A oes Bil Parhad i ddod?

Cyhoeddwyd 23/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Trafodaethau’r UE) (JMC (EN) ddydd Iau, 22 Chwefror 2018. Dosbarthwyd Newidiadau arfaethedig i Gymal 11 o Fil yr UE (Ymadael), i sicrhau bod holl bwerau datganoledig yr UE yn trosglwyddo’n uniongyrchol o Frwsel i Belfast, Caerdydd a Chaeredin, i’r gweinyddiaethau datganoledig gan Swyddfa’r Cabinet cyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor.

Mae Bil yr UE (Ymadael) ("y Bil Ymadael"), sydd gerbron Tŷ’r Arglwyddi, yn diddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac yn trosi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig y DU. Mae Cymal 11 o’r Bil Ymadael yn rhewi cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran cyfraith yr UE. Ar hyn o bryd, rhaid i’r Cynulliad gydymffurfio â chyfraith yr UE ac mae’r Bil Ymadael yn dweud y bydd yn rhaid i’r Cynulliad, ar ôl gadael yr UE, gydymffurfio â chyfraith yr UE a gedwir. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn gwrthwynebu Cymal 11 ac maent am ei newid.

Dywedodd David Lidington AS, Canghellor Dugiaeth Lancaster, sy’n cadeirio cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, fod y cynigion newydd yn "gynnig" sylweddol gan Lywodraeth y DU yr oedd ef yn gobeithio y byddai’r llywodraethau datganoledig yn ymgysylltu’n adeiladol ag ef. Dywedodd:

The changes would mean that the vast majority of powers will automatically flow from the EU to the devolved administrations. As the UK government has made clear, we always expected that the process would result in a significant increase in their decision making abilities. The changes would also ensure the UK Government would have the ability to protect the internal UK market where necessary, in a small number of areas.

Cyhoeddwyd crynodeb a Nodyn Cyfathrebu ar ôl y cyfarfod. Dywedodd hwn:

The Committee discussed the EU (Withdrawal) Bill, including the proposal to amend clause 11. It was noted that progress had been made, but agreement had not yet been reached between the UK Government, Scottish Government and Welsh Government on the form of an amendment. Discussions on further detail would continue in the coming weeks.

Bu’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Trafodaethau’r UE) hefyd yn trafod cynnydd o ran fframweithiau cyffredin. Nododd y Nodyn Cyfathrebu a gyhoeddwyd ar ôl y cyfarfod fod trafodaethau lefel swyddogol amlochrog wedi edrych yn fanwl ar amrywiaeth o feysydd lle gallai fod angen fframweithiau cyffredin, gan gynnwys, lle gallai dulliau deddfwriaethol a dulliau anneddfwriaethol fod yn briodol. Roedd y trafodaethau hyn yn parhau.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a oedd yn bresennol ar ran Llywodraeth Cymru:

There is progress - there are ideas we were able to discuss today […] They didn’t go far enough. They don’t meet all the things that we think are necessary to persuade the National Assembly for Wales to support the bill. But we’ll meet again and hope that we’ll be able to conclude agreement in advance of amendments being put down in the House of Lords.

Roedd sesiwn Cwestiynau Prif Weinidog yr Alban yn fuan iawn ar ôl i’r JMC (EN) orffen. Amlinellodd Nicola Sturgeon MSP, y Prif Weinidog, wrthwynebiadau parhaus ei Llywodraeth:

Perhaps I can simplify things by saying that what is proposed would not just give the UK Government oversight of this Parliament and Government but, in matters that are devolved to this Parliament, effectively give it powers of imposition or veto. I do not think that that is acceptable, and the Government of Wales does not believe it to be acceptable. That is why there must be further movement from the UK Government if we are going to reach the agreement that I hope we can reach. I think that we are being asked by the UK Government to take it on trust that it will not exercise those powers in an unacceptable way. I am not casting aspersions on the good faith of any individual, but we should not forget that this is a UK Government that, at times, seems willing to ride roughshod over the Northern Irish Good Friday agreement. I do not think that we can simply take it on trust that the same Government would always respect the devolution settlement.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn flaenorol, os bydd Bil yr UE (Ymadael) (y “Bil Ymadael”) yn gadael Tŷ’r Cyffredin heb ei ddiwygio, na fyddai’n gallu argymell bod y Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol, ac y byddai’n ystyried cyflwyno Bil Parhad.

Byddai’r Bil Parhad yn trosi cyfraith yr UE sy’n dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad yn gyfraith Cymru. Byddai’n diogelu pŵer Llywodraeth Cymru dros y meysydd lle mae cyfraith yr UE a chymhwysedd datganoledig yn croesi, ac yn ceisio cadw deddfwriaeth yr UE mewn meysydd polisi datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud, fodd bynnag, nad yw’n ffafrio cael Bil Parhad. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth bapur newydd y Guardian ar 21 Chwefror:

While we are hopeful an agreement can be reached, we continue to prepare for the introduction of our own legislation as a fail-safe to provide certainty and protect devolution.

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru