Cyhoeddiad newydd: Data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4

Cyhoeddwyd 26/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae rhai o’r ystadegau yn y Papur Briffio yma, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 21 Chwefror 2018, wedi eu diweddaru. Y fersiwn diweddaraf yw’r un sydd wedi’i gyhoeddi isod. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

Mae'r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn cyflwyno data ar gyrhaeddiad disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae’n canolbwyntio’n arbennig ar gyrhaeddiad disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim. Dyma’r mesur procsi i nodi plant sy’n dod o gartrefi sydd ar incwm isel. Nod Llywodraeth Cymru yw gwella cyrhaeddiad y grŵp hwn o ddisgyblion drwy ei strategaeth Ailysgrifennu'r Dyfodol a'i chyllid wedi'i dargedu ar ffurf y Grant Datblygu Disgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ceisio gwella cyrhaeddiad mewn ysgolion sy’n tanberfformio. Targedodd gyllid a chefnogaeth mewn ysgolion penodol drwy ei rhaglen Her Ysgolion Cymru, a oedd yn rhedeg o 2014 i 2017. Felly, mae’r papur hwn yn edrych ar gyrhaeddiad disgyblion yn yr ysgolion hyn hefyd.

Mae'r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn diweddaru fersiwn flaenorol o'r papur hwn, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017, i gynnwys y data cyrhaeddiad terfynol ar gyfer 2017 gan Lywodraeth Cymru. Y bwriad yw iddo lywio ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol.

Mae'r papur hwn yn gwneud sylwadau ar newidiadau yng nghyrhaeddiad disgyblion yn 2017 o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, yn seiliedig ar ddata Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw rhai cymariaethau rhwng blynyddoedd yn ddilys yn ystadegol mwyach oherwydd newidiadau mewn mesurau perfformiad. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio'n benodol ar fesurau trothwy Lefel 2 a throthwy cynwysedig Lefel 2. Felly, mae'r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil hefyd yn defnyddio cyfraddau cyrhaeddiad TGAU A*-C yn y pynciau craidd.

Cyhoeddiad newydd: Data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4 (PDF, 2.50MB)


Erthygl gan Michael Dauncey , Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru