Beth mae datganoli cyflog ac amodau gwaith athrawon yn ei olygu i system addysg Cymru?

Cyhoeddwyd 26/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyn Deddf Cymru 2017, yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Addysg yn Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am bennu cyflog ac amodau gwaith athrawon yng Nghymru a Lloegr. Cafodd Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ei diwygio gan Ddeddf Cymru 2017, a thrwy hynny datganolwyd pwerau i Gymru yn cynnwys rheoli cyflog ac amodau gwaith athrawon yng Nghymru. O fis Medi 2018, o dan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am bennu cyflog ac amodau gwaith athrawon yng Nghymru. Bwriedir defnyddio'r pwerau hyn o fis Medi 2019 ymlaen.

Cyflwynodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ddatganiad ysgrifenedig ar 14 Rhagfyr 2017 ynghylch Dyfodol Cyflog ac Amodau Athrawon.

Yn ei datganiad, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn y bydd Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdano unwaith y bydd y swyddogaeth o bennu cyflog ac amodau gwaith athrawon wedi'i datganoli i Gymru, gan greu system sydd wedi'i theilwro i Gymru. Dywedodd Kirsty Williams hefyd y byddai ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â chyflog ac amodau gwaith athrawon. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen annibynnol i weithio ochr yn ochr â'r ymgynghoriad, gyda'r prif ffocws ar sut y gall strwythur cyflogau ac amodau gwaith esgor ar gymhelliant uwch yn y proffesiwn addysgu, gan wella safon system addysg Cymru.

Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Ar 19 Ionawr 2018, gofynnodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen am sylwadau'r cyhoedd ynghylch cyflog ac amodau gwaith athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd, gan ofyn barn pobl o'r tu mewn a'r tu allan i'r system addysg. Mae'r adolygiad annibynnol hwn o gyflog ac amodau gwaith athrawon ysgol yng Nghymru wedi'i gadeirio gan yr Athro Mick Waters, ac mae'r Athro Melanie Jones a'r Athro Syr Alasdair Macdonald wrth law i gynorthwyo. Nod yr adolygiad yw gwerthuso strwythurau cyfredol cyflogau ac amodau gwaith athrawon i bennu a ydynt yn effeithiol ac yn addas ar gyfer y proffesiwn addysgu yng Nghymru. Bydd y Grŵp hwn yn ystyried sut y gellid addasu telerau ac amodau athrawon i fod yn fwy addas i Gymru, gan wneud y proffesiwn addysgu 'yn fwy deniadol, a rhoi mwy o foddhad' yn ôl y ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Grŵp yn cyflwyno adroddiad ar ei argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet erbyn hydref 2018 er mwyn llywio'r cylch gwaith ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol ynghylch cyflog ac amodau gwaith athrawon.

Daeth galwad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ben ar 1 Mawrth 2018. Bydd y Grŵp yn parhau i gael ei gynnal ochr yn ochr â'r ymgynghoriad ar ddatganoli cyflog ac amodau gwaith athrawon, a lansiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar 9 Mawrth 2018.

Ymgynghoriad

Yn anochel, bydd dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, sef Model arfaethedig i bennu cyflog ac amodau athrawon – Ymgynghoriad ar y model newydd i bennu cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon yng Nghymru, yn arwain at drafodaeth ynghylch y model newydd arfaethedig. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwrnod lansio'r ymgynghoriad:

“Gadewch inni gydweithio â manteisio ar y cyfle a ddaw yn sgil datganoli cyflog ac amodau gwaith athrawon.”

Mae'r ymgynghoriad yn amcanu i gasglu sylwadau am y model newydd arfaethedig, sef “Model Ymgysylltu ag Athrawon” ar gyfer pennu cyflog ac amodau gwaith athrawon yng Nghymru.

Model Ymgysylltu ag Athrawon

Mae'r ymgynghoriad yn cynnig 'model ymgysylltu ag athrawon' sy'n cyfuno elfennau o fodelau addysg eraill. Dywed Llywodraeth Cymru fod y model hefyd yn seiliedig ar amcan ar draws y Llywodraeth i ymrwymo i bartneriaethau, cydweithio, a datblygu polisi yn seiliedig ar dystiolaeth. I grynhoi, byddai'r model afaethedig yn gweithredu ar sail flynyddol, gan gyfuno arbenigwyr a benodir yn annibynnol mewn corff adolygu strwythuredig â phartneriaeth gymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mai'r model hwn yw'r dull gorau i gynnal trafodaeth, i wneud penderfyniadau ar y cyd, ac i gyflawni arloesedd ym mlaenoriaethau addysg y dyfodol.

Mae'r model yn cynnig y dylai undebau llafur a chyflogeion gydweithio â Llywodraeth Cymru i ffurfio Fforwm Partneriaeth, a fydd yn ystyried ac yn gwneud sylwadau ynghylch y cylch gwaith drafft a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer corff Cyflog ac Adolygu yng Nghymru. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried sylwadau'r Fforwm Partneriaeth cyn cyflwyno cylch gwaith terfynol i'r corff Adolygu Cyflogau, a fydd yn cymryd tystiolaeth cyn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru. Wedyn, bydd Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ar eu cynigion yn dilyn argymhellion y corff Cyflog ac Adolygu cyn gwneud penderfyniad blynyddol terfynol drwy Orchymyn (o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002).

Mae'r Atodiad i'r ddogfen ymgynghori yn rhoi canllaw cam wrth gam i'r model arfaethedig.

Cyhoeddodd Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau ddatganiad i'r wasg yn gwneud sylwadau am lansiad yr ymgynghoriad cyhoeddus. Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau ei bod yn hynod siomedig bod proses sydd mor hanfodol bwysig i athrawon ac a ddylai fod yn destun trafodaeth a chytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau ac undeb cydnabyddedig eraill wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

At hynny, dywedodd Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau fod angen i Lywodraeth Cymru gadw at yr ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog na fydd athrawon yng Nghymru ar eu colled o ran eu hamodau gwaith.

Athrawon Cyflenwi

Mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith athrawon cyflenwi (Rhagfyr 2015), sefydlodd Llywodraeth Cymru y Tasglu Modeli Cyflenwi. Roedd y Tasglu hwn yn archwilio'r opsiynau ar gyfer darparu athrawon cyflenwi yng Nghymru yn y dyfodol. Amlinellodd yr adroddiad ddeg argymhelliad ar gyfer gweithlu'r athrawon cyflenwi, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017. Canfuwyd nad oedd un model a fyddai'n addas i bawb wrth ddiwygio amodau gwaith athrawon cyflenwi ar draws Cymru ar unwaith. Roedd y Tasglu hefyd yn awgrymu os oedd cyflog ac amodau gwaith am gael eu datganoli, gallai Llywodraeth Cymru gael ymagwedd fwy rhagweithiol wrth bennu cyflog ac amodau gwaith athrawon cyflenwi. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i hyn yn ei datganiad ysgrifenedig ar 2 Chwefror 2017 gan nodi bod angen gwella’r amodau cyflogi, rheoli a chefnogi a roddir i athrawon cyflenwi ar draws Cymru.

Codwyd mater amodau gwaith athrawon cyflenwi eto fyth mewn cwestiynau ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Aelodau'r Cynulliad yn 2017 a 2018, ac mewn cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn i Ysgrifennydd y Cabinet ar 24 Hydref 2017. Gofynnodd yr Aelodau am y modd yr oedd Llywodraeth Cymru yn gweithredu argymhellion y Tasglu ynghylch athrawon cyflenwi, ac a fyddai cylch gwaith Adolygiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen annibynnol yn cynnwys athrawon cyflenwi. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet drwy amlinellu bod disgwyl i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen edrych ar feysydd o fewn y Ddogfen ar Gyflog ac Amodau Gwaith Athrawon Ysgol, yn ogystal â phynciau y tu allan i'w gylch gwaith gan gynnwys yr effaith ar delerau ac amodau athrawon cyflenwi a chynorthwywyr addysgu a gyflogir yn uniongyrchol gan ysgolion a gynhelir.

Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cyflog ac amodau gwaith athrawon cyflenwi ar ôl nodi'r ohebiaeth rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a'r Grŵp Rhoi Chwarae Teg i Athrawon Cyflenwi yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Chwefror 2018.

Cyhoeddwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet (PDF 263KB) fel papur i'w nodi ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 22 Mawrth 2018.

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Hayley Moulding gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a olygodd y gallai'r blog hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Hayley Moulding, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru