Addysg Plant a Phobl Ifanc

Y Cynulliad i drafod Adroddiad Blynyddol 2016/17 Prif Arolygydd Estyn

Yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (6 Mawrth, 2018), bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod Adroddiad blynyddol 2016/17 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, sef Meilyr Rowlands [PDF 3.40MB].
Yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (6 Mawrth, 2018), bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod Adroddiad blynyddol 2016/17 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, sef Meilyr Rowlands [PDF 3.40MB].

Adroddiad Blynyddol eleni yw’r adroddiad terfynol yng nghylch fframwaith arolygu 2010-2017. Mae’r adroddiad yn ystyried y deilliannau ar gyfer 2016/17, ac yn rhoi trosolwg o’r deilliannau a gafwyd yn ystod y saith mlynedd o dan sylw. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae pob darparwr addysg a hyfforddiant wedi bod yn destun o leiaf un arolwg. Mae crynodeb o’r fframwaith arolygu ar gyfer 2010-2017 a’r fframwaith newydd sydd wedi bod ar waith ers mis Medi 2017 ar gael isod.

Daeth y cylch arolygu blaenorol o chwe blynedd i ben pan gyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2009-2010. Ar yr un pryd, cyhoeddwyd canlyniadau PISA ar gyfer 2009, ac yn y pen draw, mae’r cyhoeddiadau hyn wedi arwain at y broses o ddiwygio addysg yn llwyr—proses sy’n parhau hyd heddiw. Mae Adroddiad Blynyddol 2016/17 yn cwmpasu’r cyfnod pan ddechreuwyd y broses o roi’r diwygiadau addysg ar waith. Dywed y Prif Arolygydd:

At ei gilydd, mae rhaglen diwygio addysg gydlynol yn bodoli ar gyfer addysg orfodol, sy’n mynd i’r afael â’n prif heriau ac yn osgoi peryglon canlyniadau anfwriadol yn deillio o waith diwygio tameidiog.

Dengys yr adolygiad o’r saith mlynedd ddiwethaf fod nifer o bethau wedi newid a’u bod yn parhau i newid. Mae’r Prif Arolygydd yn gadarnhaol ar y cyfan, ac yn nodi ‘bod llawer i ymfalchïo ynddo yn y system addysg yng Nghymru’. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod y canfyddiadau arolygu ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17 yn weddol debyg i’r rhai ar gyfer y saith mlynedd diwethaf.

Newid diwylliant

Un o brif negeseuon yr adroddiad yw mai’r duedd fwyaf a welwyd mewn addysg yng Nghymru dros y saith mlynedd diwethaf yw’r symudiad tuag at ddiwylliant o hunanwella a’r symudiad tuag at fwy o gydweithio. Mae holl elfennau pecyn Llywodraeth Cymru o ddiwygiadau addysg – y cwricwlwm, addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol athrawon – yn seiliedig ar system hunanwella. Dyma lle mae rhanddeiliaid allweddol yn y system addysg yn rhannu’r cyfrifoldeb dros wella eu hunain a gwella eraill.

Wyth polisi allweddol

Fel sy’n arferol, mae’r Adroddiad Blynyddol yn cynnwys sylwadau ar sectorau addysg unigol, fel ysgolion cynradd ac uwchradd, cyfiawnder ieuenctid ac addysg athrawon. Eleni, mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar y cynnydd a wnaed  mewn wyth maes polisi penodol dros y cyfnod o saith mlynedd.  Dyma rai o ganfyddiadau’r adroddiad:

  • Dechreuodd y Cyfnod Sylfaen yn 2004/05 ac fe’i cyflwynwyd ar draws Cymru yn 2009/10. Yn y Cyfnod Sylfaen, mae plant yn dysgu drwy weithgareddau arbrofol, a ‘chwarae’ yw’r cyfrwng ar gyfer dysgu. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn canfod bod gweithredu’r dull hwn wedi bod yn anghyson.
  • Mae ymchwil yn awgrymu nad yw plant yn elwa ar ddysgu ffurfiol tan eu bod yn 6 neu 7 oed. Fodd bynnag, dywed yr adroddiad bod llawer o ysgolion yn defnyddio dulliau addysgu mwy traddodiadol, yn benodol ar gyfer plant 5 i 7 oed, ac yn enwedig ar ôl cyflwyno profion darllen a rhifedd. Fodd bynnag, mae’r Prif Arolygydd yn nodi bod plant yn gwneud cynnydd da lle mae’r dull hwn yn cael ei gymhwyso yn unol â’r bwriad.
  • Mae datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd wedi bod yn un o flaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru ers dechrau’r cylch arolygu, a chyflwynodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, a gafodd statws statudol ym mis Medi 2013. Mae angen sgiliau llythrennedd da ar ddisgyblion i ganiatáu iddynt gael mynediad at y cwricwlwm cyfan. Mae sgiliau rhifedd yn hanfodol, ac yn galluogi disgyblion i ddefnyddio ffeithiau a sgiliau rhifiadol i ddatrys problemau bywyd go iawn. Mae’r Prif Arolygydd yn adrodd bod sgiliau llythrennedd disgyblion wedi gwella ac wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau. Mae sgiliau rhifedd hefyd wedi gwella, ond maent yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
  • Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ym mis Medi 2016, a dyma’r agwedd gyntaf ar ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru. Mae cymhwysedd digidol yn un o dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd, er nad oes gan y Fframwaith Digidol statws statudol eto. Er bod gwella sgiliau TGCh wedi bod yn un o nodau Llywodraeth Cymru ers 2008, mae’r Adroddiad Blynyddol yn canfod nad yw cynnydd disgyblion mewn TGCh wedi datblygu ar yr un gyfradd â’r datblygiadau sylweddol a welwyd ym maes technoleg dros y saith mlynedd diwethaf.
  • Mae mynd i’r afael ag effeithiau anfantais hefyd wedi bod yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a bu nifer o fentrau a strategaethau i gefnogi’r flaenoriaeth hon. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn canfod bod gan ysgolion ffocws cryfach ar fynd i’r afael ag effeithiau anfantais nag oedd ganddynt ar ddechrau’r cylch arolygu. Fodd bynnag, mae’n canfod bod yr angen i godi safonau ar gyfer disgyblion sy’n byw mewn tlodi yn parhau, gan nad yw eu lefelau cyflawniad gystal â lefelau cyflawniad eu cyfoedion. Mae ystadegau mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru (mis Rhagfyr 2017) yn dangos bod 41.3 y cant o’r disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cyrraedd trothwy Lefel 2 (sy’n cyfateb i o leiaf 5 TGAU ar raddau A*-C, neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol) o’i gymharu â 73.6 y cant nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae Estyn hefyd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer ei ymchwiliad i gyllid wedi’i dargedu i wella canlyniadau addysgol.
  • Fel y crybwyllwyd uchod, mae’r symudiad tuag at gydweithio yn un o’r tueddiadau mwyaf amlwg a welwyd dros y saith mlynedd ddiwethaf. Yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), mae gweithio o ysgol i ysgol yn hwyluso’r broses o gylchredeg gwybodaeth drwy’r system. Mae’n ffordd amgen o gefnogi ysgolion sy’n ei chael hi’n anodd ac yn ffordd o ddatblygu cyfrifoldeb ar y cyd. Canfu Adroddiad Blynyddol Estyn fod bron pob ysgol yn rhan o ryw fath o bartneriaeth ar gyfer gweithio gydag ysgolion eraill. Fodd bynnag, nid oedd y mwyafrif o ysgolion yn gallu penderfynu a oedd y drefn gweithio o ysgol i ysgol yn effeithio ar safonau disgyblion ac, os felly, sut.
  • Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn 2010. Mae’r Prif Arolygydd yn adrodd ar addysg cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector. Yn ôl y Prif Arolygydd, o fan cychwyn isel, bu cynnydd yn nifer y gweithgareddau dysgu Cymraeg neu ddwyieithog mewn colegau addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae rhy ychydig o ddysgwyr Cymraeg yn parhau â’u hastudiaethau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog mewn addysg bellach neu mewn dysgu yn y gwaith. Mae prinder staff sy’n siarad Cymraeg yn rhwystr sylweddol o ran ehangu’r ddarpariaeth yn y mwyafrif o golegau.
  • Mae adroddiad y Prif Arolygydd yn nodi mai arweinyddiaeth yw’r ffactor allweddol o ran cyflawni’r canlyniadau gorau posibl ymhlith dysgwyr. Mae pwysigrwydd arweinyddiaeth hefyd wedi cael ei gydnabod gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a gyhoeddodd y cam o sefydlu academi arweinyddiaeth genedlaethol hyd-braich newydd ym mis Tachwedd 2016. Barn gyffredinol Estyn yw bod arweinyddiaeth wedi bod yn dda neu’n well mewn tua 75 y cant o ysgolion cynradd a thua hanner yr ysgolion uwchradd. Nid yw’r farn honno wedi newid llawer yn ystod y cylch. Mae angen gwella arweinyddiaeth mewn chwarter o’r ysgolion cynradd ac mewn pedwar o bob deg ysgol uwchradd.

Sylwadau pwysig eraill

  • Yn yr un modd â’r hyn a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol, yn ôl y Prif Arolygydd, er bod llawer o gryfderau mewn rhai meysydd (lleoliadau meithrin, ysgolion arbennig a gynhelir a cholegau addysg bellach) mae amrywioldeb yn parhau i fod yn her yn y rhan fwyaf o sectorau eraill;
  • Dros y cyfnod o saith mlynedd, mae 77 y cant o farnau arolygu wedi bod yn farnau da neu’n well (71 y cant yn dda a 6 y cant yn rhagorol. Mae 23 y cant o farnau wedi bod yn waeth na da (20 y cant yn ddigonol a 3 y cant yn anfoddhaol);
  • Y meysydd addysg sydd gryfaf ar draws y rhan fwyaf o sectorau yw’r rheini’n ymwneud â lles dysgwyr, gofal, cymorth ac arweiniad, a’r amgylchedd dysgu;
  • Mae safonau, addysgu a phrofiadau dysgu, a gwella ansawdd yn gymharol wannach;
  • Fel y nodwyd yn Adroddiad Blynyddol y llynedd, mae deilliannau ysgolion cynradd yn well ar gyfartaledd na’r rheini ar gyfer ysgolion uwchradd. Un o’r prif wahaniaethau yw effaith arholiadau allanol sydd â chysylltiad cryf â systemau atebolrwydd fel y drefn o gategoreiddio ysgolion a mesurau perfformiad ysgolion. Mae’r adroddiad yn awgrymu bod perygl y gall polisi cofrestru ar gyfer arholiadau a’r cyngor a roddir i ddisgyblion ar ba gymwysterau i’w hastudio gael eu gyrru gan bwysau atebolrwydd. Gall hyn hefyd arwain at ‘addysgu at y prawf’, a chanolbwyntio gormod ar addysgu technegau arholiadau yn hytrach na darparu addysg eang;
  • O ran addysg bellach a dysgu yn y gwaith, mae uno wedi arwain at nifer lai o ddarparwyr mawr. Dros y saith mlynedd diwethaf, mae nifer y colegau addysg bellach wedi gostwng o 22 i 13, ac mae nifer y darparwyr dysgu yn y gwaith wedi gostwng o 78 i 19. Mae’r timau arweinyddiaeth newydd yn deillio o’r uno hwn wedi elwa ar gryfderau’r sefydliadau cyfansoddol, ac wedi adeiladu ar fanteision y màs critigol a ddarperir gan y sefydliadau mawr hyn. Mae deilliannau arolygu wedi gwella’n gyffredinol yn y sectorau hyn dros y cylch arolygu.

Beth y mae Estyn yn ei ystyried wrth arolygu ysgolion a lleoliadau eraill?

Mae Estyn yn defnyddio Fframwaith Arolygu Cyffredin a gyflwynwyd ar ddechrau’r cylch arolygu cyfredol ym mis Medi 2010. Mae’r Fframwaith yn cynnwys tri chwestiwn allweddol ynghylch ‘pa mor dda’ yw’r deilliannau, y ddarpariaeth, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn dilyn hynny, mae Estyn yn ffurfio dwy farn gyffredinol am berfformiad cyfredol pob lleoliad a’r rhagolygon ar gyfer gwella perfformiad yn y lleoliadau hynny, a hynny yn ôl graddfa â phedwar pwynt iddi: Rhagorol, Da, Digonol ac Anfoddhaol.

Mae Estyn yn cyhoeddi data ar ei ddeilliannau arolygu. Mae’r adnodd hwn yn darparu manylion ynghylch yr holl farnau arolygu a gyhoeddwyd ers dechrau’r cylch fframwaith arolygu presennol ym mis Medi 2010. Gellir hidlo’r canlyniadau yn ôl sectorau penodol.

A oes newidiadau ar y gweill i’r system arolygu ac i Estyn hefyd?

Cyflwynodd Estyn ddull newydd o arolygu ym mis Medi 2017. Bydd ysgolion, colegau arbenigol annibynnol, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr dysgu yn y gwaith yn cael eu barnu o dan bum maes arolygu:

  • Safonau
  • Lles ac agweddau at ddysgu
  • Addysgu a phrofiadau dysgu
  • Gofal, cymorth ac arweiniad
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mae’r pwyslais cynyddol ar les yn nodwedd gadarnhaol o’r fframwaith arolygu newydd. Mae hefyd yn nodwedd amlwg o gynllun gweithredu addysg Llywodraeth Cymru, sef Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl  [PDF1.91MB], a gyhoeddwyd ym mis Medi 2017.

Bydd darparwyr yn cael eu barnu gan ddefnyddio graddfa pedwar pwynt: Rhagorol; Da; Digonol ac angen gwelliant; ac Anfoddhaol ac mae angen gwelliant ar frys.

Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Prif Arolygydd fod yr Athro Graham Donaldson wedi’i wahodd i gynnal adolygiad annibynnol o rôl Estyn o ran cefnogi’r broses o ddiwygio ym maes addysg. Cynigiwyd y cam hwn gan Meilyr Rowlands. Mae Cylch Gorchwyl yr Adolygiad yn cynnwys sefydlu ffyrdd y gallai cyfraniad Estyn at wella ansawdd addysg yng Nghymru gael ei ymestyn ymhellach, ac amlinellu’r goblygiadau i ofynion gweithredol Estyn yn y dyfodol. Disgwylir i’r Athro Donaldson gyflwyno adroddiad yn gynnar eleni.

Bydd y ddadl a gynhelir yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (6 Mawrth, 2018) yn cael ei darlledu ar  Senedd TV, a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod y Trafodion.


Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru