Radio yng Nghymru: ai radio cymunedol yw'r ateb?

Cyhoeddwyd 25/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu dadreoleiddio rhai agweddau ar radio masnachol fel y gall gystadlu'n well yn erbyn gwasanaethau digidol a gwasanaethau sydd ar gael ar-lein yn unig. Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y cynigion hyn, a'r effeithiau canlyniadol y gallent eu cael ar weddill y diwydiant radio yng Nghymru, yn ystod ei ymchwiliad i radio.

Beth mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig?

Ym mis Rhagfyr 2017 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynigion ar gyfer dadreoleiddio radio masnachol. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Newidiadau i strwythur trwyddedu er mwyn rhoi mwy o ryddid i radio masnachol,
  • Dileu gofynion i Ofcom reoleiddio fformatau cerddoriaeth ar radio masnachol,
  • Llacio'r rheolau presennol sy'n nodi bod yn rhaid i orsafoedd radio masnachol analog lleol gynhyrchu cyfran sylweddol o'u cynnwys yn lleol.
  • Dylid cadw'r gofynion i gynnwys newyddion a gwybodaeth leol arall a geir yn lleol.
  • Ni ddylai fod gofynion uwch yn y cenhedloedd. Mae'r Llywodraeth wedi datgan ”having such a power may disadvantage local stations in the nations and that a better approach is for Ofcom to have regard to the needs of all UK audiences in setting the requirements on a UK basis.”

Y cam nesaf yw i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth cyn y dyddiadau adnewyddu trwyddedau analog yn 2022. Yn y cyfamser, mae'r Llywodraeth wedi dweud y byddai'n cefnogi unrhyw ymdrechion gan Ofcom i ystyried a oes lle i wneud newidiadau i'w reolau a'i ganllawiau yn hytrach na diwygiadau tymor hwy.

Radio masnachol: newyddion o unman?

Hyd yma yn ymchwiliad y Pwyllgor, mae Bwrdd Cynghori Ofcom Cymru a Steve Johnson o Brifysgol De Cymru wedi dadlau y dylai Llywodraeth y DU gyflwyno'r cysyniad rheoleiddiol o "Newyddion Cymru-gyfan". Mae deddfwriaeth gyfredol a chynigion Llywodraeth y DU yn cynnwys newyddion lleol a newyddion ledled y DU, gan hepgor yr haen rhwng y gwasanaethau hynny, sef newyddion gwledydd cyfansoddol yn y DU. Roedd Pwyllgor Ymgynghorol Ofcom yn dadlau y dylid gorchymyn gorsafoedd radio masnachol yng Nghymru i ddarlledu newyddion am Gymru, a bod darparu newyddion o bwysigrwydd arbennig i fywyd dinesig yng Nghymru ar ôl datganoli.

Radio masnachol lleol yng Nghymru sydd â'r refeniw masnachol isaf y pen o unrhyw un o wledydd y DU, er bod hyn yn dangos y twf uchaf fesul blwyddyn rhwng 2015 a 2016.

Refeniw radio masnachol lleol y pen

Mae'r refeniw masnachol isel hwn yn awgrymu - o leiaf ar y metrig hwn - bod yr achos busnes dros redeg gorsaf radio fasnachol yng Nghymru yn fwy heriol nag yn unrhyw fan arall yn y DU. A fyddai - fel y mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu - cyflwyno amod rheoleiddiol "newyddion Cymru-gyfan" yn rhoi gweithredwyr newyddion masnachol yng Nghymru o dan anfantais fasnachol arall? Neu a oes angen yr ymyriad hwn i gryfhau'r ddarpariaeth newyddion yng Nghymru?

BBC radio: a yw optio allan o'r rhwydwaith ddim yn bosibl i Gymru?

Er bod gan y BBC dair gorsaf radio ymroddedig yng Nghymru, mae cynulleidfaoedd Cymru yn gwrando'n bennaf ar wasanaethau'r DU. Gwasanaethau'r BBC yw 56 y cant o'r holl oriau gwrando bob wythnos yng Nghymru - gyda gwasanaethau rhwydwaith yn cyfrif am 48 y cant - yr uchaf o unrhyw wlad yn y DU.

Yng ngoleuni'r ffaith hon, mae adroddiad y pwyllgor ar ddarlledu, sef Y Darlun Mawr (2017) yn argymell gallu optio allan ar gyfer newyddion Cymru ar Radio 2 a Radio 1. Mae'r Arglwydd Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, wedi dweud wrth y Pwyllgor yn y gorffennol bod trefniant optio allan i Gymru ar gyfer newyddion Radio 1 a Radio 2 yn sicr ar yr agenda ar gyfer yr adolygiad newyddion.

Yn ddiweddar, dywedodd Rhys Evans o'r BBC, wrth y Pwyllgor nad oedd hynny, er bod y cysyniad hwn yn "un dilys", yn bosibl am resymau technegol. Eglurodd bod y signal sy'n targedu Cymru, wrth ddarlledu ar FM, hefyd yn darlledu i dde-orllewin Lloegr, sy'n golygu y byddai'r cynulleidfaoedd hyn hefyd yn derbyn newyddion Cymru.

Ac, o ran digidol, eglurodd na ellir optio allan ... ei fod yn rhwydwaith un amledd unigol ar draws y DU ar amlbleth BBC Radio 1 a Radio 2. Bydd aelodau'r Pwyllgor yn profi'r esboniad hwn gyda barn tystion eraill wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

Radio cymunedol: llwyfan i leisiau anhysbys?

Mae yna naw gorsaf radio cymunedol ar yr awyr yng Nghymru. Cyflwynwyd radio cymunedol yn dilyn deddfwriaeth, er mwyn cyflwyno haen newydd o ddarlledu radio yn y DU, yn canolbwyntio'n benodol ar ymgysylltu â'r gymuned. Mae gorsafoedd yn ddielw ac mae cyfyngiad ar y refeniw y gallant ei godi, ac maent yn canolbwyntio ar gyflawni budd cymdeithasol: gan weithio i gynnwys y gymuned leol yn y gwaith o redeg y gwasanaeth.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu dileu gofynion cynnwys lleol ar gyfer trwyddedu radio masnachol - heblaw am newyddion lleol. Er bod y BBC yn darparu gwasanaethau cenedlaethol yng Nghymru, nid yw'n darparu gwasanaethau mwy lleol, fel y mae yn Lloegr. A yw hyn yn golygu y bydd y sector radio cymunedol o bwys arbennig yng Nghymru cyn bo hir?

Clywodd y Pwyllgor ddadleuon tebyg i hyn yn ystod ei ymchwiliad i newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru: bod ciliad papurau newydd lleol o gymunedau'n rhoi gwerth i haen newydd o gyhoeddiadau "hyperleol" - naill ai ar-lein neu mewn print - a gododd i gynnwys materion cymunedol lleol yn eu lle.

Yn y gorffennol, roedd gan Lywodraeth Cymru Gronfa Radio Cymunedol, rhwng 2008 a 2014 ac roedd yn dosbarthu £100,000 y flwyddyn. Yn sesiwn fwyaf diweddar y Pwyllgor, roedd Steve Johnson (o Brifysgol De Cymru) yn argymell yn gryf y dylai'r arian hwn gael ei ailgyflwyno, gan ddadlau bod manteision radio cymunedol yn cynnwys "galluogi cyfranogi, lledaenu lluosogrwydd y cyfryngau a cheisio rhoi llwyfan i leisiau ymylol sydd, yn aml, yn anhysbys".

Y camau nesaf

Cynhelir sesiwn olaf yr ymchwiliad ar 26 Ebrill, pan fydd y Pwyllgor yn clywed gan academyddion, y sector radio masnachol, Radio Beca a Dafydd Elis-Thomas AC, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Mae'n debygol y bydd cyflwyno "newyddion Cymru-gyfan" a'r syniad o atgyfodi'r Gronfa Radio Cymunedol ymhlith prif bynciau'r ddadl.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu 2017, yr adran radio a chynnwys sain