Model pwerau newydd yn dod i rym

Cyhoeddwyd 29/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad

1 Ebrill 2018 yw'r diwrnod pan fydd y model cadw pwerau o ran ddatganoli, a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cymru 2017 yn dod i rym yng Nghymru. Fe'i gelwir y Prif Ddiwrnod Penodedig.

Cyflwynwyd Bil Cymru ar 7 Mehefin 2016 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Chwefror 2017. Mae Deddf Cymru 2017 ("Y Ddeddf"), sy'n cyflwyno'r model pwerau newydd hwn, yn diwygio Deddfau Seneddol eraill, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae Adran 3 o’r Ddeddf yn ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae Adran 3(1) yn disodli adran bresennol 108 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ag adran newydd 108A. Mae'r adran newydd yn nodi'r cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad drwy gyfeirio at ddwy Atodlen newydd, sef 7A a 7B. Bydd y rhain yn disodli’r Atodlen 7 bresennol i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac yn rhestru'r materion a gedwir yn ôl a’r cyfyngiadau cyffredinol ar gymhwysedd y Cynulliad.

Y model sy'n dod i ben

Mae'r setliad sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 wedi'i seilio ar y model rhoi pwerau. Mae hyn yn golygu, ymysg pethau eraill, bod yn rhaid i ddeddfwriaeth y Cynulliad ymwneud â phwnc a restrir yn Atodlen 7 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Rhestrir pynciau datganoledig o dan 21 o benawdau ac maent yn cynnwys, er enghraifft, y gwasanaethau iechyd, llesiant cymdeithasol a thai.

Mae Deddfau'r Cynulliad fel Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a'r Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i gyd yn ymwneud ag un neu ragor o'r pynciau datganoledig. Mae Atodlen 7 hefyd yn rhestru eithriadau. Ni ddylai Deddf y Cynulliad ymwneud ag eithriad (hyd yn oed os yw hefyd yn ymwneud â phwnc datganoledig).

Y model Cadw Pwerau

Mae Deddf Cymru 2017 yn troi'r setliad blaenorol hwn yn fodel cadw pwerau. Yn syml iawn, mae hwn i’r gwrthwyneb i fodel rhoi pwerau. O dan y model cadw pwerau bydd y Cynulliad dim ond yn gallu pasio deddfwriaeth ar yr amod nad yw'n ymwneud â mater a gadwyd yn ôl (h.y. mater sydd wedi'i gadw’n ôl i Senedd y DU). Felly, mae'r rhestr o faterion a gadwyd yn bwysig; po hiraf yw'r rhestr o faterion a gedwir yn ôl, po fwyaf o bethau na fydd y Cynulliad yn gallu eu gwneud. Mae Datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi'i seilio ar fodel cadw pwerau.

Fel y soniwyd uchod, mae’r rhestr o bwerau a gedwir yn ôl wedi’i chynnwys mewn dwy Atodlen newydd i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sef 7A a 7B.

Mae Deddf Cymru 2017 hefyd wedi gwneud nifer o newidiadau eraill i'r ffordd y penderfynir ynghylch cymhwysedd y Cynulliad. Bydd y Gwasanaeth Ymchwil yn cynhyrchu canllaw llawn ar y fersiwn ddiwygiedig o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ystod hanner cyntaf tymor yr haf.

Beth sy'n digwydd i Filiau sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

Mae Deddf Cymru 2017 yn darparu, os yw'r Cynulliad wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil, ac mae’r Bil wedi pasio Cyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Cynulliad cyn y Prif Ddiwrnod Penodedig, hynny yw 1 Ebrill 2018, bydd y cwestiwn ynghylch a yw ei ddarpariaethau o fewn cymhwysedd yn cael ei ystyried o dan y model rhoi pwerau o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae pob Bil sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd wedi pasio’r cyfnod hwn.

Os cyflwynir Bil ar ôl y Prif Ddiwrnod Penodedig, yna bydd ei ddarpariaethau'n cael eu hystyried o dan y model cadw pwerau newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017.

Mae'r ffeithlun isod yn rhoi manylion y pwerau a gadwyd yn ôl a fydd yn berthnasol ar ôl 1 Ebrill 2018:


Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru