PIGION

Sut y dylem ni fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd?

09 Chwefror 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae pryder ynghylch unigrwydd ac unigedd cymdeithasol wedi bod yn tyfu ers peth amser, gyda dilyniant o astudiaethau ac adroddiadau yn cyfeirio at broblem sy’n gwaethygu. Mae Age UK, y Groes Goch Brydeinig a’r Campaign to End Loneliness  oll wedi cyhoeddi adroddiadau ar unigrwydd a sut i fynd i’r afael ag ef.  Yn ôl adroddiad gan y Groes Goch Brydeinig/Co-op, mae deunaw y cant o bobl yn y DU yn teimlo’n unig ‘drwy’r amser’ neu ‘yn aml’, sy’n cyfateb i 458,000 o bobl yng Nghymru. Roedd adroddiad y Jo Cox Commission on Loneliness ddiwedd llynedd yn annog cymunedau i ‘ddechrau sgwrs’ am unigrwydd.

Gall unigrwydd ac unigedd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg ond gall rhai ffactorau effeithio ar ba mor agored i niwed yw unigolion.

Gall cyfnodau o newid mewn bywyd leihau cyfleoedd ar gyfer cyswllt cymdeithasol: mae’r glasoed, ymddeoliad, cychwyn salwch hirdymor, anabledd, colli partner neu ffrind agos, yn enghreifftiau. Mae grwpiau penodol yn fwy agored i niwed, megis pobl hyn, gofalwyr, cyn-filwyr, pobl o gymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig (BME), a’r rhai sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol. Mae daearyddiaeth ac adnoddau yn ffactorau: mae cymunedau anghysbell â thrafnidiaeth gyhoeddus wael yn cynnig cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer cyswllt cymdeithasol; mae colli neu ddiffyg adnoddau cymunedol megis llyfrgelloedd a chanolfannau dydd yn lleihau nifer y lleoedd cyfarfod; gall diffyg toiledau cyhoeddus wneud i bobl deimlo’n gyndyn i fynd allan.  I lawer o unigolion mae tlodi yn cynyddu unigedd cymdeithasol.

Serch hynny, mae unigolion yn ymateb yn wahanol i’w hamgylchiadau ac mae mynd i’r afael â’r materion yn golygu defnyddio amrywiaeth o ddulliau.

Y cam cyntaf yw nodi pobl sydd mewn perygl o unigrwydd ac unigedd, a’u helpu i ddod yn ymwybodol o weithgareddau a chymorth lleol. Mewn rhai ardaloedd mae ‘cysylltwyr cymunedol’ yn cyflawni’r rôl hon, yn aml gyda gwirfoddolwyr, sy’n helpu unigolion i ehangu eu rhwydweithiau cymdeithasol.  Yn y modd hwn, ac am wariant cymharol fach, gall pobl sy’n profi unigrwydd ac unigedd fyw bywydau mwy cyfoethog.  Gall rhagnodi cymdeithasol hefyd helpu; i rai pobl mae gweithgareddau cymdeithasol yn well na meddyginiaeth gwrth-iselder.

Ar ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad adroddiad ar ei ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd. Roedd ei ffocws yn bennaf, ond nid yn unig, ar bobl hŷn, ac un nod y gwaith oedd dylanwadu ar strategaeth unigrwydd ac unigedd arfaethedig Llywodraeth Cymru.  Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei drafod yn y Senedd ar 14 Chwefror.

Yn ystod ei ymchwiliad, cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ystod o randdeiliaid sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant, gan academyddion, a chan y Comisiynydd Pobl Hŷn sydd wedi bod yn weithgar wrth dynnu sylw at y materion hyn yng Nghymru.

Clywodd Aelodau’r Pwyllgor hefyd gan bobl sydd wedi profi effeithiau unigrwydd ac unigedd yn eu bywydau eu hunain. Dywedasant wrth y Pwyllgor eu bod yn teimlo bod cymunedau yn fwy gwasgaredig, yn llai cysylltiedig ac yn llai dibynadwy nag yr oeddent ar un adeg, a bod pobl hŷn nawr yn llai tebygol o deimlo’n ddiogel.  Roeddent yn credu bod pobl yn amharod i gyfaddef eu bod yn unig ac yn aml maent yn colli eu hunanhyder ac yn pryderu am ryngweithio cymdeithasol; mae angen gwneud pobl yn ymwybodol o adnoddau lleol ac weithiau dylid cynnig cymorth iddynt gymryd rhan.  Teimlent fod yna fanteision ac anfanteision i’r cyfryngau cymdeithasol – gall cyswllt o bell fod yn haws, ond gall pobl hefyd ddod yn fwy ynysig. Roeddent hefyd yn credu y byddai gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o unigrwydd ac unigedd yn annog pobl i siarad amdano a helpu i leihau stigma.

Dangosodd tystiolaeth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor fod yna ddimensiynau niferus i broblemau unigrwydd ac unigedd ac na ellir mynd i’r afael â’r materion gan unrhyw wasanaeth llesiant unigol. Cyfrifoldeb ystod o wasanaethau yw hyn, a’r cymunedau eu hunain.

Mae achos cryf dros ddatblygu gweithio cydlynus, traws-sector ledled Cymru i gyrraedd y nifer sylweddol o bobl y mae eu bywydau yn cael eu difetha gan ddiffyg cyswllt dynol ystyrlon a chyflawn. Pwysleisiodd adroddiad y Pwyllgor bwysigrwydd hyn.  Gall gwaith i leihau unigrwydd ac unigedd atal neu leihau problemau iechyd difrifol a gwella llesiant yn sylweddol, a byddai’n helpu i gwrdd ag amcanion polisi cyfredol ar atal a llesiant.  Yn y tymor hwy, gall mentrau o’r fath helpu i leihau’r galw am wasanaethau iechyd a gofal, er bod angen ymchwil pellach i fesur eu heffaith.

Mae rôl amlwg i’r Trydydd Sector wrth fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd, a chlywodd y Pwyllgor am nifer o enghreifftiau o gynlluniau cymunedol ar raddfa fach, sy’n aml yn cael eu cefnogi gan wirfoddolwyr, sy’n helpu unigolion i aros yn weithgar a chysylltu ag eraill yn eu cymunedau lleol. Gwnaed argraff arbennig ar y Pwyllgor gan dystiolaeth ynghylch manteision cysylltiad rhwng y cenedlaethau rhwng plant a phobl hŷn, ac argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith pellach ar hyn.

Mewn llawer o achosion, mae cyllid ar gyfer cynlluniau Trydydd Sector yn fyr dymor ac yn ansicr ac argymhellodd y Pwyllgor raglenni ariannu tair blynedd ar gyfer mentrau’r Trydydd Sector. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn gweithio gyda’r Trydydd Sector a llywodraeth leol i wella sefydlogrwydd ariannol mewn gwasanaethau allweddol sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd.

Gallai codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o broblemau unigrwydd ac unigedd a’r effaith y gallant ei chael ar unigolion helpu i greu mwy o drafodaeth gyhoeddus ac annog gweithredu unigol mewn teuluoedd a chymunedau. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth i newid agweddau tuag at unigrwydd ac unigedd a mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig ag ef.


Erthygl gan Stephen Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llun: o Wicipedia flickr gan Joan Sorolla. Dan drwydded Creative Commons

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gwella’i wefan, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn eich barn chi. A fyddech cystal â chymryd rhan yn yr  arolwg byr hwn.