Byw ar y Stryd: Atal a Mynd i’r Afael â Chysgu ar y Stryd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 20/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi ei adroddiad – Byw ar y Stryd: Atal a Mynd i’r Afael â Chysgu ar y Stryd yng Nghymru.

Fel rhan o’r Ymchwiliad, fe wnaeth y Pwyllgor ymweld â phrosiectau sy’n cefnogi pobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ynghyd â derbyn tystiolaeth gan awdurdodau lleol, academyddion, yr heddlu a mudiadau sy’n darparu gwasanaethau i’r rheiny sy’n byw ar y stryd.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 29 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Byw ar y Stryd: Atal a Mynd i’r Afael â Chysgu ar y Stryd yng Nghymru

Mae adroddiad y Pwyllgor yn mynd i’r afael â sawl mater, gan gynnwys:

Effeithiolrwydd Deddf Tai (Cymru) 2014 – fe ddaeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y Ddeddf wedi cael effaith bositif ar atal digartrefedd, ond wedi methu â chael yr un effaith ar atal pobl rhag cysgu ar y stryd. O’r herwydd, mae’r Pwyllgor wedi gwneud sawl argymhelliad i ddiwygio deddfwriaeth a chanllawiau, gan gynnwys:

  • Creu categori newydd o angen blaenoriaethol ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd, gyda’r nod hir dymor o ddiddymu angen blaenoriaethol yn llwyr;
  • Os nad yw Llywodraeth Cymru yn ffafrio diddymu angen blaenoriaethol, dylai’r Llywodraeth:
    • ailsefydlu angen blaenoriaethol awtomatig am lety i’r rhai sy’n gadael y carchar; a
    • diwygio’r diffiniad o ‘agored i niwed’.

Graddfa cysgu ar y stryd yng Nghymru

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos cynnydd o 10-33% rhwng 2016 a 2017, yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod cyfyngiadau’r dulliau cyfredol o gasglu data, ac yn croesawu datblygiad Prosiect y Rhwydwaith Gwybodaeth Digartrefedd ar y Stryd (SHIN) fel dull o wella safon y data sydd ar gael.

Achosion cysgu ar y stryd

Mae achosion cysgu ar y stryd yn gallu cael eu rhannu i ddau gategori:

  • Achosion strwythurol, megis diwygio’r system lles gwladol, a phrinder tai fforddiadwy; a
  • Materion a phrofiadau personol, megis problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, a phrofiadau andwyol mewn plentyndod (ACEs).

Mi wnaeth y Pwyllgor benderfynu canolbwyntio ei argymhellion ar ddau o achosion strwythurol cysgu ar y stryd – diwygio’r system lles gwladol a phrinder tai fforddiadwy – gan argymell bod:

  • Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisio pwerau dros weinyddu’r Credyd Cynhwysol, yn debyg i’r rhai sydd ar gael i Lywodraeth yr Alban;
  • Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarganfod beth yw’r rhesymau dros y lefel gymharol isel o dai cymdeithasol sy’n cael eu dyrannu i deuluoedd digartref, a chymryd camau i sicrhau bod tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu i gynifer â phosibl o deuluoedd digartref; a
  • Llywodraeth Cymru yn amlinellu’n fwy eglur y camau mae’n bwriadu eu cymryd i wella mynediad at y sector rhentu preifat ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd, yn ei Chynllun Gweithredu Cysgu Allan.

Effeithiolrwydd ac argaeledd gwasanaethau, gan gynnwys llety brys

Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i bobl sy’n cysgu ar y stryd yn amrywio o ardal i ardal, ond gall gynnwys:

Llety brys – roedd y Pwyllgor yn pryderu bod llety brys yn cael ei ddefnyddio i gartrefu unigolion yn y tymor hir, a hynny oherwydd yr anawsterau mewn cael mynediad i lety symud ymlaen, prinder tai cymdeithasol fforddiadwy, a rhwystrau i gael mynediad i lety rhent preifat.

Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau – roedd y Pwyllgor yn pryderu ynglyn â’r rhwystrau a brofir wrth geisio derbyn gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Gall unrhyw oedi mewn derbyn triniaeth o’r fath fod yn rwystr i fynd i’r afael â chysgu ar y stryd.

Camau i atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd

Mi wnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion ynglyn â’r Cynllun Gweithredu Cysgu Allan sydd wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ei fod yn:

  • Nodi’n gliriach pwy fydd yn gyfrifol am weithredu pob cam, a’r canlyniadau a ddisgwylir yn erbyn y camau gweithredu, a sut y caiff y rhain eu mesur a’u monitro; ac
  • Y dylai’r cyfrifoldeb dros weithredu’r Cynllun Gweithredu Cysgu Allan gael ei rannu ar y cyd rhwng y Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r adroddiad hefyd yn trafod, ac yn gwneud argymhellion ynglyn â nifer o faterion eraill, gan gynnwys:

  • Tai yn Gyntaf – mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cryfhau Tai yn Gyntaf – Egwyddorion a Chanllawiau Cenedlaethol i Gymru i nodi disgwyliad y dylai awdurdodau lleol gynnig Tai yn Gyntaf fel dull diofyn i bobl sy’n cysgu ar y stryd;
  • Allgymorth pendant – mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i phartneriaid i ganfod modelau arfer gorau i ddarparu cefnogaeth allgymorth pendant;
  • Gorfodaeth – mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yng Nghymru, gyda’r bwriad o annog pob heddlu yng Nghymru i sicrhau bod swyddogion yn defnyddio camerâu a gaiff eu gwisgo ar y corff wrth ryngweithio â phobl sy’n cysgu ar y stryd; a
  • Cynlluniau ‘rhoi ailgyfeiriedig’ – mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud gwaith i asesu rhinweddau cynlluniau rhoi ailgyfeiriedig a nodi’r arfer gorau yn y maes hwn.

Cyllid

Mae’r adroddiad yn egluro pryderon y Pwyllgor ynglyn â chyllido gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau peth sicrwydd i’r gyllideb Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl (SPPG) hyd yn hyn, ond efallai y bydd hyn yn newid yn dilyn y cynnig i uno’r SPPG gyda grantiau eraill. O 2018-19, bydd saith o awdurdodau lleol braenaru yn cael hyblygrwydd llwyr ynglyn a’r dull a ddefnyddir i ddyrannu nifer o grantiau, a hynny fel prosiect peilot, cyn unrhyw uno posibl o rai o grantiau Llywodraeth Cymru. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod:

  • Llywodraeth Cymru yn pennu llinell amser ar gyfer cyhoeddi canfyddiadau ei Chynlluniau Braenaru Cyllid Hyblyg, a’i phenderfyniad ar y cynnig i uno Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl gyda grantiau eraill; ac
  • Os yw canfyddiadau’r Cynlluniau Braenaru Cyllid hyblyg yn dangos gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl, neu’n amlygu amheuon ynglyn â gallu’r sector i gynnal gwasanaethau ar y lefelau presennol, dylai Grant y rhaglen Cefnogi Pobl barhau i fod yn grant ar wahân sydd wedi’i neilltuo.

Bydd adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor yn cael eu cyflwyno i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru. Mae disgwyl i’r Llywodraeth ymateb yn y misoedd nesaf.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru