A fydd cyfyngiadau ar neonicotinoidau yn parhau ar ôl Brexit?

Cyhoeddwyd 20/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r erthygl wadd hon yn gyfraniad gan Dr Robert Black o Athrofa Adnoddau Naturiol, Prifysgol Greenwich.

Beth yw neonicotinoidau a pham mae nhw mor ddadleuol?

Dosbarth o blaladdwyr yw neonicotinoidau a ddefnyddir wrth dyfu cnydau, i reoli plâu pryfed (fe’u gelwir yn ‘gynhyrchion diogelu planhigion’ yn neddfwriaeth y DU a’r UE). A hwythau ar gael i’w defnyddio gyntaf yn y 1990au, neonicotinoidau bellach yw’r plaladdwyr a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yn fyd-eang. Mae hyn oherwydd eu bod yn gymharol llai gwenwynig i famaliaid ac adar na phlaladdwyr hŷn. Fodd bynnag, bu llawer o adroddiadau am farwolaethau gwenyn melyn a gwenyn gwyllt a briodolir i neonicotinoidau, ac ers 2008 mae nifer o wledydd Ewropeaidd wedi’u gwahardd neu wedi cyfyngu ar y defnydd ohonynt.

Un o nodweddion amaethyddiaeth yn y Deyrnas Unedig yw mai pryfed gwyllt a heidiau gwenyn melyn sy’n peillio. Maent yn darparu gwasanaeth ecosystem ‘naturiol’ yn hytrach na gwasanaeth peillio masnachol a all reoli pa mor agored yw gwenyn i gnydau wedi’u chwistrellu.

Yn y DU gyfan, mae 20 y cant o’r ardal gnydau yn dibynnu ar bryfed peillio. Y ffigur cyfatebol ar gyfer Cymru yw 12 y cant, ond mae ardal fawr o laswelltir a llystyfiant arall, fel blodau gwyllt, hefyd yn dibynnu ar bryfed sy’n agored i neonicotinoidau i beillio. Felly, mae rhanddeiliaid amgylcheddol yn pryderu y gallai dirywiad o ran poblogaethau gwenyn o ganlyniad i amlygiad i neonicotinoidau effeithio ar beillio ar draws y wlad.

Roedd yr arolygon cyntaf o afonydd Lloegr, a gynhaliwyd yn 2016 o dan reoliadau dŵr yr UE, yn dangos arwyddion o’r perygl posibl yn sgîl neonicotinoidau. Datgelodd y rhain halogiad dŵr ar lefelau a allai niweidio adar a physgod. chwistrellu plaleiddiaid mewn cae o rêp had olew

Pa gamau rheoleiddiol y mae’r UE wedi’u cymryd?

O dan Reoliadau yr UE (Rhif 1107/2009) mae system dwy haen ar gyfer cofrestru plaladdwyr ar hyn o bryd.

Yn gyntaf, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn gyfrifol am gymeradwyo ‘sylweddau gweithredol’, sef gwir gynhwysion cemegol plaladdwyr. Yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) sy’n darparu gwybodaeth i’r Comisiwn am dystiolaeth wyddonol a gafwyd ac asesiadau risg a wnaed.

Yn ail, mae Aelod-wladwriaethau yn gyfrifol am awdurdodi cynhyrchion diogelu planhigion a gynhyrchir gyda sylweddau gweithredol cymeradwy sydd ar gael ar y farchnad i ffermwyr. Mae’r trefniant hwn yn caniatáu i fwyd a gynhyrchir gan ddefnyddio cynhyrchion diogelu planhigion awdurdodedig gael ei werthu ledled Marchnad Sengl yr UE, cyhyd ag y cydymffurfir â rheoliadau ar derfynau gweddillion y plaladdwyr mewn bwyd.

Yn 2012, gofynnodd y Comisiwn Ewropeaidd i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ymchwilio i ddiogelwch tri o neonicotinoidau, mewn ymateb i bryderon cynyddol ynghylch eu heffaith ar wenyn melyn. Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2013, yn nodi bod neonicotinoidau yn peri risg annerbyniol o uchel i wenyn. Roedd yr astudiaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod gwenyn yn dod i gysylltiad posibl â neonicotinoidau drwy baill a neithdar, a thrwy lwch pan ddefnyddir hwy ar ffurf gronynnog.

Ym mis Rhagfyr 2013 cyfyngodd y Comisiwn ar y defnydd o’r tri neonicotinoid hyn ar gnydau blodeuo, am ddwy flynedd i ddechrau. Mae’r gwaharddiad yn dal ar waith, gan fod gwerthusiad arall o’r neonicotinoidau wedi’i wneud, gydag Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop yn cyhoeddi galwad agored am ddata ynglŷn â risg neonicotinoidau i wenyn. Mae’r UE, fodd bynnag, yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau roi Awdurdodiadau Brys ar gyfer defnydd sy’n gyfyngedig ac yn cael ei reoli.

Roedd y Comisiwn i fod i bleidleisio o ran parhad y gwaharddiad ym mis Mawrth 2017, ond gohiriwyd y bleidlais oherwydd diffyg cytundeb ymysg yr Aelod-wladwriaethau. Bellach disgwylir y caiff y bleidlais ei chynnal ddechrau 2018.

Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop asesiad risg wedi’i ddiweddaru, yn cadarnhau bod y rhan fwyaf o ddefnydd o blaladdwyr neonicotinoid yn peryglu gwenyn gwyllt a gwenyn melyn. Bydd y Comisiwn a’r Aelod-wladwriaethau nawr yn edrych yn fanwl ar y casgliadau ac, yn dibynnu ar beth yw canlyniad y dadansoddiad hwn, efallai y bydd y Comisiwn yn cynnig addasu ymhellach yr amodau ar gyfer cymeradwyo’r neonicotinoidau hyn.

Sut mae’r DU wedi ymateb?

Roedd y DU yn un o wyth Aelod-wladwriaeth a bleidleisiodd yn erbyn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol yn 2013. Yn 2015 rhoddodd Llywodraeth y DU awdurdodiad dros dro yn Lloegr (PDF 120KB) ar ôl i Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU) ddweud bod y neonicotinoidau yn hanfodol i’w defnyddio ar rêp had olew i ddifa’r chwilen naid coesynnau bresych.

Y diffyg tystiolaeth uniongyrchol a ddaeth yn sgîl astudiaethau maes ar effeithiau hirdymor neonicotinoidau ar boblogaethau gwenyn oedd prif asgwrn y gynnen o ran y gwrthwynebiad gan ffermwyr a’r diwydiant plaladdwyr i wahardd neonicotinoidau yn y DU. Ar yr un pryd, roedd ffermwyr yn honni bod canran uchel o’u cnydau yn methu oherwydd difrod gan blâu.

Fodd bynnag, ar 20 Ebrill 2017, gwrthododd Llywodraeth y DU geisiadau gan yr NFU am gofrestru dau neonicotinoid a ddefnyddiwyd fwyaf yn y DU ar frys, oherwydd na fodlonwyd y meini prawf ar gyfer awdurdodi brys.

Ym mis Tachwedd 2017, dywedodd Michael Gove, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, y byddai’r DU yn cefnogi estyniad i waharddiad yr UE.

Sut y gallai Brexit effeithio ar gyfyngiadau ar neonicotinoidau yn y DU?

Fel y trafodwyd yn flaenorol, mae Rheoliad yr UE (Rhif 1107/2009) yn darparu meini prawf ar gyfer cymeradwyo sylweddau gweithredol, gan gynnwys meini prawf mewn perthynas â gwenyn melyn. Ar adeg ysgrifennu, nid yw’n hysbys pa radd o aliniad neu wahaniaeth rheoleiddiol fydd ar waith ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Fodd bynnag, mae’n rhaid i fwyd sy’n deillio o gnydau a gaiff eu hallforio i’r UE gydymffurfio â chyfundrefn reoleiddio’r UE ym mhob agwedd ar ddiogelwch bwyd, gan gynnwys defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion awdurdodedig yr UE yn unig, a chydymffurfio â therfynau gweddillion yr UE. Os bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl, mae’r cwestiynau a ganlyn i’w hateb o ran rheoleiddio plaladdwyr:

- P’un a fydd / Sut y bydd y Rheoliad hwn (a drosir i ddeddfwriaeth y DU) yn cael ei ddiwygio?

- A fydd trefn y DU ar gyfer cofrestru plaladdwyr ar ôl Brexit yr un fath â’r drefn yn Rheoliad yr UE?

- A fydd y DU yn parhau i gael mynediad at Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) at y diben hwn? (Mater allweddol yw perthynas y DU, yn y dyfodol, â’r Awdurdod fel y corff yn yr UE sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am roi cyngor ar sylweddau gweithredol i’r Comisiwn).

- A fydd corff o’r DU yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gymeradwyo sylweddau gweithredol yn hytrach na’r Comisiwn? (Ar hyn o bryd mae Adran Rheoleiddio Cemegau y DU, o dan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn awdurdodi cynhyrchion diogelu planhigion ar lefel y DU, gyda’r Awdurdod yn gyfrifol am sicrhau y caiff sylweddau gweithredol eu defnyddio’n ddiogel, ac am roi arweiniad ar gofrestru, labelu, ac ati).

Sut y gallai Brexit effeithio ar bwerau datganoledig dros amaethyddiaeth a’r amgylchedd yng Nghymru?

Mae gan Gymru bwerau deddfu datganoledig dros amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Mae ansicrwydd, fodd bynnag, ynghylch sut yr effeithir ar y pwerau datganoledig hyn wrth i’r DU ymadael â’r UE.

Mae’r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i nodi lle y mae’n bosibl y bydd angen sefydlu fframweithiau cyffredin mewn meysydd a lywodraethir ar hyn o bryd gan gyfraith yr UE gyda chroestorfan datganoledig, fel amaethyddiaeth. Mae’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) wedi cytuno y bydd fframweithiau cyffredin yn cael eu sefydlu lle mae eu hangen, er mwyn galluogi marchnad fewnol y DU i weithredu (ymysg pethau eraill), tra’n cydnabod gwahaniaethau polisi ar yr un pryd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dadansoddiad o’r fframweithiau cyffredin yn ddiweddar. Mae rheoleiddio plaladdwyr yn dod o fewn y 24 o feysydd polisi sy’n destun trafodaeth fanylach i edrych yn fanwl a fyddai angen trefniadau fframweithiau cyffredin deddfwriaethol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol ai peidio. Felly, gall y ddeddfwriaeth ar gyfer cofrestru plaladdwyr a gweddillion plaladdwyr sy’n dod i’r amlwg ar ôl Brexit fod yn gymwys ar draws y DU mewn dull fframwaith cyffredin. Mae’r trafodaethau’n parhau. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i’r Rheoliadau Defnydd Cynaliadwy 2012 sy’n trosi Cyfarwyddeb yr UE gyda’r un effaith.


Erthygl gan Dr Robert Black, Prifysgol Greenwich, wedi’i golygu gan Dr Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell gan Chafer Machinery o Flickr. Dan drwydded y Creative Commons