A ddylid adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 13/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 25 Ionawr, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y posibilrwydd o adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol (CGD) ar gyfer gwastraff niwclear yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar yr un mater. Wrth lansio'r ymgynghoriad, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ddatganiad ysgrifenedig sy'n nodi na chaiff CGD ei adeiladu yng Nghymru oni bai bod cymuned yn fodlon cynnig lleoliad iddo yn wirfoddol:

Er bod Llywodraeth Cymru o blaid gwaredu daearegol, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y caiff CGD ei adeiladu yng Nghymru na chwaith bod Llywodraeth Cymru'n gofyn am gael adeiladu CGD yng Nghymru Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried na chlustnodi safleoedd neu gymunedau posibl ar gyfer CGD yng Nghymru. Mae ein polisi yn glir: ni chaiff CGD ei adeiladu yng Nghymru onid oes cymuned sy'n fodlon cynnig lleoliad iddo yn wirfoddol.

Beth yw diben y CGD?

Mae llawer o ffynonellau o wastraff ymbelydrol yn y DU. Mae'r rhain yn cynnwys y broses o gynhyrchu ynni a gweithgarwch ym maes diagnosteg a thriniaethau meddygol. Mae lefelau amrywiol o ymbelydredd a hirhoedledd ynghlwm wrth y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu. Er bod cymaint o ddeunydd â phosibl yn cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu, mae angen storio peth o'r deunydd hwn yn ddiogel am filoedd o flynyddoedd, a hynny er mwyn diogelu pobl a'r amgylchedd. Ar hyn o bryd, mae'r gwastraff y bwriedir ei drosglwyddo i'r CGD yn cael ei ailbrosesu yn Sellafield yn Cumbria, neu'n cael ei storio mewn cyfleuster dros dro.

Ers dyddiau cynnar rhaglen niwclear y DU yn y 1950au, cynhyrchwyd llawer iawn o wastraff ymbelydrol. Mae mwy na 90 y cant o'r gwastraff hwn yn wastraff lefel isel, fel papur a phlastig o ysbytai a chyfleusterau ymchwil. Mae'r Gloddfa Wastraff Lefel Isel yng ngorllewin Cumbria yn cael ei defnyddio i waredu'r deunydd hwn. Mae'n storio'r deunydd ar lefel yr arwyneb. Byddai tua 650,000m3 o wastraff gweithgarwch uwch (digon i lenwi bron hanner Stadiwm y Principality) yn cael ei waredu yn y CGD. Mae'r gwastraff hwn yn bennaf yn cynnwys cydrannau o adweithyddion niwclear a deunydd sy'n gysylltiedig ag ailbrosesu tanwydd niwclear.

Byddai'r CGD yn dal y gwastraff, gyda nifer o rwystrau yn atal unrhyw ollyngiadau posibl (diagram isod), ac yn ei gladdu i ddyfnder o rhwng 200m a 1000m, a hynny mewn ardal ddaearegol sefydlog. Byddai hyn yn sicrhau ei bod yn ddiogel gadael y gwastraff yno, heb unrhyw ymyrraeth ddynol bellach. Fodd bynnag, byddai gwaith monitro o amgylch y CGD yn gallu sicrhau nad oes unrhyw ollyngiadau yn digwydd. Dyna oedd y dull gweithredu yr oedd y Pwyllgor ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol yn ei argymell fel y dull gorau o reoli gwastraff yn y tymor hir, gan ddweud ei fod yn destun lefelau is o risg na'r opsiynau eraill.

Ymdrechion a wnaed yn y gorffennol i ddod o hyd i safle ar gyfer y CGD

Dechreuodd yr ymgais i ganfod safle ar gyfer y CGD ym 1982, pan ystyriwyd rhestr hir o safleoedd ledled y DU. Roedd 18 o'r safleoedd hynny yng Nghymru, gan gynnwys gorsafoedd pŵer niwclear Trawsfynydd a Wylfa. Ni chafodd un o'r safleoedd yng Nghymru eu cynnwys ar y rhestr fer yn sgil eu lleoliad neu ffactorau daearegol. Daeth y broses hon i ben ym 1997, pan wrthododd Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd ganiatáu gweithgarwch drilio archwiliol ar y safle a ddetholwyd.

Yn 2008, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ar fframwaith ar gyfer rhoi'r CGD ar waith. Yn yr un flwyddyn, mynegodd Cyngor Sir Cumbria ddiddordeb mewn cynnig lleoliad i'r CGD. Yn dilyn ymgyrch gan amgylcheddwyr a thystiolaeth gan ddaearegwyr annibynnol a oedd yn nodi pryderon ynghylch addasrwydd daeareg y sir ar gyfer cyfleuster o'r fath, gwrthododd y cyngor y CGD yn 2013. Arweiniodd hyn at gyhoeddi Papur Gwyn newydd yn 2014 at ddibenion ailgychwyn y broses o chwilio am leoliad i'r CGD.

Yn sgil newidiadau i'r modd y caiff y cyfleusterau hyn eu dylunio a'r dechnoleg sydd ynghlwm wrthynt, bellach gellir ystyried lleoliadau a nodweddion daearegol newydd. O ganlyniad, mae'n bosibl y bydd y safleoedd a gafodd eu gwrthod neu eu diystyru yn flaenorol yn cael eu cynnwys yn y broses chwilio newydd.

Polisïau sy'n bodoli y tu allan i Gymru a Lloegr

Mae cynlluniau ar y gweill mewn sawl gwlad ar gyfer cyfleusterau CDG, ac mae safleoedd eisoes wedi'u dethol yn Ffrainc, Sweden a'r Ffindir. Adolygwyd y prosesau ar gyfer canfod lleoliadau yn y gwledydd hyn gan Lywodraeth y DU yn 2013. Mae'r enghreifftiau llwyddiannus o ganfod lleoliadau wedi amlygu'r angen i ymgysylltu â chymunedau.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi dewis peidio ag adeiladu CGD. Yn hytrach, mae wedi penderfynu defnyddio system o storio gwastraff yn agos at yr arwyneb a ddylai bara oddeutu 150 mlynedd, a hynny ar gyfer storio gwastraff gweithgarwch uwch. Bydd y system hon yn hwyluso'r broses o ailgasglu deunydd er mwyn caniatáu iddo fod yn destun datrysiadau technolegol yn y dyfodol ar gyfer trin neu waredu gwastraff. Yn y pen draw, bydd angen datrysiad yn y tymor hwy.

Ni ellir cadw'r holl wastraff yn ddiogel yn y modd hwn. Felly, gellir anfon peth o'r gwastraff at y CGD a gaiff ei adeiladu ar gyfer gweddill y DU. Ar hyn o bryd, mae gweddillion tanwydd, sef y cynhyrchion mwyaf ymbelydrol sy'n deillio o ynni niwclear, yn cael eu hanfon o'r Alban at Sellafield i'w hailbrosesu.

Mae barn Llywodraeth Cymru ar y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban wedi'i nodi yn y ddogfen ymgynghori:

Nid yw ffyrdd eraill o waredu gwastraff, megis ei storio ar yr wyneb o hyd, yn darparu ateb parhaol ac maent yn gadael cenedlaethau’r dyfodol i gymryd y cyfrifoldeb am reoli’r deunyddiau hyn mewn modd diogel. Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn y byddai storio’r gwastraff ar yr wyneb o hyd yn cyflawni ein cyfrifoldeb i genedlaethau’r dyfodol nac yn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Y gymuned sy'n cynnig lleoliad

Bydd y broses chwilio newydd yn pwysleisio dull gweithredu sy'n rhoi cymunedau yn gyntaf. Gwahoddir cymunedau sydd â diddordeb mewn cynnig lleoliad ar gyfer y CGD i wneud cais. Yn ogystal, bydd y broses o dynnu cynnig lleoliad ar gyfer y CGD yn ôl yn cael ei nodi'n glir. Disgwylir i'r broses o dan sylw gymryd rhwng 15 a 20 mlynedd, gan ddechrau gyda gwaith ymgysylltu cymunedol i ennyn cefnogaeth a dethol safle cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y broses o ymgysylltu â chymunedau sydd â diddordeb mewn cynnig lleoliad ar gyfer y CGD. Mae hyn yn cynnwys sut y caiff cymuned ei diffinio a sut y bydd yr arian a gynigir i gymunedau posibl sy'n cynnig lleoliad yn cael ei wario. Cynigir hyd at £1 miliwn y flwyddyn i bob cymuned yn ystod y cyfnod ymgysylltu, a hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn yn ystod y cyfnod o ymchwilio i dyllau turio. Mae'r symiau hyn yn ychwanegol at y buddsoddiad a wneir yn y CGD, y disgwylir iddo arwain at 600 o swyddi sy'n gofyn am sgiliau yn y tymor hir a 1,000 o swyddi ychwanegol yn ystod y cyfnod adeiladu.

Ymateb

Mae'r CGD arfaethedig a'r ymgynghoriad wedi bod yn bwnc llosg. Mae rhai sefydliadau'n cefnogi'r cynnig i ymdrin â gwastraff niwclear yn y tymor hir ac eraill yn pryderu ynghylch lefel y wybodaeth y mae cymunedau wedi'i chael am y mater hwn. Dywedodd yr Athro Iain Stewart, cyfarwyddwr Sefydliad y Ddaear Gynaliadwy ym Mhrifysgol Plymouth:

A geological disposal facility is widely accepted as the only realistic way to dispose of higher activity nuclear waste for the long-term.

Roedd Doug Parr, prif wyddonydd Greenpeace, yn feirniadol o'r taliadau cymunedol:

Having failed to find a council willing to have nuclear waste stored under their land, ministers are resorting to the tactics from the fracking playbook - bribing communities and bypassing local authorities.

Testun amgen: Diagram yn dangos enghreifftiau o systemau aml-rwystr cynhwysfawr ar gyfer gwastraff lefel canolradd a lefel uchel Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Abernethy gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r blog hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Robert Abernethy, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru