Cyllid

Y Cynulliad i drafod adroddiad y Pwyllgor am yr amcangyfrifon ariannol sy’n mynd gyda deddfwriaeth

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyllid am yr amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth (PDF, 936KB) (cyhoeddwyd ym mis Hydref 2017) ar 24 Ionawr. Daw hyn yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor ar y pwnc, a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2017, a oedd yn adeiladu ar argymhellion a wnaed yn yr adroddiad etifeddiaeth (PDF, 4MB) gan Bwyllgor Cyllid y Pedwerydd Cynulliad.

18 Ionawr 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyllid am yr amcangyfrifon ariannol sy’n mynd gyda deddfwriaeth (PDF, 936KB) (cyhoeddwyd ym mis Hydref 2017) ar 24 Ionawr. Daw hyn yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor ar y pwnc, a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2017, a oedd yn adeiladu ar argymhellion a wnaed yn yr adroddiad etifeddiaeth (PDF, 4MB) gan Bwyllgor Cyllid y Pedwerydd Cynulliad.

Mae’r amcangyfrifon ariannol sy’n mynd gyda deddfwriaeth wedi’u cynnwys yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Bil o dan yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ac mae Rheol Sefydlog 26.6(viii) yn nodi’r hyn y dylai hyn ei gynnwys. Fel rhan o’i rôl, mae’r Pwyllgor Cyllid yn craffu ar yr amcangyfrifon hyn yng Nghyfnod 1 y broses ddeddfwriaethol.

Ymchwiliad y Pwyllgor

Er mwyn asesu pa mor ddibynnol yw’r amcangyfrifon costau mewn Bil ac a yw’r amcangyfrifon hynny yn adlewyrchu’n gywir y costau gwirioneddol o roi deddfwriaeth ar waith, ystyriodd yr ymchwiliad sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ei hamcangyfrifon ariannol a sut y caiff costau a buddion eu monitro a’u gwerthuso ar ôl rhoi deddfwriaeth ar waith.

Daeth tystiolaeth i law gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru, y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â sefydliadau sy’n ddarostyngedig i’r ddeddfwriaeth uchod. Hefyd, ymddangosodd Llywodraeth Cymru gerbron y pwyllgor i gyflwyno tystiolaeth.

Edrychodd yr ymchwiliad ar nifer o feysydd, gan gynnwys: cynnwys asesiadau effaith rheoleiddiol a sut y cânt eu cyflwyno, sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyllid ar gyfer costau deddfwriaethol newydd, is-ddeddfwriaeth, a sut y gellid ymgymryd ag adolygiad o gostau ar ôl rhoi deddfwriaeth ar waith.

Asesiadau effaith rheoleiddiol

Cydnabu’r Pwyllgor y gwelliannau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud wrth gyflwyno asesiadau effaith rheoleiddiol hyd yn hyn yn y Pumed Cynulliad, er enghraifft drwy gynnwys tabl crynodeb safonol ar ddechrau pob asesiad. Yn unol â hyn, trafododd y Pwyllgor sut y caiff costau a buddion eu cofnodi, a chafodd dystiolaeth am yr anhawster o ran costio newid diwylliannol, ond hefyd am bwysigrwydd costio’r elfen hon o unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu, o safbwynt costau, y gallai’r gwaith craffu ar newidiadau i ddeddfwriaeth/asesiadau effaith rheoleiddiol a wneir ar ôl Cyfnod 1 fod yn gyfyngedig, ac argymhellodd yn y dyfodol y dylai Llywodraeth Cymru roi crynodeb i’r Pwyllgor Cyllid o oblygiadau unrhyw newidiadau ar ôl Cyfnod 2 o ran costau. Mae adroddiad y Pwyllgor yn mynd ymlaen i nodi amgylchiadau’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg fel enghraifft o pam y gallai hyn fod yn angenrheidiol.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Cyflwynodd y tystion dystiolaeth ynghylch lefel y gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac amseru’r gwaith hwn, wrth baratoi deddfwriaeth/asesiadau effaith rheoleiddiol, ac awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol y gallai Llywodraeth Cymru ddysgu o’i phrofiadau er mwyn gwella’r ffordd y mae’n gweithio yn y maes hon.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y Pwyllgor mai un o nodweddion allweddol arfer da, o ran deddfwriaeth, yw ymgysylltu’n gynnar. Mae llawlyfr deddfwriaeth Llywodraeth Cymru (PDF, 2MB) bellach yn argymell y dylid cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol drafft fel rhan o’r ymgynghoriad ar Fil.

Ariannu costau deddfwriaethol newydd

O ran cywirdeb asesiadau effaith rheoleiddiol, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth dra gwahanol gan ddau sefydliad a sefydlwyd o dan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru – Cymwysterau Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd tystiolaeth Cymwysterau Cymru yn awgrymu bod yr asesiad perthnasol wedi rhoi amcangyfrif eithaf realistig, ond roedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn credu bod yr asesiad cyfatebol ymhell ohoni.

Roedd tystiolaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi pwysau ariannol cynyddol yn sgil nifer o ffactorau, gan gynnwys gofynion deddfwriaethol newydd, ac awgrymodd Swyddfa Archwilio Cymru na yw cyrff cyhoeddus bob amser yn glir ynghylch a fydd arian ar gael (neu a fydd angen arian) ar gyfer swyddogaethau newydd.

Is-ddeddfwriaeth

Ymchwiliodd y Pwyllgor i gost is-ddeddfwriaeth a’r anhawster o ran asesu deddfwriaeth sylfaenol a allai gynnwys nifer o bwerau gwneud rheoliadau (fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

Nododd SOLACE yn y dystiolaeth fod perygl, pan fo manylion y costau yn cael eu cynnwys mewn is-ddeddfwriaeth o “creeping onset of costs which have not been identified”. Felly, croesawodd y Pwyllgor fwriad Llywodraeth Cymru i gryfhau’r canllawiau yn y maes hwn er mwyn sicrhau bod darlun mor llawn â phosibl o gostau is-ddeddfwriaeth yn cael ei gyflwyno adeg cynnig deddfwriaeth sylfaenol.

Adolygu costau ar ôl rhoi ddeddfwriaeth ar waith

Mater arall y canolbwyntiodd y Pwyllgor arno oedd adolygu costau ar ôl rhoi deddfwriaeth ar waith, a nododd bod dealltwriaeth o gostau gwirioneddol deddfwriaeth yn hollbwysig er mwyn asesu pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hadnoddau. Awgrymodd tystiolaeth gan randdeiliaid sut y gellid gwneud hyn, a chlywodd y Pwyllgor gan Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru fod adolygiadau’n cael eu cynnal ar ôl rhoi deddfwriaeth ar waith. Fodd bynnag, nid oedd y rhain yn ystyried costau ar y pryd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod adolygiad ar ôl rhoi deddfwriaeth ar waith yn un o ddisgwyliadau’i chanllawiau deddfwriaeth, a bod llawlyfr deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn nodi y dylid ystyried costau a buddion wrth gynnal adolygiad o’r fath.

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei hymateb (PDF, 333KB) i’r un ar bymtheg o argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ym mis Rhagfyr, gan dderbyn pymtheg ohonynt naill ai’n llawn neu mewn egwyddor.

Roedd yr argymhelliad a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud ag asesiadau effaith rheoleiddiol yn cynnwys cyfeiriad penodol at sut y caiff costau eu hariannu (a chan bwy) – argymhelliad 10. Roedd Llywodraeth Cymru yn credu y byddai ymestyn y dadansoddiad i ystyried sut y caiff costau eu hariannu “yn mynd y tu hwnt i ddiben a bwriad yr asesiad”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru a chyhoeddi ei llawlyfr deddfwriaethol diwygiedig (PDF, 2MB); mae pennod chwech yn cynnwys canllawiau ynghylch paratoi asesiadau effaith rheoleiddiol.


Erthygl gan Owen Holzinger, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru