Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Diweddariad ar Fframweithiau ledled y DU ar ôl gadael yr UE

Ym mhumed cyfarfod y Cydbwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 16 Hydref 2017, cytunodd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ar gyfres o egwyddorion ar gyfer llywodraethu’r gwaith o sefydlu fframweithiau cyffredin ledled y DU mewn rhai meysydd polisi sy’n dod o fewn cymhwysedd datganoledig ond a gaiff eu llywodraethu ar hyn o bryd gan gyfraith yr UE.

15 Mawrth 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Fframweithiau Cyffredin

Ym mhumed cyfarfod y Cydbwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 16 Hydref 2017, cytunodd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ar gyfres o egwyddorion ar gyfer llywodraethu’r gwaith o sefydlu fframweithiau cyffredin ledled y DU mewn rhai meysydd polisi sy’n dod o fewn cymhwysedd datganoledig ond a gaiff eu llywodraethu ar hyn o bryd gan gyfraith yr UE. Roedd y Cyd-hysbysiad  (PDF, 71.8KB) a gyhoeddwyd ar ôl y cyfarfod yn dweud:

A framework will set out a common UK, or GB, approach and how it will be operated and governed. This may consist of common goals, minimum or maximum standards, harmonisation, limits on action, or mutual recognition, depending on the policy area and the objectives being pursued. Frameworks may be implemented by legislation, by executive action, by memorandums of understanding, or by other means depending on the context in which the framework is intended to operate.

Mae’r Cyd-hysbysiad hefyd yn nodi mai nod pob ochr fydd cytuno pryd y mae angen fframweithiau cyffredin, a chynnwys y fframweithiau hynny.

Yn ddiweddarach, nododd Llywodraeth y DU 64 maes (PDF, 18.8KB) lle mae cyfraith yr UE yn croestorri â phwerau datganoledig yng Nghymru, ac y gellid creu fframweithiau cyffredin ynddynt.

O ran y gwaith a wnaed gan y Cydbwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar fframweithiau posibl yn y meysydd hyn, dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol  (EAAL)  ar 5 Mawrth:

A really significant amount of work has been invested by all three Governments through officials in that work. I think what we would say is that it demonstrates that by doing things by agreement—everybody coming to the table, everybody having responsibilities that they hold and everybody being willing to pool those responsibilities in pursuit of a sensible way through—we are demonstrating every day that we can make that work.

Hefyd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor y dylai Confensiwn Sewel fod yn gymwys ar gyfer sefydlu fframweithiau:

 … if a framework is agreed and it gets to a point where we think that it could be signed off between Governments, the legislatures ought to have a say about that too. And if it’s a UK Bill that we all agree should be the mechanism, then that should have the assent of the National Assembly to going ahead in that way.

Dadansoddiad Llywodraeth y DU

Ar 9 Mawrth cyhoeddodd Swyddfa’r Cabinet ddogfen (PDF, 197KB) a oedd yn nodi asesiad dros dro Llywodraeth y DU o ble y byddai angen fframweithiau cyffredin mewn meysydd o gyfraith yr UE o fewn cymhwysedd datganoledig ar ôl Brexit. Yn ôl Llywodraeth y DU, mae’r dadansoddiad yn ‘ddogfen waith, wedi’i chynllunio i lywio’r ymgysylltiad rhwng swyddogion yn Llywodraeth y DU, Llywodraeth y Alban a Llywodraeth Cymru a’r gwasanaeth sifil yng Ngogledd Iwerddon.’

Mae’r dadansoddiad yn cynnwys 153 o feysydd polisi gwahanol, gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgota, safonau bwyd a pholisi amgylcheddol, ac fe’i rhennir yn dri chategori, y gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

  1. 49 o feysydd lle nad oes angen gweithredu pellach;
  2. 82 o feysydd lle mae’n bosibl y bydd angen fframweithiau anneddfwriaethol;
  3. 24 o feysydd lle gallai trefniadau fframwaith cyffredin deddfwriaethol fod yn angenrheidiol.

Hefyd, mae’r dadansoddiad yn cynnwys 12 o feysydd polisi y cred Llywodraeth y DU a gedwir yn llwyr, ond sy’n destun trafodaeth barhau’ â’r llywodraethau datganoledig ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys enwau bwyd gwarchodedig a chymorth gwladwriaethol.

Roedd y datganiad i’r wasg gan Swyddfa’r Cabinet, a gyhoeddir ar y cyd â’r dadansoddiad yn nodi:

The document published today by the Cabinet Office makes clear that the vast majority of these policy powers are now intended to be in the full control of the devolved governments from day one of Brexit.

O ran y 24 maes y disgwylir y bydd angen fframweithiau deddfwriaethol ynddynt, ac a fydd, o ganlyniad y tu allan i bwerau’r deddfwrfeydd datganoledig, mae Llywodraeth y DU yn honni mai:

… temporary restriction on the devolved governments using some of these new EU powers is to help ensure an orderly departure from EU law and to provide certainty to UK businesses while new legislative frameworks are agreed.

O ran Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi nodi 24 o feysydd polisi o fewn cymhwysedd datganoledig Cymru lle mae’n bosibl y bydd angen fframweithiau deddfwriaethol ledled y DU. Mae’r 24 maes hyn yn cynnwys cymorth amaethyddol, cymorth a rheoli pysgodfeydd, lles anifeiliaid, plaladdwyr, labelu bwyd a diogelwch bwyd, ac iechyd planhigion.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddydd Mercher 14 Mawrth, amlygodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y ffaith mai dogfen Llywodraeth y DU yw:

 … Nid ydym wedi cytuno iddi, ac nid yw’n cynrychioli barn Llywodraeth Cymru. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y ddogfen ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i oresgyn unrhyw wahaniaethau lle bynnag y bo modd.

Mewn ymateb i ddatganiad Llywodraeth y DU y bydd y mwyafrif helaeth o bwerau sy’n dychwelyd o Frwsel ‘yn cychwyn yng Nghaeredin, yng Nghaerdydd ac yn Belfast’, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:

Mae unrhyw sôn am ddatganoli “pwerau newydd sbon sylweddol” yn gamarweiniol a diwerth. Nid yw’r pwerau yn cael eu rhoi i’r Cynulliad Cenedlaethol, maent yma eisoes.

At hynny, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod cyfanswm nifer y meysydd ym mhob grŵp yn ‘ddiystyr yn gyffredinol’:

 ….  oherwydd bod meysydd fel ‘Cymorth Amaethyddol’ a ‘Cymorth a rheoli Pysgodfeydd’ yn llawer ehangach ac yn effeithio llawer mwy ar gymhwysedd datganoledig yng Nghymru na meysydd pwysig ond cul fel ‘systemau tollau ffyrdd electronig’ a ‘diogelwch ac ansawdd gwaed’.

Ymateb Llywodraeth yr Alban

Mewn llythyr at holl aelodau Senedd yr Alban, dyddiedig 12 Mawrth, dywedodd Mike Russell, y Gweinidog dros Drafodaethau’r DU ar Le yr Alban yn Ewrop, nad yw Llywodraeth yr Alban yn gwrthwynebu fframweithiau ledled y DU mewn meysydd lle mae buddiant yr Alban o dan sylw, ond ni ddylid eu gosod heb gytundeb gan Senedd yr Alban. Galwodd y Gweinidog hefyd am wneud newidiadau i’r Bil Ymadael, i nodi’n ddiamau y bydd angen cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig wrth basio deddfwriaeth sylfaenol i sefydlu fframweithiau.

Yn yr un modd â Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn pryderu ynghylch rhai o’r meysydd a nodwyd fel rhai sydd wedi’u cadw’n llwyr. Dywedodd y Gweinidog yn yr Alban:

The UK Government also claims that areas such as Geographical Food Indicators and State Aids are reserved, though both devolved administrations dispute that and the previous version of the list did not make that assertion…In addition the UK Government has confirmed to the devolved administrations that it may bring forward further subjects not presently on the list as published if it deems it necessary.


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru