Pa effaith a gaiff Brexit ar economi Cymru?

Cyhoeddwyd 13/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 2 Mawrth, rhoddodd y Prif Weinidog yr amlinelliad mwyaf manwl sydd wedi'i roi hyd yma ar sut berthynas y mae hi am i’r DU ei chael â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl ymadael. Dywedodd y bydd ein mynediad at ein marchnadoedd ein gilydd yn llai nag y mae nawr. Mae hyn yn gyson â’i hawydd i adael Marchnad Sengl yr UE a’r Undeb Tollau, y mae’n barnu sy’n anghydnaws â "llinellau coch" trafodaethau Llywodraeth y DU.

Ar 23 Mawrth cytunodd y Cyngor Ewropeaidd ar ganllawiau ar y fframwaith ar gyfer y berthynas â'r DU yn y dyfodol. Nododd y rhain y byddai bod y tu allan i'r Undeb Tollau a'r Farchnad Sengl yn anochel yn arwain at anawsterau o ran masnach, gan gadarnhau eu bod yn anelu at gytundeb masnach rhydd eang gyda'r nod o gwmpasu pob sector a cheisio cynnal tariffau sero. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn nodi y bydd cytundeb o'r fath ond yn bosibl os yw'n cynnwys gwarantau cadarn sy'n sicrhau y bydd pawb yn cael eu trin yn yr un modd: h.y. nad yw'n rhoi mantais gystadleuol i'r DU drwy danseilio'r UE mewn meysydd penodol, gan gynnwys cystadleuaeth a chymorth gwladwriaethol, treth, a mesurau ac arferion cymdeithasol, amgylcheddol a rheoleiddiol.

Wrth i rywfaint o eglurder ddechrau dod i’r amlwg o ran natur y berthynas rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol, pa effaith y mae hyn yn debygol o’i chael ar economi Cymru?

Yn ddiweddar, mae’r Athro Perdikis o Brifysgol Aberystwyth wedi cwblhau cymrodoriaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd, gyda chyd-awdur, yr Athro Khorana o Brifysgol Bournemouth, yn ystyried effaith economaidd debygol gadael yr UE ar Gymru. Mae hyn yn dilyn cyhoeddi polisi masnach gadael yr UE gan Lywodraeth Cymru, a oedd wedi’i ategu gan waith a gomisiynwyd gan Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd (Cyfnod Pontio’r UE a Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru). Mae’r dogfennau hyn yn rhoi syniad o faint o effaith y gall Brexit ei chael yng Nghymru, ac ar ba sectorau y byddai’r effaith fwyaf.

Mynediad at y farchnad yn erbyn rhwymedigaethau

Mae cytundebau masnachu gwahanol, o aelodaeth o Farchnad Sengl yr UE i Gytundeb Masnach Rydd fel y CETA rhwng yr UE a Chanada, yn cynrychioli graddfa lithro o ran mynediad at y farchnad, a rhwymedigaethau cyfatebol. Er enghraifft, nid yw Norwy yn aelod o’r UE, ond mae ei haelodaeth o’r Farchnad Sengl yn golygu ei bod yn derbyn rhyddid pobl i symud, ac yn gwneud cyfraniadau sylweddol i gyllideb yr UE. Nid oes gan Canada yr un o’r rhwymedigaethau hyn, ond yn unol â hynny nid oes gan y wlad yr un mynediad at y Farchnad Sengl: nid yw’r cytundeb yn cynnwys gwasanaethau, a oedd yn cyfrif am 35 y cant o allforion Cymru i’r UE yn 2016.

Mae ymdrechion gwahanol i fodelu effeithiau economaidd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd felly wedi dewis pwyntiau gwahanol ar y raddfa lithro hon, ac wedi amcangyfrif effaith pob un ar economi’r DU. Dewisodd Perdikis a Khorana dri senario yr oeddent yn eu hystyried yn gydnaws â'r "llinellau coch" a nodwyd gan Lywodraeth y DU (rheoli mewnfudo; gallu’r DU i wneud ei chytundebau masnach rydd ei hun; annibyniaeth o Lys Cyfiawnder Ewrop; a rhoi terfyn ar gyfraniadau sylweddol i gyllideb yr UE) gan edrych ar eu heffaith debygol ar economi Cymru:

  • Dim bargen â’r UE. Heb unrhyw fargen, byddai’r UE a’r DU yn masnachu â’i gilydd ar Delerau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) o fis Mawrth 2019;
  • Sefyllfa o gyfnod pontio "status quo" o wahanol hyd, lle mae’r UE a’r DU yn cytuno i barhau i fasnachu o dan y telerau cyfredol;
  • Cytundeb masnach rydd cynhwysfawr fel yr un rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Chanada (o’r un math â CETA) rhwng yr UE a’r DU.

Er y bydd y berthynas rhwng y DU a’r UE yn debygol o fod yn wahanol i unrhyw berthynas bresennol rhwng gwlad trydydd parti a’r UE, gellir defnyddio’r pwyntiau hyn i nodi effaith debygol y berthynas newydd hon ar economi Cymru, ar sail faint o debygrwydd sydd rhyngddi â’r perthnasoedd presennol neu ddamcaniaethol hyn. Mae eu hadroddiad yn amlinellu’n fanwl amcangyfrifon o ganlyniadau y sefyllfaoedd hyn o ran economi Cymru gan ddefnyddio dangosyddion fel cynnyrch domestig gros (GDP), graddfeydd masnachu, a chyflogaeth.

Mae bargen yn well na dim bargen

Daw Perdikis a Khorana i’r casgliad:

The scenario simulations reveal that Brexit will lead to the imposition of costs, either through the imposition of tariffs or the loss of preferential access to the single market. The impact on the Welsh economy will be felt via reductions in GDP, GDP per capita, trade, investment and employment. The least costly outcome for Wales is if the status quo can be held to for as long as possible. The next best or next least worst is the conclusion of a CETA type agreement by the EU. The most costly is a Brexit based on WTO rules.

Mae’r canlyniadau hyn, mae nhw’n datgan, yn cyd-daro’n dda â theori economaidd a gwaith empirig a wnaed gan y rhan fwyaf o ymchwilwyr eraill. Bydd symud o sefyllfa o fasnach gymharol rydd, fel sydd gan y DU â’r UE ar hyn o bryd, i un sy’n cynnwys mwy o rwystrau yn anochel yn arwain at golledion o ran lles economaidd. Mae’r farn hon yn gyson â phapur briffio Whitehall a oedd yn dadansoddi effaith gadael yr UE, ac yn rhagweld y byddai amrywiaeth o golledion cynnyrch domestig gros (GDP) yn deillio o Brexit y pellaf y mae’r DU yn symud o’r lefel o fynediad sydd ganddi at y Farchnad Sengl ar hyn o bryd. Mae Perdikis a Khorana yn nodi bod trefn maint y colledion cynnyrch domestig gros a ragwelir ganddynt yn sylweddol llai na'r rhai a ragwelir mewn rhagolygon prif ffrwd eraill oherwydd bod eu methodoleg yn canolbwyntio ar set gyfyngedig o effeithiau Brexit. Pe bai ein hastudiaeth yn cynnwys yr agweddau hyn, maent yn datgan, mae'n debygol y byddai'r colledion a nodwyd gennym wedi bod yn debycach o lawer i'w canlyniadau nhw.

Y farn gyffredinol yw bod y ffurfiau uchod o ymadael â’r UE yn gyfystyr â chyfyngu ar y difrod. Mae hyn wedi arwain at alwadau, yn enwedig gan yr 'Economists for Free Trade and Policy Exchange', i’r DU gael gwared â’i thariffau yn unochrog, er mwyn lleihau costau mewnforion ac i hybu cystadleurwydd y DU. Mae Perdikis a Khorana yn awgrymu bod nifer o broblemau yn gysylltiedig â’r cynnig hwn, gan gynnwys camddealltwriaeth o’r berthynas rhwng rheoliadau’r UE a phrisiau. Ar ben hynny, byddai dull gweithredu o’r fath yn debygol o arwain at ddirywiad o ran gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth yn y DU, y mae awduron yr adroddiad yn nodi a fyddai’n cael effaith andwyol ar ddosbarthiad incwm, gydag effeithiau economaidd a chymdeithasol ar Gymru a allai fod yn yn ddifrifol iawn yn y tymor byr i’r tymor canolig.

Polisi masnach Llywodraeth Cymru: mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl

Mae papur Polisi Masnach Llywodraeth Cymru yn ailadrodd ei alwad am fynediad llawn a dirwystr at Farchnad Sengl Ewrop ac am aros yn Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd o leiaf yn y dyfodol agos. Mae Perdikis a Khorana yn nodi bod hyn yn gyson â’u gwaith ymchwil sy’n awgrymu y byddai colledion economaidd yn deillio o golli mynediad at y Farchnad Sengl.

Byddai'r model a ffefrir gan Lywodraeth Cymru yn atal y DU rhag cael polisi masnach annibynnol. Fel aelod o Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd, byddai’n rhaid iddo gael yr un gyfres o dariffau â’r UE, ac ni allai gytuno’n derfynol ar gytundebau masnach yn annibynnol. Yn y modd hwn, mae’n croesi un o linellau coch Llywodraeth y DU, ac felly ni chaiff ei ddadansoddi’n uniongyrchol yn adroddiad Perdikis a Khorana. Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai angen i unrhyw awgrym y gallai masnach rydd â gwledydd trydydd parti wneud yn iawn am golli mynediad at y Farchnad Sengl gael ei gefnogi gan dystiolaeth, a hyd yma nid oes dim tystiolaeth wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r safbwynt hwn.

Sectorau sydd mewn perygl yng Nghymru

Mae adroddiad gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd sy’n canolbwyntio ar y Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru yn sgîl Brexit yn cefnogi papur polisi Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd yr ymchwil i raddau helaeth trwy lens Cwmnïau Angori a Chwmnïau Pwysig Rhanbarthol (mae "Cwmnïau Angori" yn gwmnïau rhyngwladol sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru), ac yn mynd i'r afael â chwestiynau gan gynnwys:

  • Sut y byddai opsiynau ôl-Brexit yn effeithio ar gwmnïau mawr a chanolig yng Nghymru, a pha sectorau allai fod fwyaf agored i niwed o ganlyniad i broses bontio’r UE?
  • Beth allai goblygiadau prosesau pontio o’r UE fod i fewnfuddsoddi a masnachu i sectorau?
  • Beth allai goblygiadau newid o ran lefelau buddsoddi neu allbwn fod i rannau eraill o’r economi ranbarthol (h.y. y gadwyn gyflenwi a’r effeithiau ar aelwydydd)?

Roedd adroddiad Prifysgol Caerdydd yn cynnwys y tabl canlynol, sy’n crynhoi’r risgiau sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y gwahanol sectorau yn economi Cymru: Crynodeb o sut y cafodd gwahanol sectorau eu graddio o ran gwahanol agweddau ar risg Dywed yr adroddiad mai ychydig o ymatebwyr a oedd yn gallu rhoi sylwadau ar unrhyw gyfleoedd newydd sy’n dod i’r amlwg o ganlyniad i Brexit caled a masnachu yn ôl rheolau Sefydliad Masnach y Byd.

Ar 27 Mawrth cyhoeddodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y pwyllgor sy’n monitro’r broses Brexit) yn cyhoeddi ei adroddiad ar berthynas Cymru â’r UE yn y dyfodol. Nododd hyn fod "Mae’n rhaid i’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol flaenoriaethu masnach ddirwystr, yn rhydd o rwystrau tariff a rhwystrau nad ydynt yn ymwneud â thariffau ar ôl Brexit". Mae'r DU yn bwriadu gadael yr UE mewn llai na blwyddyn. Wrth i ni gael mwy o eglurder ar yr hyn y gall Brexit ei olygu a pha effaith y gallai gael, bydd gwleidyddion yn y Cynulliad yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a all i sicrhau Brexit sy'n gweithio i Gymru.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru.