Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Blwyddyn i fynd: Trafodaethau Brexit yn cyrraedd hanner ffordd

Ar 29 Mawrth 2017, anfonodd y Prif Weinidog, Theresa May hysbysiad ffurfiol i'r Undeb Ewropeaidd (UE) o fwriad y DU i adael yr UE. Sbardunodd hyn yr amserlen dwy flynedd y mae'n rhaid i'r trafodaethau Erthygl 50 ar Brexit â'r UE ddod i ben oddi mewn iddi. Heddiw yw'r pwynt hanner ffordd yn y trafodaethau, gyda'r DU wedi trefnu i adael yr UE yn ffurfiol am hanner nos ar 29 Mawrth 2019.

29 Mawrth 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 29 Mawrth 2017, anfonodd y Prif Weinidog, Theresa May hysbysiad ffurfiol i’r Undeb Ewropeaidd (UE) o fwriad y DU i adael yr UE. Sbardunodd hyn yr amserlen dwy flynedd y mae’n rhaid i’r trafodaethau Erthygl 50 ar Brexit â’r UE ddod i ben oddi mewn iddi. Heddiw yw’r pwynt hanner ffordd yn y trafodaethau, gyda’r DU wedi trefnu i adael yr UE yn ffurfiol am hanner nos ar 29 Mawrth 2019.

Mae’r trafodaethau’n digwydd mewn dau gam. Mae cam un wedi cynnwys trafodaethau ar faterion sy’n ymwneud â’r DU yn ymadael â’r UE y maent yn cwmpasu’n fras y setliad ariannol, hawliau dinasyddion, materion gwahanu eraill a ffin Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mae cam dau yn cynnwys cytundeb ar gyfnod pontio a’r fframwaith ar gyfer partneriaeth yn y dyfodol.

Beth sydd wedi’i gytuno hyd yn hyn?

Er na fydd unrhyw beth yn cael ei gytuno’n ffurfiol tan ddiwedd y ddwy flynedd, gwnaed cynnydd tuag at ddod i gytundeb gwleidyddol ar rai agweddau o’r trafodaethau cam un a cham dau.

Ar 19 Mawrth 2018, fe wnaeth Llywodraeth y DU a’r UE gyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru  o’r testun cyfreithiol drafft ar y Cytundeb Ymadael. Mae’r rhannau o’r testun sydd wedi’u lliwio’n wyrdd yn nodi meysydd lle mae cytundeb rhwng y ddwy ochr, mae’r testun mewn melyn yn nodi lle mae cytundeb wedi bod ar amcan polisi ond mae angen mwy o waith ar eiriad y testun, ac mae’r testun mewn gwyn yn nodi lle na chafwyd cytundeb hyd yma.  Fel y mae’r testun lliw yn nodi, mae’r DU a’r UE wedi dod i gytundeb ar fater hawliau dinasyddion, setliad ariannol y DU a’r rhan fwyaf o faterion gwahanu eraill megis yr hyn a fydd yn digwydd i nwyddau a roddir ar farchnad yr UE cyn i’r DU adael y byddant yn parhau i fod mewn cylchrediad wedi hynny. Mae’r meysydd allweddol mewn gwyn sy’n nodi bod cytundeb eto i’w gyrraedd yn cynnwys yr hyn sy’n digwydd ar ffin Gogledd Iwerddon/Iwerddon a sut fydd yr UE yn mynd i’r afael â’r mater hwn, a pha rôl y bydd Llys Cyfiawnder Ewrop yn ei chwarae wrth gyflafareddu unrhyw anghydfodau yn y dyfodol ar weithredu’r Cytundeb Ymadael.

Yn dilyn cyhoeddi’r testun drafft ar 19 Mawrth cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â’r UE, David Davis a Phrif drafodwr yr UE, Michel Barnier fod y DU a’r UE wedi dod i gytundeb gwleidyddol ar y cyfnod pontio. Er y bydd y DU yn gadael yr UE yn ffurfiol ar 29 Mawrth 2019 bydd cyfnod pontio o 21 mis rhwng diwedd aelodaeth y DU a dechrau unrhyw berthynas newydd a gytunir gyda’r UE. Daw’r cyfnod pontio i ben ym mis Rhagfyr 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y DU yn cydymffurfio â holl reolau’r UE. Bydd y DU hefyd yn cymryd rhan yn rhaglenni’r UE fel y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac yn parhau i gael taliadau gan y rhaglenni UE hyn. Yn ogystal, bydd y DU yn gallu trafod a llofnodi ei gytundebau masnach ei hun â gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE yn ystod y cyfnod pontio, ond ni fydd y rhain yn gallu dod i rym tan ar ôl mis Rhagfyr 2020. Croesawyd y cytundeb ar bontio gan bleidiau ar ddwy ochr y trafodaethau am ddarparu mwy o amser i ddinasyddion a busnesau baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau i’r berthynas yn y dyfodol.

Beth sydd i’w gytuno o hyd?

Fel y nodir uchod, mae’r holl faterion mewn gwyn yn y testun cyfreithiol drafft yn ymwneud â chyfnod un o’r trafodaethau eto i’w cytuno, gan gynnwys cytundeb ar ddatrysiad i osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon. Mae’r DU a’r UE wedi cyhoeddi dyddiadau ar gyfer cyfres o gyfarfodydd pellach ar y mater hwn a fydd yn digwydd rhwng nawr a 18 Ebrill 2018 i geisio cynnydd pellach.

Nid yw’r DU a’r UE eto wedi cytuno ar fframwaith ar y bartneriaeth yn y dyfodol ar ôl Brexit. Er ei bod yn annhebygol y bydd manylion cytundeb ar y berthynas yn y dyfodol yn cael eu datrys erbyn 29 Mawrth 2019, bydd datganiad gwleidyddol sy’n nodi’r paramedrau ar gyfer partneriaeth yn y dyfodol yn cael ei fabwysiadu ochr yn ochr â thestun cyfreithiol y Cytundeb Ymadael. Ar 2 Mawrth gwnaeth  Prif Weinidog y DU, Theresa May, araith yn nodi manylion pellach ar yr hyn y byddai Llywodraeth y DU yn hoffi ei weld yn cael ei gynnwys mewn partneriaeth yn y dyfodol. Mae rhagor o fanylion am yr araith i’w gweld yn Adroddiad monitro Brexit  diweddaraf y Gwasanaeth Ymchwil.

Ar 23 Mawrth gwnaeth y Cyngor Ewropeaidd fabwysiadu ei ganllawiau trafod ar bartneriaeth yn y dyfodol. Bydd Prif Drafodwr yr UE, Michel Barnier, yn defnyddio’r canllawiau hyn fel sail ar gyfer trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar gynnwys y datganiad gwleidyddol.

Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn nodi bod rhai meysydd cyffredin rhwng yr hyn y mae Llywodraeth y DU a’r UE yn gobeithio ei gynnwys mewn partneriaeth yn y dyfodol fel masnach tariff sero, partneriaeth diogelwch a chytundebau ar feysydd megis ymchwil ac arloesedd. Mae’r canllawiau hefyd yn nodi meysydd lle mae angen trafodaeth bellach fel pa aelodaeth neu berthynas, os o gwbl, y bydd y DU yn gallu ei chael gydag asiantaethau’r UE fel Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop.

Beth yw’r camau nesaf?

Bydd trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a’r UE yn parhau ar y Cytundeb Ymadael a’r fframwaith ar gyfer partneriaeth yn y dyfodol. Mae’r ddau dîm trafod yn gobeithio cytuno ar y testunau erbyn Hydref 2018 fel bod digon o amser i Gyngor Ewrop, Senedd Ewrop a Senedd y DU gadarnhau’r testunau cyn 29 Mawrth 2019.

Cyhoeddodd Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad, sydd wedi cael y dasg o ystyried goblygiadau Brexit i Gymru, Ran Un o’i adroddiad ar berthynas Cymru yn y dyfodol gydag Ewrop ar 27 Mawrth. Mae’r adroddiad yn nodi barn gwahanol randdeiliaid a sectorau yng Nghymru ar yr hyn y dylid ei gynnwys mewn cytundeb perthynas â’r UE yn y dyfodol. Bydd y Pwyllgor nawr yn dechrau gweithio ar ei adroddiad Rhan Dau a fydd yn myfyrio ymhellach ar farn yr UE ynghylch yr hyn a allai fod yn bosibl mewn perthynas yn y dyfodol ac yn ystyried yn fanylach sut y gall Cymru gynnal perthynas ag Ewrop a’r UE ar ôl Brexit.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru