Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?

Cyhoeddwyd 16/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Y cefndir

Dechreuodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ymchwiliad i ymateb gweinyddol ac ariannol Llywodraeth Cymru i Brexit ym mis Hydref 2017. Roedd cwestiynau wedi'u codi mewn nifer o ymholiadau blaenorol y Pwyllgor am wydnwch a pharodrwydd y sector cyhoeddus a'r sector preifat yng Nghymru a pha mor bwysig yw paratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd yn sgil Brexit. O ganlyniad, penderfynodd y Pwyllgor edrych ar sut y dylai'r sector cyhoeddus a busnesau yng Nghymru fod yn paratoi ar gyfer Brexit.

Diben yr ymchwiliad oedd ystyried:

  • ymateb gweinyddol ac ariannol mewnol Llywodraeth Cymru i Brexit; a
  • sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, addysg uwch, y trydydd sector a'r sectorau economaidd i baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.Gwnaeth y Pwyllgor saith argymhelliad yn ei adroddiad terfynol. Canfu'r Pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o gynllunio ar gyfer sefyllfaoedd posibl, gan gynnwys y posibilrwydd o 'ddim cytundeb', er mwyn paratoi Cymru ar gyfer Brexit. At hynny, canfu'r Pwyllgor fod angen i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru gael arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru o ran sut y dylent fod yn paratoi ar gyfer Brexit a bod angen gwneud mwy i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo o gyrff cynrychioliadol i sefydliadau unigol.
  • Fel rhan o'r ymchwiliad, lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad a chynhaliodd nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio ei waith. Ymwelodd y Pwyllgor â rhanddeiliaid yn Abertawe, Llanelli a Chaerllion hefyd i drafod sut y mae'r sector cyhoeddus a busnesau yng Nghymru yn paratoi ar gyfer Brexit.

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit? (PDF, 744KB) ar 5 Chwefror.

Mae rhan gyntaf yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynllunio sefyllfaoedd ac ymgysylltu, tra bod ail ran yr adroddiad yn ystyried pa mor barod yw gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.

O ran cynllunio sefyllfaoedd ac ymgysylltu, gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion sydd wedi'u hanelu at Lywodraeth Cymru, gan gynnwys argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • archwilio ar frys paramedrau tebygol gwahanol sefyllfaoedd Brexit, gan gynnwys “sefyllfa dim cytundeb”;
  • cyhoeddi’r dadansoddiadau sectoraidd o effaith Brexit ar naw sector blaenoriaeth Llywodraeth Cymru;
  • gwella cyfathrebu â sefydliadau unigol drwy annog mwy o gyrff cynrychioliadol i raeadru gwybodaeth i’r sefydliadau hynny; a
  • mynd ati cyn gynted â phosibl i gyhoeddi arweiniad clir a hygyrch i fusnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar yr hyn y gallai goblygiadau gwahanol sefyllfaoedd Brexit, gan gynnwys sefyllfa “dim cytundeb”, ei olygu i’r sefydliadau hynny.

O ran pa mor barod yw gwasanaethau cyhoeddus a'r economi ar gyfer Brexit, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru:

  • geisio eglurder gan Lywodraeth y DU ar sut y byddai’r Gronfa Rhannu Ffyniant arfaethedig yn cael ei dyrannu a’i gweinyddu;
  • mynd ati, ar y cyd â’r Gweithgor Addysg Uwch, i gyhoeddi unrhyw waith a gynhaliwyd hyd yn hyn wrth adolygu ei strategaeth mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi yn y sector addysg uwch i ystyried goblygiadau Brexit yn y maes hwn; a
  • nodi sut mae’n bwriadu gwario’r dyraniadau canlyniadol y rhagwelir y byddant yn codi o wario arian ar lefel y DU i baratoi ar gyfer Brexit ac egluro a fydd y rhain yn cael eu neilltuo ar gyfer cefnogi gweithgareddau mewn perthynas â Brexit yng Nghymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Croesawyd adroddiad y Pwyllgor gan Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd ymateb ffurfiol y Prif Weinidog i'r adroddiad (PDF 141KB) ar 12 Ebrill. Derbyniwyd tri o'r argymhellion a derbyniwyd pedwar arall o ran egwyddor.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yn ymwneud ag ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymrwymodd i gynyddu'r ymgysylltiad hwn, gan gynnwys drwy ddefnyddio sefydliadau cynrychioliadol yn fwy effeithiol er mwyn rhaeadru gwybodaeth i sefydliadau unigol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru fod angen ceisio eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Rhannu Ffyniant hefyd. Mae'r Prif Weinidog yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod y syniad o gael cronfa datblygu economaidd a weinyddir yn ganolog a'u bod yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol yn parhau i gael eu gwneud yng Nghymru.

Yn olaf, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad ynglŷn â'i strategaeth addysg uwch.

Argymhellion a dderbyniwyd o ran egwyddor

Roedd un o'r argymhellion a dderbyniwyd o ran egwyddor yn ymwneud â pharatoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd Brexit, gan gynnwys "dim cytundeb". O ran sefyllfa “dim cytundeb”, dywed y Prif Weinidog:

[…]rydym wedi pwysleisio’n barhaus y byddai hynny’n drychinebus i Gymru. Felly, nid ydym yn awyddus i normaleiddio canlyniad trychinebus o’r fath, ond rydym yn cydnabod, pe na bai Llywodraeth y DU yn llwyddo i daro bargen â’r UE27, fod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod y trefniadau angenrheidiol ar waith mewn meysydd sydd wedi’u datganoli. Mae holl adrannau Llywodraeth Cymru yn dwysáu eu gwaith o ran y trefniadau gweithredol posibl y gallai fod eu hangen i wneud yn siŵr ein bod yn barod ar gyfer ein hymadawiad â’r UE, yn seiliedig ar wahanol senarios.

Fodd bynnag, pwysleisir yn yr ymateb nad yw Llywodraeth Cymru yn credu y gellir lleddfu’n llwyr yr effaith y byddai “dim cytundeb’” yn ei chael ar Gymru, ac mewn sefyllfa o'r fath, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU fyddai gwneud y trefniadau angenrheidiol a sicrhau adnoddau.

Wrth ymateb i'r argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r naw dadansoddiad sector, dywed y Prif Weinidog:

Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â’n holl dimau sy’n ymwneud â’r sectorau, er mwyn nodi’r bylchau yn ein data a chael gwell dealltwriaeth o’r darlun ar draws pob un o’r sectorau y bydd ymadawiad y DU â’r UE yn effeithio arnynt.

Mae'r ymateb hefyd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i effaith Brexit ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, gan gynnwys effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol drwy'r gadwyn gyflenwi.

O ran yr argymhelliad ynghylch rhoi arweiniad i'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ar oblygiadau posibl Brexit, dywed y Prif Weinidog y gallai hynny fod yn 'broses hirfaith a dryslyd' ac y 'byddai’n debygol o arwain at ansicrwydd pellach' ar y cam hwn o'r trafodaethau. Fodd bynnag, mae'n dweud unwaith y bydd dilysrwydd a thebygolrwydd gwahanol sefyllfaoedd yn gliriach, fe roddir arweiniad i randdeiliaid ar y goblygiadau cyn gynted ag y bo modd.

Yn olaf, o ran nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario’r dyraniadau canlyniadol a ragwelir yn sgil gwario arian ychwanegol ar lefel y DU i baratoi ar gyfer Brexit, mae'r Prif Weinidog yn dweud:

Nid yw Llywodraeth Cymru, fel mater o drefn, yn pasbortio’r cyllid canlyniadol sy’n codi o benderfyniadau gwariant a wneir gan Lywodraeth y DU. Mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu sut, law yn llaw â’r grant bloc presennol, y mae unrhyw ddyraniadau ychwanegol a dderbyniwn o ganlyniad i benderfyniadau gwariant a wneir yn Lloegr mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig, yn cael eu dyrannu i adlewyrchu ein blaenoriaethau. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yna’n pleidleisio ar ein Cyllideb derfynol yn dilyn proses graffu gan y Pwyllgor Cyllid.

Mae'r ymateb yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cronfa Bontio'r UE, sy'n werth £50 miliwn, i roi cymorth i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus. Yn ôl y Prif Weinidog, bydd y gronfa hon yn defnyddio'r arian canlyniadol a ddyrennir i Gymru drwy fformiwla Barnett o ganlyniad i'r £3 biliwn a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU yn yr hydref i baratoi ar gyfer Brexit, a bydd hefyd yn manteisio ar yr hyblygrwydd sydd ar gael drwy gronfa wrth gefn Cymru.

Y camau nesaf

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Ebrill. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar www.senedd.tv.

Mae'r Pwyllgor yn parhau i edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cynllunio ar gyfer Brexit. At hynny, archwiliwyd rhai o'r pryderon sectorol a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr ymchwiliad, yn enwedig ym maes iechyd, addysg uwch a chydraddoldeb, yn ystod gwaith diweddaraf y Pwyllgor ar Berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol (PDF, 9MB).


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru