Pwyllgor yn dechrau ymchwilio i gysgu ar y stryd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru.

Ond beth yw ystyr 'cysgu ar y stryd', a pha mor fawr yw'r broblem yng Nghymru?

Diffiniad

Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio person sy'n cysgu ar y stryd fel:

Person sy’n cysgu, ar fin gwneud gwely (yn eistedd neu’n sefyll wrth ymyl ei ddillad gwely) neu sydd wedi gwneud gwely yn yr awyr agored (ar stryd, mewn pabell, drws siop, parc, cysgodfan bws neu wersyllfan). Person mewn adeilad neu fan arall na chawsant eu cynllunio i bobl fyw ynddynt (grisiau, ysguboriau, siediau, meysydd parcio, ceir, cychod segur, gorsafoedd neu lochesau dros dro).

Graddfeydd cysgu ar y stryd yng Nghymru

Yn 2015 a 2016, cynhaliodd awdurdodau lleol ymarfer monitro cenedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru i fesur lefel y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd yng Nghymru. Casglwyd y wybodaeth gan asiantaethau lleol, sefydliadau iechyd a grwpiau gwasanaethau cymunedol eraill sydd mewn cysylltiad â phobl sy'n cysgu ar y stryd.

Mae'n ymddangos bod y data yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru rhwng 2015 a 2016.

Mae'r data ar gyfer 2016 yn dangos y canlynol:

  • Rhwng 10 a 23 Hydref 2016, roedd 313 o bobl yn cysgu ar strydoedd Cymru yn ystod y pythefnos hwnnw;
  • Adroddodd awdurdodau lleol fod cyfanswm o 141 o unigolion yn cysgu ar y stryd yng Nghymru yn y cyfnod rhwng 22.00 nos Iau 3 Tachwedd a 05.00 fore Gwener 4 Tachwedd 2016; a
  • Dywedodd awdurdodau lleol hefyd fod 168 o wlâu brys yng Nghymru a bod 40 (24%) o'r rhain yn wag ac ar gael ar 3 Tachwedd 2016.

Mae'r data ar gyfer 2015 yn dangos y canlynol:

  • Rhwng 2 a 15 Tachwedd 2015, roedd 240 o bobl yn cysgu ar strydoedd Cymru yn ystod y pythefnos hwnnw;
  • Adroddodd awdurdodau lleol fod cyfanswm o 82 o unigolion yn cysgu ar y stryd yng Nghymru yn y cyfnod rhwng 23.00 nos Fercher 25 Tachwedd a 03.00 fore Iau 26 Tachwedd 2015; a
  • Dywedodd awdurdodau lleol hefyd fod 180 o wlâu brys yng Nghymru a bod 19 (11%) o'r rhain yn wag ac ar gael ar 25 Tachwedd.

Achosion y cynnydd mewn cysgu ar y stryd

Mae adroddiad Crisis Homelessness Monitor: Wales 2017 yn tynnu sylw at ystod o faterion a allai egluro'r cynnydd diweddar ymddangosiadol yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Cynnydd yn nifer y dinasyddion yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd nad ydynt yn gymwys ar gyfer y prif fudd-daliadau lles;
  • Y gred ymhlith awdurdodau trefol fod pobl sy'n mynd yn ddigartref mewn ardaloedd gwledig yn symud i ardaloedd trefol lle mae gwell gwasanaethau;
  • Gwell gwybodaeth am nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd;
  • Dileu statws angen blaenoriaethol awtomatig ar gyfer cyn-droseddwyr; a
  • Diwygiadau i'r gyfundrefn les a sancsiynau budd-daliadau yn arbennig.

Effaith Deddf Tai (Cymru) 2014

Cyflwynodd Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ddull newydd o ymdrin â digartrefedd yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar (hyd at 56 diwrnod cyn i rywun fynd yn ddigartref) ac ar atal. Er bod cymorth i sicrhau llety bellach ar gael i'r rhan fwyaf o bobl, dim ond i'r rheini y tybir bod arnynt 'angen blaenoriaethol' y mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu llety. Nid yw cysgu ar y stryd, ynddo'i hun, yn profi statws o angen blaenoriaethol. Mae grwpiau angen blaenoriaethol yn cynnwys pobl sydd â phlant dibynnol, menywod beichiog, pobl ifanc 16 a 17 oed a phobl sy'n agored i niwed o ganlyniad i 'ryw reswm arbennig' megis henaint. Yn dilyn gweithredu Deddf Tai (Cymru) 2014, nid yw cyn-droseddwyr bellach yn grŵp angen blaenoriaethol yn awtomatig.

Mae Cod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd 2016 Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd o dan Adran 98 o Ddeddf 2014, yn nodi bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn debygol o fod yn agored i niwed am 'reswm arbennig arall' oherwydd goblygiadau iechyd a goblygiadau cymdeithasol eu sefyllfa. Mae'r canllawiau hefyd yn nodi:

In order to mitigate the worst effects of rough sleeping all Local Authorities should have a written cold weather plan stating their arrangements to give assistance in periods of cold and/or severe weather.

Mae Shelter Cymru a Crisis wedi tynnu sylw at nifer sylweddol y cartrefi cymwys y caewyd eu cais am gymorth o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ar y sail eu bod wedi gwrthod cymorth, wedi methu â chydweithredu, neu caewyd eu cais am 'resymau eraill'.

Mae oddeutu un cais o bob pump o dan Adran 66 (ymgeiswyr yr aseswyd eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref) a chyfran debyg o ymgeiswyr yr aseswyd eu bod yn ddigartref (dan Adran 73) yn 'disgyn' o'r system yn y modd hwn.

Polisi Llywodraeth Cymru

Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb, yn dweud ei bod “yn annerbyniol mewn cymdeithas ffyniannus fod pobl yn gorfod cysgu ar y strydoedd.”

Lansiwyd y Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd i Gymru yn 2009. Mae'n nodi'r heriau niferus o ran dod â chysgu ar y stryd i ben, gan gynnwys sicrhau bod pobl ddigartref yn ymgysylltu â gwasanaethau.

Yn ei lythyr diweddar at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, amlinellodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, rywfaint o'r gwariant arfaethedig ar brosiectau i fynd i'r afael â digartrefedd, a chysgu ar y stryd yn arbennig:

  • Y grant atal digartrefedd gwerth £5 miliwn sy'n cefnogi gwasanaethau, gan gynnwys ymgysylltu â phobl sy'n cysgu ar y stryd, gwasanaethau dydd, llochesi nos, ac atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc;
  • Yn ystod haf 2017, cyhoeddwyd gwerth £2.6 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau i wella ymhellach gwasanaethau i helpu pobl i ddod oddi ar y stryd, gan ganolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd ymhlith pobl ifanc;
  • Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19 yn cynnwys £6 miliwn ychwanegol yn y Grant Cymorth Refeniw ar gyfer 2018-19 a 2019-20 i awdurdodau lleol barhau â gwaith atal digartrefedd a gefnogwyd yn flaenorol drwy gyllid trosiannol. Mae'r arian hwn yn ychwanegol at y £6 miliwn sydd eisoes yn y setliad ar gyfer eleni (2017-18) i gydnabod newidiadau i'r ffordd y caiff ffioedd rheoli llety dros dro eu hariannu, a'r bwriad yw iddo ddatblygu'r cynnydd a gafwyd hyd yn hyn o ran gweithredu Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014; a
  • Bydd y gyllideb ddigartrefedd yn cynyddu £4 miliwn y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf i gefnogi'r ymgyrch i ddod â digartrefedd i ben, gyda gwaith penodol i fynd i'r afael â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sicrhau nad oes angen i neb gysgu ar y stryd.

Ar 17 Rhagfyr, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, £10 miliwn ychwanegol yn y cyllid i gefnogi cenhadaeth Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru erbyn 2027.

Ar 10 Ionawr, cafodd dadl ei chyflwyno gan Blaid Cymru yn y Siambr: Tai i’r Digartref. Wrth ymateb i’r ddadl, dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans:

… I'll be announcing further plans for my homelessness policy in early February, when I intend to make an oral statement, and I will give this Chamber my commitment that tackling homelessness is going to be a year-round priority for me…

Gellir gweld cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor, a'i sesiynau tystiolaeth arfaethedig ar ei dudalennau gwe.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru