Dod i gytundeb ynghylch gwelliannau i Fil yr UE (Ymadael)

Cyhoeddwyd 01/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Y cefndir

Yn dilyn y methiant yn nifer o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Trafodaethau'r UE) i ddod i gonsensws ynghylch newidiadau i gymal 11 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 24 Ebrill ei bod wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU. Caiff y gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU eu trafod gan Aelodau Tŷ'r Arglwyddi yn ystod Cyfnod Adrodd y Bil ddydd Mercher 2 Mai. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi Cytundeb Rhynglywodraethol ar y Bil a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin i ategu hyn. Mae'r Cytundeb hwn yn amlinellu ymrwymiadau ychwanegol ynghylch sut y bydd y gwelliannau'n gweithio'n ymarferol.

Datblygiadau cymal 11

Roedd y cymal 11 gwreiddiol yn gosod cyfyngiad newydd ar gymhwysedd deddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig ar ôl Brexit, o ran na fyddent yn gallu pasio deddfwriaeth sy’n anghydnaws â chorff cyfraith yr UE a gaiff ei gadw gan y Bil, oni bai bod y cyfyngiad yn cael ei godi gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.

Mae'r gwelliannau y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cytuno arnynt yn gwrthdroi cymal 11 drwy roi rhyddid i’r deddfwrfeydd datganoledig ddeddfu ar unrhyw faes o fewn eu pwerau, yn hytrach na gosod cyfyngiad cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol. Byddai’r gwelliannau arfaethedig, fodd bynnag, yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy’n gosod cyfyngiadau yn y meysydd datganoledig, a all bara am bum mlynedd ar ôl eu gwneud. Byddai Gweinidogion y DU yn gallu defnyddio'r pŵer hwn i osod cyfyngiadau am hyd at ddwy flynedd ar ôl y 'diwrnod ymadael', sef 29 Mawrth 2019 ar hyn o bryd, felly gallai pwerau'r Cynulliad barhau i fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau ym mis Mawrth 2026.

Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol yn nodi mai'r meysydd polisi sy'n debygol o fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau yw'r 24 maes a nodwyd yn y dadansoddiad fframweithiau y cyhoeddodd Llywodraeth y DU fel rhai y mae’n debygol y bydd angen fframweithiau deddfwriaethol y DU gyfan ar eu cyfer ar ôl Brexit ac eraill sy'n parhau i gael eu trafod.

Rhaid i reoliadau sy'n gosod cyfyngiadau ar bwerau'r Cynulliad gael eu gosod ar ffurf ddrafft a'u cymeradwyo gan Senedd y DU, ond dim ond wedi i'r Cynulliad wneud 'penderfyniad cydsynio' mewn perthynas â gosod y drafft neu ar ôl i 40 diwrnod basio heb fod y Cynulliad wedi gwneud penderfyniad. Mae 'penderfyniad cydsynio' yn cynnwys penderfyniad i beidio â chytuno ar osod y drafft neu benderfyniad i wrthod cydsyniad, sy'n golygu y gellir gosod cyfyngiadau ar bwerau'r Cynulliad heb ei gydsyniad. Mewn achosion o'r fath, rhaid i Lywodraeth y DU esbonio pam ei bod wedi penderfynu gosod y drafft o gwbl. Hefyd, rhaid iddi osod unrhyw ddatganiad a ddarperir gan Weinidogion Cymru yn nodi ei barn ynghylch pam y mae'r Cynulliad wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.

Er gwaethaf y gwelliannau arfaethedig sy’n galluogi Gweinidogion y DU i basio rheoliadau sy'n gosod cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol heb gydsyniad y Cynulliad, mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol yn nodi na fydd gofyn 'fel rheol' i Senedd y DU gymeradwyo cyfyngiadau cymal 11 heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig.

Byddai'r gwelliannau hefyd yn galluogi Gweinidogion y DU i ddiddymu'r pŵer i osod cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad, a byddant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU adrodd i Senedd y DU bob tri mis am y cyfyngiadau sydd ar waith. Rhaid i Weinidogion y DU hefyd ddarparu copi o bob adroddiad a osodir gerbron y Senedd i Weinidogion Cymru.

O ran deddfu ar gyfer Lloegr mewn meysydd sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau yng Nghymru, mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol yn nodi bod Llywodraeth y DU yn ymrwymo i beidio â chyflwyno deddfwriaeth yn y meysydd hynny cyhyd â bod y cyfyngiadau mewn grym.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Gwnaeth Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Ebrill, lle disgrifiodd y cytundeb yn "gam mawr ymlaen o'r cynigion gwreiddiol."

Ddydd Gwener 27 Ebrill, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm) gerbron y Cynulliad mewn perthynas â'r Bil diwygiedig. Mae'r Memorandwm yn cadarnhau bod y newidiadau i'r Bil, ynghyd â'r Cytundeb Rhynglywodraethol, yn ddigonol i alluogi Llywodraeth Cymru i argymell bod y Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad.

Ymateb Llywodraeth yr Alban

Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwrthod ymuno â'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dywedodd Michael Russell, Gweinidog yr Alban dros Drafodaethau â'r DU ynghylch Lle'r Alban yn Ewrop, eu bod yn methu â chefnogi unrhyw gynnig a fyddai'n arwain at gyfyngu ar bwerau Senedd yr Alban heb gytundeb Senedd yr Alban. Mewn llythyr at Brif Weinidog y DU, nododd Prif Weinidog yr Alban ddwy ffordd bosibl ymlaen, gan gynnwys dileu cymal 11 yn llwyr neu osod gofyniad am gydsyniad gan Senedd yr Alban ar wyneb y Bil.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r ddwy Lywodraeth tan y funud olaf i weld os oes modd gwneud unrhyw welliannau pellach i'r Bil. Mae'r Cydbwyllgor Gweinidogion (Trafodaethau'r UE) i fod i gyfarfod eto yr wythnos hon i olrhain unrhyw gynnydd.

Y Bil Parhad a'r camau nesaf

Cafodd Bil 'parhad' Llywodraeth Cymru, sef y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), ei basio ar 21 Mawrth fel opsiwn yn lle'r Bil Ymadael.

Yn ystod y cyfnod hysbysu o bedair wythnos, cyfeiriodd Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr y Bil at y Goruchaf Lys am benderfyniad ynghylch a yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Yn dilyn y consensws ynghylch y gwelliannau, mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol yn nodi y caiff camau eu cymryd i ddiddymu Bil Parhad Cymru cyn i'r Bil Ymadael gael Cydsyniad Brenhinol, ac y bydd swyddogion cyfreithiol Llywodraeth y DU hefyd yn ceisio tynnu'r atgyfeiriad at y Goruchaf Lys yn ôl.

Bydd Aelodau Tŷ'r Arglwyddi yn trafod gwelliannau Llywodraeth y DU a darpariaethau datganoli eraill ddydd Mercher 2 Mai cyn i'r Cyfnod Adrodd ddod i ben ar 8 Mai. Yna bydd y Bil yn cael ei Drydydd Darlleniad ar 16 Mai, cyn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin er mwyn trafod y gwelliannau a wnaed gan yr Arglwyddi.

Disgwylir i'r Cynulliad drafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â'r Bil rhwng y Cyfnod Adrodd a'r Trydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi.


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru