Seminar Cyfnewid Syniadau : Gofal iechyd yng nghefn gwlad Cymru

Cyhoeddwyd 30/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cynnal seminar ar y cyd gyda phanel o arbenigwyr ar wasanaethau gofal iechyd yng nghefn gwlad Cymru:

  • John Wynn-Jones, Meddyg Teulu, Sefydliad Meddygon Gwledig y Byd a Chadeirydd Meddygfeydd Gwledig;
  • Dr Rachel Rahman, Y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig, Prifysgol Aberystwyth;
  • Anna L Prytherch, Rheolwr Prosiect Iechyd a Gofal Gwledig Cymru; a
  • Joy Garfitt, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaeth Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Powys.

Cadeiriwyd y seminar gan Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y seminar, cafwyd sgwrs gan bob aelod o’r panel, ac yna sesiwn holi ac ateb gyda’r panel cyfan. Cafwyd cwestiynau gan y rhai a oedd yn bresennol a chafwyd detholiad o gwestiynau a gyflwynwyd trwy gyfryngau cymdeithasol cyn y seminar. Agorodd John Wynn-Jones, meddyg teulu, y trafodion drwy nodi rhai o’r materion yn ymwneud â recriwtio a chadw meddygon teulu ifanc, a phroffesiynau gofal iechyd eraill, mewn ardaloedd gwledig. Nododd dri maes lle mae angen gweithredu er mwyn mynd i’r afael â phroblemau recriwtio yng nghefn gwlad:

  • Cynyddu nifer y meddygon dan hyfforddiant sy’n cael eu recriwtio o ardaloedd gwledig;
  • Integreiddio elfen wledig sylweddol, hyd at flwyddyn, i gyrsiau meddygol israddedig; a
  • Datblygu rhaglen hyfforddi ôl-radd sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yng nghefn gwlad.

Argymhellodd John Wynn-Jones hefyd y dylid gwella sgiliau academaidd cyffredinol gweithlu gofal iechyd cefn gwlad Cymru er mwyn cefnogi gwelliant parhaus a datblygu ‘academi heb furiau’. Siaradodd Dr Rachel Rahman am delefeddygaeth, sy’n gysyniad sydd wedi cael ei dreialu’n helaeth yng Nghymru, ond heb ddod yn arfer prif ffrwd, er gwaethaf tystiolaeth sy’n dangos bod cleifion yn cefnogi gwasanaethau o’r fath. Nododd Dr Rahman rai o’r rhesymau sy’n dal telefeddygaeth yn ôl yng Nghymru:

  • Y diffyg mynediad i dechnoleg a band eang yn y rhan fwyaf o gefn gwlad Cymru. Mae hyn naill ai’n rhwystro mynediad i delefeddygaeth yn gyfan gwbl neu’n arwain at brofiad gwael i ddefnyddwyr (oherwydd bod y gwasanaeth rhyngrwyd yn ysbeidiol ac ati) ac mae hynny’n tanseilio eu ffydd ynddi;
  • Y diffyg cefnogaeth dechnegol i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n defnyddio telefeddygaeth, sy’n golygu o bosibl bod rhaid iddynt ddarparu’r cymorth hwn wrth geisio darparu cymorth iechyd hanfodol;
  • Y ffordd y mae cymhellion ariannol yn annog gwariant cyfalaf yn y tymor byr, sy’n arwain at brynu offer heb ymgynghori â’r staff a fydd yn eu defnyddio. Mae’r ffocws ar wariant cyfalaf hefyd yn anwybyddu’r angen am gefnogaeth barhaus i staff sy’n defnyddio’r offer a’r angen i gynnal yr offer hwnnw; ac
  • Y diffyg cefnogaeth gan gydweithwyr trefol y mae eu hangen i ddarparu cyngor arbenigol mewn ardaloedd gwledig. Gan nad oes rhaid i weithwyr proffesiynol trefol ddefnyddio telefeddygaeth yn rheolaidd, maent yn llai tueddol o oddef y ‘drafferth’ o ddefnyddio newyddbeth a gefnogir yn wael.

Tynnodd Anna Prytherch sylw at y ffaith bod i iechyd yng nghefn gwlad Cymru ei gryfderau mewn rhai agweddau, gan gynnwys cyfraddau llesiant unigol gwell a lefelau pryder is. Fodd bynnag, amlinellodd yr heriau sy’n wynebu gofal iechyd gwledig, ac roedd rhai ohonynt yn atseinio sylwadau’r siaradwyr blaenorol. Nododd Anna rai o’r cyfleoedd a rhai o’r atebion i’r heriau hyn, gan gynnwys

  • defnyddio presgripsiynu gwyrdd (PDF 3.2MB) neu bresgripsiynu cymdeithasol [Gall cynlluniau presgripsiynu gwyrdd/cymdeithasol gynnwys ystod o ymyriadau a gweithgareddau, er enghraifft gwirfoddoli, garddio, chwaraeon, gweithgareddau celfyddydol/creadigol, dysgu oedolion, a chyfeillio];
  • Integreiddio’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn well;
  • Mwy o rannu arferion gorau; gellir dysgu gwersi oddi wrth gymunedau gwledig ledled y byd;
  • Creu rolau newydd yn ymwneud ag iechyd i gau’r bylchau mewn gwasanaethau hanfodol;
  • Creu arbenigedd gwledig ym maes hyfforddiant gofal iechyd ac o ran ymarfer;
  • Seilwaith ffisegol a digidol gwell i sicrhau bod y gwasanaethau’n cysylltu yn haws; a
  • Datblygu mwy o gyfleoedd hyfforddiant lleol yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys creu ysgol Nyrsio yng nghanolbarth Cymru.

Yn olaf, siaradodd Joy Garfitt am y gwasanaethau arbenigol yn ddychwelwyd i ardal Bwrdd Iechyd Powys (yn hytrach nag anfon cleifion i fyrddau iechyd cyfagos ar gyfer triniaeth). Eglurodd Joy fod hyn yn caniatáu iddynt ddatblygu atebion ‘a wnaed ym Mhowys’ i’r heriau sy’n wynebu Powys. Un o’r ffactorau allweddol yn hyn o beth yw ei fod yn lleihau’r gofid a berir i gleifion o orfod teithio pellteroedd maith ar gyfer gwasanaethau. Yn benodol, canolbwyntiodd ar y gwasanaethau iechyd meddwl a ddychwelwyd i Bowys, sef proses a gymerodd dair blynedd ac a gwblhawyd ym mis Mehefin 2016. Eglurodd Joy rai o’r heriau a wynebwyd gan y Bwrdd Iechyd yn ystod y broses hon a sut y’u datrysodd. Dywedodd i hyn

  • Wella recriwtio trwy ddefnyddio dull mwy personol, trwy weithio gyda meddygon locwm a meddygon sydd ar ganol eu gyrfa i’w helpu i ddatblygu a chynllunio eu gyrfaoedd yn yr ardal;
  • Lleihai pellteroedd teithio i gleifion trwy fuddsoddi mewn timau argyfwng ac ymyrraeth ac mewn gwasanaethau yn y gymuned; a
  • Datblygu model ‘a wnaed i Bowys’ o wasanaeth y tu allan i oriau gwaith trwy greu grwpiau gorchwyl a gorffen anhierarchaidd.

Daeth y seminar i ben gydag 20 munud o holi ac ateb gyda phob aelod o’r panel. Cliciwch yma i weld y seminar lawn, gan gynnwys y sesiwn holi ac ateb a mwy o fanylion ar yr areithiau a amlinellir uchod.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru