015-16. Mae corff allanol wrthi’n gwerthuso'r rhaglen genedlaethol hon a disgwylir iddo gyhoeddi ei adroddiad ym mis Chwefror 2018.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod penderfyniadau ynghylch ehangu arferion da eisoes yn bodoli ar ffurf y cynlluniau treigl tair blynedd y mae clystyrau a byrddau iechyd yn eu cynhyrchu bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae’n derbyn bod angen i’r broses o fabwysiadu ac addasu arferion da ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa ehangach. Bydd yn gofyn i’r byrddau iechyd adolygu eu prosesau cynllunio ac yn monitro canlyniadau diriaethol.

Argymhelliad 16: Mae rhoi tystiolaeth ynghylch a yw clystyrau gofal sylfaenol yn fodel effeithiol ac yn sicrhau gwerth am arian yn hanfodol. Fel mater o frys, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod mecanwaith llawer mwy eglur a chadarn ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr. Er gwaethaf yr heriau clir, rhaid rhoi sylw i sut y gall mecanweithiau gwerthuso ddechrau mesur effaith gwaith clwstwr ar ganlyniadau cleifion.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod hyn, gan ddweud bod tystiolaeth gadarn am werth model y clwstwr, ac y bydd clystyrau'n gwerthuso effeithiolrwydd eu mentrau’n lleol:

Mae ein cynllun cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru wedi’i ategu gan dystiolaeth gan Gronfa’r Brenin mai’r ffordd fwyaf effeithiol o asesu anghenion poblogaeth a chynllunio a darparu gofal i ddiwallu’r angen hwnnw yw gwneud hyn ar lefel leol iawn ymysg poblogaeth o rhwng 25,000 a 100,000. Mae tystiolaeth adolygiad OECD yn 2016 o systemau iechyd y DU ac adroddiad interim yr Adolygiad Seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu tystiolaeth bellach o werth gwaith clwstwr. Er mwyn mesur effaith cydweithredu lleol ar ganlyniadau iechyd a llesiant eu poblogaethau, gall clystyrau ddefnyddio canlyniadau’r gwaith o werthuso’u mentrau lleol a’r set newydd o fesurau ansawdd a darparu gofal sylfaenol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau. Rwy’n disgwyl i’r wybodaeth hon fod yn arwydd dibynadwy o werth clystyrau. Bydd rhannu’r wybodaeth hon yn helpu i lywio a chyfiawnhau cynlluniau’r dyfodol ar lefel clwstwr ac ar lefel bwrdd iechyd trwy Gymru.

Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru