Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Delweddau Data

Cydraddoldeb o ran rhywedd yng Nghymru: cynnydd neu gam yn ôl?

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw 'Pwyso ar gyfer Cynnydd'. Gwnaeth Fforwm Economaidd y Byd ragweld yn ddiweddar y bydd yn cymryd 100 mlynedd i gau'r bwlch byd-eang o ran rhywedd ar y gyfradd newid bresennol, gydag anghydraddoldeb cynyddol yn y gweithle ac mewn cynrychiolaeth wleidyddol.

08 Mawrth 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw ‘Pwyso ar gyfer Cynnydd’. Gwnaeth Fforwm Economaidd y Byd ragweld yn ddiweddar y bydd yn cymryd 100 mlynedd i gau’r bwlch byd-eang o ran rhywedd ar y gyfradd newid bresennol, gydag anghydraddoldeb cynyddol yn y gweithle ac mewn cynrychiolaeth wleidyddol.

Ond pa gynnydd y mae Cymru’n ei wneud tuag at gydraddoldeb o ran rhywedd?

Yn 2017 lansiodd y Gwasanaeth Ymchwil set o ddangosyddion cydraddoldeb o ran rhywedd i Gymru i ddarparu darlun o anghydraddoldeb o ran rhywedd yng Nghymru yn seiliedig ar yr ystadegau diweddaraf. Eleni rydym wedi diweddaru’r dangosyddion (lle mae data newydd ar gael) ac rydym wedi crynhoi’r meysydd lle mae cydraddoldeb rhwng dynion a menywod wedi tyfu a lleihau:

Cyfradd gweithgarwch economaidd: mae’r bwlch rhwng dynion a menywod wedi culhau ychydig, o 70.9% yn 2016 i 72.2% yn 2017 ar gyfer menywod, a 78.6% i 79.3% ar gyfer dynion.

Entrepreneuriaeth: mae’r gyfradd ‘cyfanswm gweithgaredd entrepreneuraidd cyfnod cynnar’ (sef y canran o’r boblogaeth oedran gweithio sydd ar fin dechrau gweithgaredd entrepreneuraidd neu sydd wedi dechrau un yn y 3.5 mlynedd blaenorol) ar gyfer menywod wedi cynyddu o 4.6% i 5.8% rhwng 2015 a 2016, ac o 9% i 9.5% ar gyfer dynion.

Cyflog: gwnaeth y bwlch rhwng cyflogau menywod a dynion gulhau ychydig yn ôl y tri mesur (yr holl waith, gwaith amser llawn a gwaith rhan-amser). Mae’r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod mewn gwaith amser llawn yn dal i fod yn £1.81 yr awr. Mae dadansoddiad mwy manwl o’r bwlch cyflog o ran rhywedd yng Nghymru islaw.

Y sector preifat: Bu cynnydd bach yn nifer y prif weithredwyr sy’n fenywod yn y 100 o fusnesau gorau yng Nghymru – o 2% yn 2014 i 6% yn 2017.

Diweithdra: Mae cyfradd ddiweithdra’r ILO wedi gostwng i fenywod (o 5.2 i 4.2) ac i ddynion (5.6 i 4.6) rhwng 2016 a 2017, felly nid yw’r bwlch wedi ehangu nac wedi cau.

Cyflogaeth ran-amser: ehangodd y bwlch o ran rhywedd ychydig wrth i’r gyfradd gyflogaeth ran-amser ar gyfer dynion ostwng ychydig, tra bod menywod yn aros yr un peth.

Awdurdodau lleol:  rhwng 2014 a 2017 gostyngodd y ganran o brif weithredwyr awdurdodau lleol oedd yn fenywod o 18% i 14%. Cododd canran y menywod oedd yn staff awdurdodau lleol o 72% i 73% dros yr un cyfnod.

Hunangyflogaeth: gostyngodd cyfradd hunangyflogaeth menywod ychydig o 9.4% i 9.2% rhwng 2016 a 2017, tra bod dynion yn aros yr un fath.

Hunanladdiad: cynyddodd y gyfradd hunanladdiad fesul 100,000 o bobl o 4.3 i 4.7 i fenywod, ac o 18 i 19.5 i ddynion rhwng 2014 a 2015.

Pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET): Er bod y gyfradd NEET ar gyfer menywod rhwng 16 a 18 a 18-24 wedi gostwng rhwng 2015 a 2016, mae’r gyfradd NEET ar gyfer dynion wedi cynyddu ar gyfer y ddau grŵp oedran.

Digartrefedd: Mae nifer y bobl ddigartref sydd mewn angen blaenoriaeth wedi codi, ond mae’r bwlch rhwng nifer y menywod a’r dynion wedi cynyddu ychydig, gyda menywod yn llawer mwy tebygol na dynion i fod mewn angen blaenoriaeth ac yn gymwys am gymorth. Mae dynion yn fwy tebygol o fod yn ddigartref ond heb fod mewn angen blaenoriaeth.

Y bwlch cyflog o ran rhywedd yng Nghymru

Y bwlch cyflog o ran rhywedd yw un o’r dangosyddion cydraddoldeb rhwng y rhywiau a drafodir amlaf yng Nghymru a’r DU. Mae’r gwahaniaeth mewn cyflog rhwng staff y BBC, a’r gofyniad i fusnesau ag o leiaf 250 o gyflogeion i adrodd ar wahaniaeth mewn cyflog o ran rhywedd  erbyn 4 Ebrill 2018 wedi derbyn cryn sylw yn y cyfryngau dros y misoedd diwethaf.  Felly beth yw’r stori yng Nghymru?

Nid oes unrhyw fesur unigol o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae edrych ar enillion amser llawn yr awr yn rhoi darlun o wahaniaethau mewn enillion lle mae pobl yn gweithio oriau tebyg.  Mae edrych ar enillion  yr awr pob cyflogai (yn rhan-amser ac yn amser llawn) yn ystyried gwahaniaethau cyflog sy’n gysylltiedig â menywod yn fwy tebygol o weithio’n rhan amser na dynion.

Mae gan rai sectorau bwlch cyflog mwy o ran rhywedd nag eraill, ac mae gan rai fylchau gwahanol yn seiliedig ar wahanol fesurau. Er enghraifft, yng Nghymru:

  • Ar draws pob diwydiant mae’r bwlch cyflog o ran rhywedd ychydig yn is na 15% ar gyfer pob cyflogai ac ychydig dros 6% ar gyfer cyflogeion llawn amser;
  • Yn y diwydiant gweithgynhyrchu mae dynion yn ennill 28% yn fwy na menywod yn seiliedig ar enillion pob cyflogai. Ar gyfer gweithwyr amser llawn yn unig, mae’r bwlch cyflog o ran rhywedd yn 18%;
  • Mewn galwedigaethau gwybodaeth a chyfathrebu mae dynion yn ennill ychydig dan 25% yn fwy na menywod. Pan fyddwch chi’n edrych ar gyflogeion amser llawn yn unig, mae’r bwlch cyflog rhwng y ddau ryw yn 21%;
  • Mewn galwedigaethau proffesiynol, gwyddonol a thechnolegol mae dynion yn ennill 21% yn fwy na merched. Mae dynion amser llawn yn ennill 16% yn fwy na merched amser llawn.
  • Mae gan alwedigaethau fel eiddo tiriog, llety a bwyd, a gwasanaethau gweinyddu a chefnogi fwlch cyflog is o ran rhywedd na chyfartaledd Cymru ar gyfer cyflogeion amser llawn a phob cyflogai.

Nid oes esboniad unigol ar gyfer y bwlch cyflog o ran rhywedd. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi ymgymryd â dadansoddiad yn dangos  bod bron i ddwy ran o dair o’r bwlch cyflog o ran rhywedd yn y DU yn cael ei esbonio gan ffactorau megis galwedigaeth, oriau a weithiwyd, sector a lleoliad. Ond mae yna amrywiaeth o ffactorau eraill y byddai angen eu modelu i ddeall yn llawn effaith gwahaniaethu ar y bwlch cyflog o ran rhywedd.   Mae’r rhain yn cynnwys effaith strwythurau teuluol, addysg a seibiannau gyrfa.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi canfod bod y bwlch cyflog o ran rhywedd yn ehangu o ddiwedd yr 20au a’r 30au cynnar. Cafwyd hefyd, cyn bod mamau yn y DU yn cael eu plentyn cyntaf, y bwlch cyflog o ran rhywedd yw 10%. Erbyn i’r plentyn cyntaf gyrraedd 12 oed, mae menywod yn cael eu talu draean yn llai yr awr na dynion.  Pan fydd menywod yn dychwelyd i waith cyflogedig ar ôl cael plant, ar gyfartaledd maent yn ennill 2% yn llai am bob blwyddyn y maen nhw wedi bod y tu allan i’r gweithlu cyflogedig.  Mae’r gwahaniaeth mewn cyflog yn uwch ar gyfer menywod sydd â chymwysterau uwch.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith ar hyn o bryd. Bydd yn archwilio’r effaith y mae cael plant yn ei chael ar gyflogaeth ac incwm.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gareth Thomas and David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru