Diwylliant

Beth mae Adolygiad Thurley yn ei ddweud am ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Cymru?

Ym mis Mehefin 2017, cwblhaodd Dr Simon Thurley adolygiad o Amgueddfa Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru. Gwnaeth yr adolygiad 17 o argymhellion, gan hoelio'i sylw ar gynaliadwyedd ariannol y sefydliad yn y dyfodol. Ar 23 Ionawr, bydd y Cyfarfod Llawn yn trafod cynnwys yr adroddiad hwn.

19 Ionawr 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ym mis Mehefin 2017, cwblhaodd Dr Simon Thurley adolygiad o Amgueddfa Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru. Gwnaeth yr adolygiad 17 o argymhellion, gan hoelio’i sylw ar gynaliadwyedd ariannol y sefydliad yn y dyfodol. Ar 23 Ionawr, bydd y Cyfarfod Llawn yn trafod cynnwys yr adroddiad hwn.

Mae Amgueddfa Cymru yn rhwydwaith o saith safle amgueddfa ledled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Wlân Cymru a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

Sefydlwyd yr Amgueddfa Genedlaethol drwy Siarter Frenhinol ym 1907. Daw mwyafrif health ei chyllid fel cymorth grant gan Lywodraeth Cymru: yn 2015-16 roedd hyn yn gyfystyr ag 84.1% o’i chost weithredol (ac eithrio datblygiadau cyfalaf, fel yn Sain Ffagan, lle mae’r Amgueddfa wedi cynhyrchu cyllid sylweddol nad yw gan y Llywodraeth). Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn anfon llythyr cylch gwaith at Amgueddfa Cymru, gan nodi faint o gymorth grant y bydd yr Amgueddfa yn ei gael, a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl i’r amgueddfa ei wneud gyda’r cymorth hwn.

Canfu Thurley fod yr Amgueddfa yn “sefydliad llwyddiannus a ffyniannus y dylai Cymru ymfalchïo ynddo”, ac yn “un o amgueddfeydd mawr y Deyrnas Unedig”. Fodd bynnag, roedd hefyd yn teimlo fod gan yr Amgueddfa “diffyg uchelgais yn y stori a gâi ei hadrodd“. Pam, holodd, mae’r saith safle “yn adrodd hanes cymdeithasol gwlad fach” yn hytrach nag “adrodd hanes sut y gwnaeth Cymru… gyda’i chymdogion mwy o faint Lloegr a’r Alban, drawsnewid y byd yn y 19fed ganrif”?

Niferoedd ymwelwyr “wedi aros yn eu hunfan”

Yn llythyr cylch gwaith 2017-18, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod Amgueddfa Cymru yn cynyddu niferoedd ymwelwyr. Mae Adolygiad Thurley yn nodi bod niferoedd ymwelwyr “wedi aros yn eu hunfan“, gan aros tua 1.7 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf: er bod hynny mewn cyfnod pan gaewyd rhan sylweddol o Sain Ffagan i wneud gwaith ailddatblygu. Er y bu cynnydd o 34% yn nifer yr ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 2010 a 2015, mae Thurley yn holi “a allai amgueddfa mor rhagorol, mewn adeilad amlwg yn y brifddinas, wneud yn well”?

Mae Sain Ffagan wedi gweld gwaith ailddatblygu helaeth yn ddiweddar, gyda chyllid o £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Dywed Thurley “[nad] oes amheuaeth fod Amgueddfa Cymru yn llygad ei lle yn buddsoddi yn y safle hwn i’r lefel y gwnaeth“. Ar ôl croesawu 531,000 o ymwelwyr yn 2015-16, mae’r Amgueddfa Genedlaethol yn amcangyfrif y gallai niferoedd yr ymwelwyr â Sain Ffagan fod cynifer ag 850,000 bum mlynedd ar ôl yr agoriad llawn.

Perfformiad masnachol “hynod wael”

Ers 2012, mae’r Amgueddfa wedi gweld toriadau o 11% mewn termau arian parod yn refeniw y grant cymorth craidd. Fodd bynnag, 20% oedd y toriad ar gyfartaledd i amgueddfeydd cenedlaethol a ariennir drwy DCMS gan Lywodraeth y DU rhwng 2008/9 a 2014-15.

Newid yng nghanran cymorth grant a chyfanswm incwm ar gyfer amgueddfeydd cenedlaethol a ariennir drwy DCMS o 2008/09 hyd at 2014/15.

Er bod y gwahaniaeth mewn dyddiadau yn golygu nad oes modd cymharu’r ddwy set o ddata hyn yn uniongyrchol, daw Thurley i’r casgliad “fod Amgueddfa Cymru yn llawer mwy dibynnol ar gymorth grant na’r sefydliadau cenedlaethol yn Lloegr ond o’i gymharu â’r Alban mae ei dibyniaeth tua’r un peth“. Y broblem yng Nghymru yw “[bod] perfformiad masnachol Amgueddfa Cymru yn hynod wael“. Daw’r rhan fwyaf o elw cangen fasnachu’r Amgueddfa o weithredu dau faes parcio, a rhwng 2014/15 a 2015/16 (tra bod gwaith yn Sain Ffagan yn mynd rhagddo) cafwyd gostyngiad o oddeutu £100,000 yn elw’r gangen fasnachu. Sut y gellir mynd i’r afael â’r broblem hon?

“Polisi yn seiliedig ar y terfyn”: talu am fynediad i rai gweithgareddau

Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa Genedlaethol wedi bod yn ymrwymiad hirdymor gan Lywodraeth Cymru, gyda’r Prif Weinidog yn datgan yn 2015: “ni fydd unrhyw dâl am fynediad i unrhyw un o atyniadau’r amgueddfa genedlaethol”. Fodd bynnag, yn 2016, cafwyd arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle bu’n rhaid talu am fynediad, sef Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol. Er y cafodd cyfnod yr arddangosfa ei gwtogi o 49 diwrnod oherwydd gweithredu diwydiannol, gan fethu ei thargedau ymwelwyr o drwch blewyn, fe wnaeth ragori ar ei tharged incwm.

Crynodeb o incwm a chostau Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol

Dylid nodi, er y bu elfen o dalu am yr arddangosfa, na thalodd y mwyafrif helaeth o ymwelwyr – plant yn bennaf. Argymhellodd Thurley y “dylai Llywodraeth Cymru ystyried symud i bolisi yn seiliedig ar y terfyn ar gyfer mynediad i Amgueddfa Cymru yn hytrach na pholisi ar sail modd”. Roedd yn credu y byddai hyn yn golygu y “gallai’r Amgueddfa gadw ei llygad ar y polisi mynediad yr hoffai ei gael, ar yr un pryd â phennu drosti ei hun y cydbwysedd rhwng gwasanaethau y codir amdanynt a gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim yn ogystal â’r lefelau tâl priodol”. Pwysleisiodd ei bod “[yn] debygol y byddai mynediad i’r casgliad craidd a’r arddangosfeydd parhaol yn parhau yn rhad ac am ddim”, gyda thaliadau’n cael eu codi ar weithgareddau ychwanegol yn unig – fel arddangosfeydd arbennig.

Peidio â gwrando ar “blentyn trafferthus”

Mewn rhai agweddau, roedd Thurley’n teimlo bod Amgueddfa Cymru yn cael ei dal yn ôl gan ei pherthynas â Llywodraeth Cymru. Dywedodd, “teimla’r Amgueddfa nad yw’r Llywodraeth yn gwrando arni ynghylch ei gofynion cyllido ac nad yw Llywodraeth Cymru yn glir ynghylch yr hyn yw amgueddfa genedlaethol”. Ar yr un pryd, “mae teimlad o fewn Llywodraeth Cymru bod yr Amgueddfa yn ‘blentyn trafferthus’“, ac “nad oes ganddi’r gallu i redeg ei hun yn effeithiol”. Nodwyd enghreifftiau, meddai, “o lefelau amhriodol o ymgysylltiad gwleidyddol yng ngweithgarwch gweithredol yr Amgueddfa”.

Mae Thurley yn argymell y “dylai Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru ddatblygu cydweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer Amgueddfa Cymru gan fod â ffocws pum mlynedd iddi a chytundeb ariannu tair blynedd“. Byddai hyn yn wahanol i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn trin cyrff eraill a noddir. Er enghraifft, mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru gytundeb ariannu blynyddol, fel sydd gan yr Amgueddfa Genedlaethol ar hyn o bryd.

Cymru Hanesyddol a dyfodol yr Amgueddfa

Yn flaenorol, roedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i ffurfio corff newydd, sef Cymru Hanesyddol, gan ddatgan ym mis Medi 2016: “Rwyf bellach am fynd ymlaen â’r gwaith o ddod â swyddogaethau masnachol Cadw ac Amgueddfa Cymru – National Museum Wales at ei gilydd”. Yn dilyn beirniadaeth yn y sector amgueddfeydd, gyda rhai rhanddeiliaid o’r farn bod hyn yn amharu ar annibyniaeth yr Amgueddfa Genedlaethol, cafodd y cynnig hwn ei feddalu i sefydlu “Partneriaeth Strategol” rhwng Cadw (cangen dreftadaeth Llywodraeth Cymru), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol. Mae’r bartneriaeth hon yn edrych ar faterion sy’n cynnwys datblygu sgiliau, gweithgarwch masnachol, a chydweithio i ddarparu swyddogaethau cefn swyddfa.

Mae incwm Cadw wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar. Mae ei incwm wedi dyblu bron dros y deng mlynedd diwethaf, i £6.6 miliwn yn 2016-17, tra bod ei gostau gweithredu wedi parhau tua £20 miliwn. Mae gwahaniaethau hanfodol rhwng Cadw a’r Amgueddfa Genedlaethol: er enghraifft, mae Cadw yn codi tâl am fynediad i lawer o’i safleoedd, ond dywedodd Thurley y byddai mynediad i arddangosfeydd parhaol Amgueddfa Cymru yn debygol o barhau i fod yn rhad ac am ddim, sut bynnag y bydd yn newid ei pholisi mynediad yn y dyfodol.

Wedi dweud hynny, bydd y Bartneriaeth Strategol yn rhoi cyfle i’r Amgueddfa weithio’n agos â Cadw, a dysgu sut mae ei incwm wedi tyfu mor sylweddol yn y degawd diwethaf. A fydd hyn yn ddigonol i alluogi Amgueddfa Cymru i gyflawni ei photensial masnachol, neu a oes hefyd angen rhoi argymhellion yr adolygiad Thurley ar waith?


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Adolygiad o Amgueddfa Cymru, adroddiad llawn

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gwella’i wefan, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn eich barn chi. A fyddech cystal â chymryd rhan yn yr  arolwg byr hwn.