Datblygiadau’r Bil Ymadael

Cyhoeddwyd 12/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Ar 27 Chwefror, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn ddrafft o Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Gosodwyd y Bil terfynol gerbron ar 7 Mawrth 2017. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yn y Crynodeb o’r Bil gan y Gwasanaeth Ymchwil a’r Gwasanaeth Cyfreithiol.

Diben y Bil yw cadw cyfraith yr UE sydd a wnelo â phynciau sydd wedi’u datganoli i Gymru pan fydd y DU yn ymadael â’r UE. Fe fydd hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod deddfwriaeth sydd a wnelo â’r pynciau hyn yn gweithio’n effeithiol ar ôl i’r DU adael yr UE a phan fydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (“y Bil Ymadael”) yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Y cynigion ar y Bil Brys

Ddydd Mawrth 6 Mawrth, bu Cyfarfod Llawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n trafod dau gynnig. Yn unol â’r weithdrefn ar gyfer Biliau Brys, mae un cynnig yn ceisio caniatâd i gyflwyno’r Bil, ac mae’r ail yn ceisio cymeradwyaeth i amserlen. Dyma oedd y cynigion:

Cynnig NDM6672 Julie James Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn:
Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw’n Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.
Cynnig NDM6673 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn:
Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw’n Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.

Fe esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AC, pam y mae angen Bil Brys. Dywedodd, er y bu cynnydd ar y mater hwn yn ystod yr wythnosau diwethaf, nid yw trafodaethau eto wedi cyrraedd sefyllfa lle y gall Llywodraeth Cymru fod yn ffyddiog y caiff y Bil Ymadael ei ddiwygio er mwyn bodloni’r holl bryderon. Aeth ymlaen i ddweud:

Felly nid oes unrhyw ddewis inni ond cyflwyno ein Bil parhad ein hunain, y gyfraith sy’n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cymru), y Bil LDEU, sy’n sicrhau bod modd gweithredu’r gyfraith yng Nghymru yn llwyr ar ôl y diwrnod ymadael ac sydd hefyd yn sicrhau y caiff penderfyniadau ynglŷn â chyfreithiau datganoledig eu gwneud yng Nghymru a chan y Cynulliad hwn. A dyna pam mae angen cyflwyno Bil a gwneud hynny ar fyrder.
Ar ôl rhoi cymaint o amser â phosib i Lywodraeth y DU wneud y newidiadau angenrheidiol i’w Bil, rydym wedi aros tan y funud olaf i gyflwyno’r Bil LDEU, ond mae’r funud olaf posib wedi cyrraedd. Bydd gweithredu’r Bil yn gofyn am swm sylweddol, yn wir swm gwbl ddigynsail, o gamau deddfwriaethol ar ran Gweinidogion Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r amser cyfyngedig sydd ar ôl rhwng nawr a’r diwrnod ymadael yn golygu y byddai defnyddio’r gweithdrefnau arferol gyda Biliau yn mynd yn groes i’w nod ei hun, gan adael amser rhy fyr ar gyfer gweithredu ar ôl pasio Bil.

Yn ystod y ddadl ynglŷn â’r Cynnig, dywedodd David Melding AC, yn siarad ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn cytuno â Llywodraeth Cymru mai’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r mater hwn yw diwygio’r Bil Ymadael â’r UE er mwyn iddo allu cael cydsyniad deddfwriaethol gan y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban. Fodd bynnag, roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn coleddu barn wahanol i Lywodraeth Cymru a bydden nhw’n gwrthwynebu’r cynnig oherwydd:

[…] credwn fod y gwiriadau priodol hyn—ac mae hynny yn brawf gwych o’r setliad datganoli, rwy’n cytuno â hynny—yn y weithdrefn Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Nid ydym yn credu y gall Bil ymadael â’r UE fynd rhagddo’n llwyddiannus heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban. Mae hi’n ddyfais briodol, y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ac mae’n un sy’n rhoi inni yr amddiffyniad cyfansoddiadol y mae’r Gweinidog yn ei geisio.

Amlinellodd hefyd bryderon y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â chraffu. Fe gododd gwestiwn ynglŷn â sut y byddai’r Cynulliad yn craffu ar Fil Brys ynglŷn â mater cyfansoddiadol mor sylweddol: “O ystyried yr amserlen, byddai hynny mor gyflym fel na ellid ond craffu yn arwynebol, os oedd hynny’n bosib o gwbl, ar nifer penodol o feysydd cyfyngedig.”

Yn ôl Leanne Wood AC, roedd Plaid Cymru wedi dadlau o blaid cyflwyno’r Bil yn gynharach ond addefodd fod cyflwyno’r Bil o dan weithdrefn frys yn well na chael dim Bil o gwbl. Meddai:

Ar hyn o bryd yn y broses o ymadael â’r UE, nid oes unrhyw ddadl argyhoeddiadol ynglŷn â llaesu dwylo a chaniatáu i San Steffan gipio’r pwerau sydd eisoes wedi’u datganoli. Rydym wedi dysgu’r ffordd anodd, dro ar ôl tro, i beidio ag ymddiried yn San Steffan.

Dywedodd Neil Hamilton AC ei fod yn bwriadu cefnogi’r cynigion. Esboniodd sut roedd ei farn wedi newid:

Roedd gennyf amheuaeth ar y dechrau mai ystryw oedd hyn i geisio gwneud y broses o adael yn fwy anodd nag y dylai fod, ac efallai hyd yn oed i’w rwystro’n gyfan gwbl. Rwyf, ers peth amser, wedi cefnu ar yr ofn hwnnw, ac rwy’n derbyn didwylledd y Llywodraeth fod hyn yn ymgais ddiffuant i orfodi Llywodraeth y DU i wneud y peth iawn y mae pob plaid yn y tŷ hwn, hyd yn oed y Blaid Geidwadol yma, yn derbyn y dylid ei wneud—y dylid diwygio Bil ymadael â’r UE i sicrhau’r canlyniad y mae pob un ohonom ni eisiau ei weld.

Pasiwyd y cynnig i gyflwyno, gyda 44 o blaid a 10 yn erbyn, heb unrhyw ymataliadau.

Cynhelir Cyfnod 1 y ddadl mewn Cyfarfod Llawn i edrych ar yr Egwyddorion Cyffredinol ar 13 Mawrth. Bwriedir i Bwyllgor o’r Cynulliad Cyfan ystyried y Bil yn ystod Cyfnod 2 ar 20 Mawrth a bydd Cyfnod 3 a 4 yn digwydd mewn Cyfarfod Llawn ar 21 Mawrth.

Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE)

Cyfarfu’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion – Negodiadau’r UE am yr wythfed tro ar 8 Mawrth. Mewn cam heb ei debyg o’r blaen, dyma’r eildro mewn pythefnos y mae’r Pwyllgor wedi’i alw ynghyd i drafod cytundeb posib ar ddiwygiadau i’r darpariaethau ynglŷn â datganoli yn y Bil Ymadael. Wedi hyn, cyhoeddwyd Cyfathrebiad yn dweud:

The Committee discussed the UK Government’s proposed amendment to clause 11 and progress made towards reaching agreement. The Committee noted the timings for the Committee Stage debate in the House of Lords. All administrations remained committed to reaching agreement on the EU (Withdrawal) Bill. Discussions on further detail on the proposal would continue between the UK Government and Scottish and Welsh Governments in the coming weeks.
JMC (EN) noted and agreed the UK Government’s intention to publish its frameworks analysis and committed itself to continuing work towards agreements on common frameworks.

Roedd datganiad Swyddfa’r Cabinet i’r wasg a oedd yn cyd-fynd â’r Cyfathrebiad yn dweud bod angen i Senedd y DU gael dadl fanwl ynglŷn â’r materion sydd wedi bod yn destun trafodaethau ers cryn amser nawr rhwng y gwahanol lywodraethau. Mae Tŷ’r Arglwyddi i fod i ddadlau Cymal 11 y Bil mewn ychydig dros wythnos felly mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi ei ddiwygiadau arfaethedig i’r Bil. Dywedodd:

The proposed amendment will mean that all EU powers that intersect with devolved competencies will go directly to the devolved parliaments and assemblies at the time of Brexit. In addition, there would be a provision for the UK Government to maintain a temporary status quo arrangement over a small number of returning policy areas where an agreement for a UK framework had not been reached in time for EU Exit. This is to protect the UK common market and ensure no new barriers are created for consumers and businesses.

Fe gyhoeddodd llywodraeth y DU y dadansoddiad o fframweithiau ar 9 Mawrth. Fe nododd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) fwriad Llywodraeth y DU i gyhoeddi ei ddadansoddiad o fframweithiau, a chytunodd ar hyn, gan ymrwymo i barhau i weithio tuag at gytundebau ar fframweithiau cyffredin.

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford:

If I was trying to explain this to somebody who isn't close to it all, I would say this: the UK government wants to take some responsibilities that are today held by the national assembly and put them in a freezer that would be held here at Westminster.
The three issues we wanted to talk about today was how do those items get put in the freezer - who decides that'll happen?
How long are they to be held in the freezer? And how will they be taken out of the freezer at the end of the process?
And we put forward practical ideas on all those three matters.

Ac yn ôl Mike Russell, Gweinidog yr Alban ar gyfer Negodiadau’r DU ar Le yr Alban yn Ewrop:

[…] it was deeply disappointing that the UK Government did not bring forward any new proposal today and are pressing ahead with a bill that, even with their proposed amendment, would allow them to unilaterally take control of devolved powers without the agreement of the Scottish Parliament.
In contrast, in our effort to secure an agreement, the Scottish and Welsh Governments have made another offer to the UK Government today.
We are clear that the EU Withdrawal Bill must be amended so that the devolution settlement cannot be changed without the consent of the Scottish Parliament.
That is why we said to the UK Government that if we can agree the areas where UK-wide legislative frameworks may be required after Brexit and if it is also agreed that consent to the necessary parliamentary orders will be required from the Scottish Parliament in each case, then we would take steps to reassure the UK Government that Scotland would not unreasonably withhold that consent.

O ystyried na fu unrhyw gytundeb, mae’n edrych yn debyg y byddwn ni’n bwrw ymlaen â’r Biliau Parhad yng Nghaerdydd a Chaeredin.


Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru