PIGION

Y camau nesaf yn y broses o ddiwygio’r sector addysg ôl-16

29 Ionawr 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 5 Rhagfyr 2017, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, ymateb Llywodraeth Cymru i ‘Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – Datblygu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ddiwygiedig’ y papur gwyn a gafodd ei lansio ym mis Mehefin 2017. Mae’r papur gwyn hwn yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Hazelkorn a’r cam cyntaf mewn proses y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn honni a allai arwain at

 y darn mwyaf oll o ddeddfwriaeth y mae’r Cynulliad Cenedlaethol erioed wedi gorfod ymdrin ag ef…Ond fy mwriad pendant i a’m gobaith yw y gallwn gyrraedd y diwedd cyn  tymor y Cynulliad.

Ar y cyfan, ymddengys bod cynigion Llywodraeth Cymru i ddatblygu sector ôl-16 unedig yng Nghymru wedi cael ‘cefnogaeth eang’ gan y sector. Byddai’r uniad hwn yn deillio o gyflwyno corff strategol newydd: y comisiwn ymchwil ac addysg drydyddol ar gyfer Cymru (y Comisiwn).

Fodd bynnag, yn seiliedig ar adborth o’r ymgynghoriad, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn bod angen ‘gwaith pellach’ ar rai o’r meysydd yn y cynigion. Un maes lle roedd gwahaniaeth barn oedd

a fyddai un fframwaith cyffredin i sicrhau ansawdd y system Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yn ei chyfanrwydd yn ffordd gywir o fwrw ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn cael eu goruchwylio gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA), sy’n gweithredu o dan gytundeb lefel gwasanaeth (PDF 76KB) gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Yn y cyfamser, caiff Sefydliadau Addysg Bellach, dysgu seiliedig yn y gwaith, a darparwyr addysg oedolion a chymunedol, eu harolygu a’u goruchwylio gan Estyn.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod yr adolygiad i fonitro addysg ôl-orfodol, yn cael ei gynnal gan yr Athro Harvey Weingarten ar hyn o bryd a disgwylir cyhoeddi adroddiad ym mis Mawrth 2018, a fydd

yn cyfrannu llawer i ddatblygiad y cynigion hyn wrth inni symud ymlaen.

Roedd materion hefyd ynghylch y cynigion i greu Ymchwil ac Arloesi Cymru (RIW) fel pwyllgor statudol o’r Comisiwn. Disgwylir y bydd yr RIW yn cynllunio a chyfeirio cyllid ymchwil yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd nifer o bryderon o ran yr RIW fel y cynigir yn y papur gwyn, gan gynnwys

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth Lywodraeth Cymru y bydd yn ystyried barn rhanddeiliaid a chanlyniadau adolygiad yr Athro Graeme Reid o waith ymchwil ac arloesi a ariennir gan y Llywodraeth yng Nghymru, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Cynnwys, neu beidio â chynnwys, dosbarthiadau chweched ysgol

Un mater sy’n debygol o ysgogi llawer o drafodaeth yn y cam nesaf yw p’un a ddylid cynnwys chweched dosbarth yng nghylch gwaith y Comisiwn. Roedd yr Athro Hazelkorn yn argymell y canlynol

Dylid ystyried a ddylai addysg chweched dosbarth, sydd ar hyn o bryd o fewn cylch gwaith addysg ôl-uwchradd, gael ei chynnwys yn yr Awdurdod Addysg Drydyddol neu’r Adran Addysg a Sgiliau fel rhan o’r agenda ysgolion. Dylai hyn gael ei gynnwys fel rhan o adolygiad ehangach o oedran gadael yr ysgol er mwyn cydnabod bod llwyddiant personol a chymdeithasol yn yr 21ain ganrif yn gofyn am lefel uwch o sgiliau a chymwyseddau.

Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Hydref 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd gan Lywodraeth Cymru farn gadarn ar y mater hwn:

There are advantages and disadvantages in moving the sixth forms—. Technically, they are indeed post-compulsory education, and we don’t compel people to go to sixth form, but they are very clearly part of the school system. So, [Professor Hazelkorn’s] report itself says that there are disadvantages and advantages to either putting them into the school system, where they are regulated by Estyn and they are part of that regime—or whether you actually take them out of the school system and put them into a different regulatory body and planning body. It’s a genuine consultation. The Government has no fixed view on this at this moment. We’re waiting to hear how people view this, because Ellen Hazelkorn herself did not come up with a firm recommendation about where sixth forms should sit.

O ganlyniad, roedd cynnwys chweched dosbarth yn gwestiwn penodol yn yr ymgynghoriad a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth Aelodau’r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Rhagfyr 2017 bod:

mwyafrif yr ymatebwyr o’r farn y dylai’r chweched dosbarth gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r system PCET. Teimlai rhai ymatebwyr y dylid cyflwyno’r chweched dosbarth yn raddol yn ddiweddarach yn hytrach na bod yn rhan o gylch gwaith y comisiwn o’r dechrau.

Fodd bynnag, ychwanegodd Kirsty Williams:

mae hynny’n mynd yn groes i argymhelliad Ellen Hazelkorn, nad oedd mewn gwirionedd yn argymell y ffordd honno ymlaen ac a ddangosodd, mewn systemau rhyngwladol eraill y bu hi’n edrych arnyn nhw, nad oedd y chweched dosbarth yn rhan o’r system honno. A dyna pam y mae angen inni, unwaith eto, roi gryn ystyriaeth i fanteision ac anfanteision ei gynnwys.

Gellir gweld gwybodaeth am farn rhanddeiliaid ar chweched dosbarth yng nghrynodeb Llywodraeth Cymru o ymatebion i’r ymgynghoriad (PDF 910KB) (gweler tudalennau 28-29).

I ddatrys y materion uchod, yn ogystal â materion eraill yn ymwneud â gweithredu’r Comisiwn arfaethedig, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ymgynghoriad technegol yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Fodd bynnag, ni wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet fanylu pryd yn y flwyddyn newydd y bydd yr ymgynghoriad yn dechrau gan nodi

what I have also learned is that these things take a lot longer than you initially anticipate in Government.

I gyd-fynd â’r blog hwn, byddwn yn cyhoeddi trosolwg cyffredinol cyn bo hir o’r model cyllido ar gyfer addysg ôl-16 mewn ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llun: o Flickr gan Academia Christiana. Dan drwydded Creative Commons.