Cyhoeddiad newydd: Ansawdd Aer

Cyhoeddwyd 09/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae gan Gymru peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau mater gronynnol uwch na Birmingham neu Fanceinion, a ffordd yng Nghaerffili yw'r ffordd fwyaf llygredig y tu allan i Lundain. Mae'r llygredd aer hwn yn cyfrannu tuag at 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru. Fe'i disgrifiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel argyfwng iechyd cyhoeddus brys, gan ddweud mai dim ond ysmygu sy’n waeth argyfwng. Mae rhai ardaloedd yng Nghymru wedi torri rheoliadau'r UE ers sawl blwyddyn, gyda Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn cael ei herlyn am ei diffyg gweithredu. Yn wahanol i'r Alban, sydd â'i Strategaeth Ansawdd Aer ei hun a therfynau llygredd is, mae'r strategaeth ansawdd aer yng Nghymru wedi'i phennu i raddau helaeth gan reoliadau'r UE, a'i darparu gan Awdurdodau Lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer Castell-nedd Port Talbot yn unig. Mae cyhoeddi Cynllun Aer Glân i Gymru yn 2018 yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu mwy ar ansawdd aer.

Cyhoeddiad newydd: Ansawdd Aer (PDF, 938KB)

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Abernethy gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i'r papur briffio hon gael ei chwblhau.


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru