Tlodi yng Nghymru: a yw’r gwir sefyllfa’r glir?

Cyhoeddwyd 16/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae mwy nag un o bob pump o bobl yng Nghymru (23 y cant o’r boblogaeth) yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd, sef y lefel uchaf o holl wledydd y DU. Mae hyn yn golygu bod 710,000 o bobl yng Nghymru yn byw islaw’r llinell dlodi, gan gynnwys 185,000 o blant, 405,000 o oedolion o oedran gweithio a 120,000 o bensiynwyr.

Mae rhagolygon tlodi yng Nghymru yn rhagweld nad yw’r sefyllfa yn debygol o wella.

Erbyn 2021-22, amcangyfrifir y bydd 27 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi, a bydd 39 y cant o blant yn byw mewn tlodi. Disgwylir i nifer y bobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi gynyddu 3 pwynt canran erbyn 2021-22. Y cynnydd hwn yw’r trydydd uchaf ymhlith pob un o ranbarthau’r DU, y tu ôl i Ogledd Iwerddon a Gogledd Ddwyrain Lloegr yn unig, sy’n wynebu cynnydd o 4 pwynt canran yr un. Rhagwelir y bydd lefel tlodi plant yng Nghymru yn cynyddu 10 pwynt canran erbyn 2021-22, sy’n uwch na phob ardal heblaw Gogledd Ddwyrain Lloegr, lle disgwylir i dlodi plant gynyddu 12 pwynt canran.

Ffigur 1: Amcangyfrif o ganran y boblogaeth mewn tlodi, 2019-20 i 2021-22 Ffigur 2: Amcangyfrif o ganran plant mewn tlodi, 2019-20 i 2021-22

Sut y caiff tlodi ei fesur

Caiff tlodi ei fesur mewn sawl ffordd, ond y dull safonol ar gyfer mesur tlodi a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU yw ‘incwm isel cymharol’, neu ‘dlodi cymharol’. Bydd cartref mewn tlodi cymharol os yw ei incwm islaw 60 y cant o incwm canolrifol aelwyd ar ôl costau tai. Mae hyn yn cynnwys yr holl incwm, o gyflogaeth a budd-daliadau, ac fe’i mesurir ar ôl treth. Felly, ar gyfer cwpl heb blant, y ‘llinell’ tlodi fyddai £248 yr wythnos, £144 yr wythnos ar gyfer person sengl a £401 yr wythnos ar gyfer cwpl sydd â dau o blant.

Fodd bynnag, mae mesurau tlodi sy’n seiliedig ar incwm wedi’u beirniadu’n helaeth, gan gynnwys gan Weinidogion y Llywodraeth, am nifer o resymau a drafodir isod.

Beth a phwy sydd wedi’u heithrio o’r mesur tlodi safonol

Mae tlodi cymharol yn eithrio mesurau o dlodi ac amddifadedd aml-ddimensiwn (sy’n golygu eu bod yn seiliedig ar ystod o ffactorau yn hytrach na dim ond un), mesurau wedi’u dadgyfuno (sy’n golygu eu bod wedi’u rhannu yn ôl gwahanol grwpiau o bobl) a mesurau unigol (sy’n golygu eu bod yn ystyried profiad personol) oherwydd ei fod yn mesur incwm ar lefel aelwyd yn hytrach nag ar lefel unigol.

Mae dangosyddion amddifadedd (fel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a ddefnyddir i bennu cymhwyster ar gyfer rhaglenni fel Dechrau’n Deg) yn aml-ddimensiwn, ond ni ellir eu cymharu rhwng gwledydd. Felly, nid yw ffactorau a gysylltir yn agos â thlodi, fel iechyd meddwl gwael, risg o droseddu, problemau ynghylch tai ac iechyd corfforol gwael, yn amlwg yn y darlun safonol o dlodi.

Mae tlodi cymharol hefyd yn eithrio unigolion sy’n byw mewn aelwydydd sy’n byw ychydig uwchben y trothwy tlodi. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol mewn perthynas â’r cynnydd o ran tlodi mewn gwaith ledled y DU. Mae gwaith ymchwil a ariennir gan Sefydliad Joseph Rowntree yn amcangyfrif y byddai’r gyfran o bobl mewn ‘tlodi absoliwt’ (sy’n golygu na allant fforddio anghenion sylfaenol bywyd, fel bwyd, dillad, lloches, cynhesrwydd ac ati) wedi bod 0.5 pwynt canran yn uwch yn 2013-14 pe byddai’r trothwy’n seiliedig ar gyfraddau chwyddiant sy’n amrywio gydag incwm aelwydydd.

Mae ystadegau tlodi swyddogol hefyd yn eithrio ystod o bobl sy’n byw mewn sefydliadau fel cartrefi nyrsio, neuaddau preswyl, barics neu garchardai, a phobl ddigartref sy’n cysgu ar y strydoedd neu sy’n byw mewn llety gwely a brecwast.

Mae natur aml-ddimensiwn y broses o fesur amddifadedd yn golygu bod llai o bobl yn cael eu heithrio o’r mesurau. Fodd bynnag, mae amrywiaeth rhanbarthol yn datgelu helaethder gwaith cyflog isel mewn ardaloedd gwledig, ac mewn rhai ardaloedd diwydiannol yng Nghymoedd De Cymru. Mewn pum awdurdod lleol yng Nghymru – Blaenau Gwent, Sir Benfro, Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy – mae dros 30 y cant o weithwyr yn cael eu talu llai na’r Cyflog Byw gwirfoddol. Ar ben arall y sbectrwm, mae tua 20 y cant o weithwyr yng Nghaerffili, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu talu llai na’r Cyflog Byw gwirfoddol. Yn wir, mae gwaith ymchwil wedi canfod bod ardaloedd gwledig mewn perygl uwch o amddifadedd os yw mynediad at wasanaethau yn cael ei gynnwys fel ffordd o fesur tlodi.

Yn olaf, er gwaethaf ychwanegu elfen aml-ddimensiwn, mae data ynghylch amddifadedd fel arfer yn eithrio unigolion difreintiedig sy’n byw mewn ardaloedd cyfoethog.

Profiad unigolion

Mae ymchwil ansoddol wedi dwyn sylw at rai o’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â thlodi ac at y rhwystrau rhag symud allan o dlodi yn barhaus. Mae astudiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru o brofiad plant o dlodi, er enghraifft, yn dangos bod cefndir a lleoliad daearyddol yn llywio profiadau yn yr ysgol. Mae plant o gefndiroedd tlotach yn dangos eu bod yn derbyn eu sefyllfa gymdeithasol yn ifanc, gan gynnwys lefel isel o ddisgwyliad o ran y cymwysterau addysgol y byddant yn eu hennill o’i gymharu â phlant o gefndiroedd cyfoethocach.

Mae astudiaethau eraill o ganfyddiadau o dlodi yn tanlinellu cymhlethdod profiad o dlodi y tu hwnt i incwm, gan gynnwys stigmateiddio, normaleiddio ac arwyddion o ‘dlodi’ a ganfyddir gan y rhai sydd wedi’u labelu’n ‘dlawd’ yn ôl dynodiadau cenedlaethol, sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n faterol.

Ffordd well o ddeall tlodi?

Mae gwaith ymchwil diweddar yn dangos y gall mesuriadau aml-ddimensiwn o amddifadedd materol ac anfaterol ychwanegu gwerth at fesurau presennol o dlodi sy’n seiliedig ar incwm. Mae dulliau cymysg o gwmpasu cymhlethdod a natur amlochrog profiadau o dlodi hefyd yn werthfawr, oherwydd gallant amlygu rhwystrau dyfnach rhag symud allan o ‘dlodi’ sy’n seiliedig ar ddiwylliant, normau a hunan-ganfyddiad.

Mae polisïau fel gwasanaethau gofal plant cofleidiol wedi’u dylunio i oresgyn y rhwystrau hyn, ond mae budd-daliadau a chymorth cysylltiedig fel Prydau Ysgol Am Ddim yn parhau i gael eu dyrannu’n bennaf yn seiliedig ar incwm (yn ogystal â chynilion a chostau tai).

Nododd ein blog blaenorol ar ffyrdd newydd o feddwl am dlodi ffyrdd eraill o dargedu rhaglenni gwrth-dlodi, gan ddefnyddio dulliau daearyddol, demograffig neu gyffredinol.

Nododd ymatebion i’r ymchwiliad diweddar gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i dlodi yng Nghymru bryderon ynghylch y gwahanol ddimensiynau o dlodi a ategir yma. Argymhellodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol blaenorol yn 2015 fod Llywodraeth Cymru “yn mabwysiadu diffiniad clir o dlodi”, sy’n “seiliedig ar fesur a yw adnoddau person yn ddigonol i ddiwallu ei anghenion dynol sylfaenol, ac i gael safon byw derbyniol sy’n ei alluogi i gymryd rhan mewn cymdeithas”.


Erthygl gan Dr Sioned Pearce, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), Hannah Johnson a Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffigur 1 Ffynhonnell: Adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Ariannol ar safonau byw, tlodi ac anghydraddoldeb yn y DU: 2017-18 i 2021-22

Ffigur 2: Ffynhonnell: Adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Ariannol ar safonau byw, tlodi ac anghydraddoldeb yn y DU: 2017-18 i 2021-22