Canllaw i Wythnos Genedlaethol Arian Myfyrwyr

Cyhoeddwyd 15/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Cynghorwyr Ariannol Myfyrwyr yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau bob blwyddyn i geisio gwella dealltwriaeth o gyllid myfyrwyr, ac mae prifysgolion a sefydliadau addysg uwch yn y DU yn cymryd rhan hefyd. Yr wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Arian Myfyrwyr (12/02/18-16/02/18). Beth ydym ni'n ei wybod a beth sydd angen i ni ei wybod am gyllid myfyrwyr yng Nghymru?

Gall penderfynu pa brifysgol i ymgeisio amdani, trefnu ymweliadau i ddiwrnodau agored ac yna penderfynu ar bedair neu bum prifysgol wahanol fod yn broses anodd. Yn ogystal â hynny, gall cymhlethdod y broses cyllid myfyrwyr, y broses o wneud cais a deall faint o gyllid y gallwch ei hawlio, fod yn ddryslyd dros ben. Unwaith y bydd darpar fyfyriwr wedi gwneud cais, drwy UCAS (Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau) fel arfer, y cam nesaf fyddai archwilio'r opsiynau o ran cyllid myfyrwyr. Mae'r ddarpariaeth, y gofynion cymhwyster a'r broses o wneud cais yn wahanol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan ychwanegu at y cymhlethdod.

Thema menter y Gymdeithas Genedlaethol Cynghorwyr Ariannol Myfyrwyr eleni yw 'Ble rwy'n byw'. Mae hyn yn cynnwys rhentu llety, biliau, hawliau tenantiaid, contractau a rhannu tai. Mae hefyd yn mynd i'r afael â'r cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr er mwyn talu costau cynnal a chadw ymlaen llaw. Felly, pa newidiadau sy'n debygol o effeithio ar fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn 2018/2019?

Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yw Cyllid Myfyrwyr Cymru, i ddarparu gwybodaeth am gymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru, p'un a ydynt yn mynd i'r brifysgol yng Nghymru neu ran arall o'r DU. Ers comisiynu Adolygiad Diamond, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud newidiadau i'r broses cyllid myfyrwyr. Cafodd y cymorth ariannol newydd hwn ar gyfer israddedigion rhan-amser ac amser llawn cymwys sy'n dechrau cwrs prifysgol o fis Medi 2018 ymlaen ei ddiwygio ar sail Adolygiad Diamond a chyfarwyddyd yr Arolwg Incwm a Gwariant Cenedlaethol. O dan y system newydd, mae'r ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu yn newid i ganolbwyntio mwy ar fudd-daliadau a chostau cynnal a chadw ymlaen llaw. Daeth Adolygiad Diamond i'r casgliad bod myfyrwyr yn gweld costau o ddydd i ddydd, fel llety a bwyd, yn fwy o rwystr na'r ddyled o ffioedd dysgu, gyda'r Arolwg yn dangos bod gan gyfran uchel o fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru drefniadau gorddrafft neu gredyd masnachol ar waith, neu fod ganddynt ôl-ddyledion. Mae rhagor o wybodaeth sy'n dadansoddi a'n cymharu'r cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru rhwng blynyddoedd academaidd 2017/2018 a 2018/2019 ar gael ar wefannau Llywodraeth Cymru a Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae crynodeb o'r newidiadau yn ein cofnod blog blaenorol.

Bydd pob myfyriwr cymwys o Gymru yn gallu gwneud cais am becyn cymorth ariannol sydd wedi'i anelu at gostau byw, yn ôl datganiad Llywodraeth Cymru i'r cyfryngau ar 5 Chwefror 2018. Nod y pecyn newydd yw sicrhau cydraddoldeb rhwng myfyrwyr amser llawn a myfyrwyr rhan-amser, gan ddarparu pecyn cryfach i fyfyrwyr rhan-amser yn ogystal â dosbarthiad teg o £1,000 i bob myfyriwr ar ffurf grant, waeth beth yw incwm yr aelwyd a heb gynnal prawf modd.

Eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, y drefn o ran rhoi terfyn uchaf ar ffioedd dysgu mewn datganiad ar 18 Hydref 2017, gan nodi y bydd yr uchafswm y caiff prifysgolion yng Nghymru ei godi mewn ffioedd dysgu yn parhau ar £9,000. Yn dilyn y datganiad hwn, roedd modd seilio’r ffordd y caiff cyllid myfyrwyr ei ddyrannu ar uchafswm o £9,000 ar gyfer cyrsiau ym mhrifysgolion Cymru.

Ynghyd â'r newidiadau hyn i gyllid myfyrwyr, ar 5 Chwefror 2018 lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch ymwybyddiaeth i hyrwyddo manteision prifysgol yn sgil y ffaith bod mwy o gymorth ariannol ar gael.

Mae fideo byr am y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig amser llawn newydd sy'n dechrau yn 2018/2019 ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru ac mae canllawiau cyllid gan y Gwasanaeth Ymchwil ar gael hefyd sy'n amlinellu'r sefyllfa gyfredol. Bydd angen i'r rheoliadau sy'n sefydlu trefniadau 2018/2019 gael eu pasio drwy broses is-ddeddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Hayley Moulding gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a alluogodd i'r blog hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Hayley Moulding, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun: o Pixabay gan 0TheFool. Dan drwydded Creative Commons.