Cyhoeddiad newydd: Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 – Crynodeb o Ddeddf

Cyhoeddwyd 13/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn cyflwyno system newydd, sy'n seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn lle'r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) presennol.

Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) statudol a chyffredinol i blant a phobl ifanc ag ADY. Bydd hyn yn rhoi terfyn ar y gwahaniaeth presennol rhwng ymyriadau a arweinir gan ysgol a datganiadau a gyhoeddir gan awdurdodau lleol ac yn integreiddio'r trefniadau deddfwriaethol presennol ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr ôl-16 mewn colegau. Mae'r Ddeddf hefyd yn ceisio gwella'r cydweithio rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn ogystal â sefydlu system decach a mwy tryloyw gyda mwy o bwyslais ar osgoi anghytundeb a datrys anghydfodau.

Yn dilyn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyflwyno’r newidiadau yn raddol fesul cam, gan gyflwyno’r system newydd a sefydlir gan y Ddeddf o fis Medi 2020. Felly, bydd y system Anghenion Addysgol Arbennig gyfredol yn parhau ar waith ar gyfer pob dysgwr sydd ag AAA/ADY tan fis Medi 2020.Dim ond ar ôl hynny y bydd dysgwyr yn dechrau cael eu trosglwyddo i’r system newydd.

Yn y papur hwn ceir crynodeb o ddarpariaethau’r Ddeddf a’i hynt drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddiad newydd: Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 – Crynodeb o Ddeddf (PDF,  1801KB)


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru