Datblygiadau ar Brif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd 03/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 8 Mai bydd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gwneud datganiad i'r Cyfarfod Llawn ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru.

Ar ôl canslo trydaneiddio Prif Linell y Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe yr haf diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ei fod wedi gofyn i Network Rail ddatblygu nifer o brosiectau yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu ei chynigion ei hun ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Gogledd a De Cymru.

Mae ariannu a gweithredu gwasanaethau a seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru yn ddarlun cymhleth. Er y bydd rheolaeth dros fasnachfreintio’r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn cael ei datganoli’n fuan, Llywodraeth y DU sydd â rheolaeth dros seilwaith y rheilffyrdd ar hyn o bryd ac mae'r dull o gynllunio prosiectau mawr yn newid.

Beth bynnag sydd i’w ddisgwyl yn y dyfodol o ran datblygu'r llinellau hyn, ymddengys y bydd y llif teithwyr yn cynyddu gydag Astudiaeth Llwybr Cymraeg Network Rail (PDF, 5MB) (tudalennau 24-25) yn amcangyfrif y bydd y galw’n cynyddu'n sylweddol. Erbyn 2043 disgwylir i’r llif teithwyr gynyddu 124 y cant rhwng Abertawe a Chaerdydd, 111 y cant rhwng Abertawe a Llundain ac 80 y cant rhwng arfordir Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Cynnwys pawb

Gweithredir gwasanaethau rheilffyrdd teithwyr yn y DU trwy gytundebau masnachfraint. Yng Nghymru, bydd Masnachfraint bresennol Cymru a’r Gororau a weithredir gan Drenau Arriva Cymru yn dod i ben ym mis Hydref eleni.

Yn 2014, cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU y byddai pwerau i gaffael y fasnachfraint nesaf yng Nghymru yn cael eu datganoli a chyflwynwyd y Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rheilffyrdd) 2018 drafft yn y Senedd ym mis Chwefror 2018 . Cytunwyd ar y gorchymyn drafft gan Dŷ'r Arglwyddi ar 16 Ebrill 2018 ac fe'i hystyriwyd gan Drydydd Pwyllgor Deddfwriaeth Dirprwyedig Tŷ'r Cyffredin ar 23 Ebrill 2018.

Yn y cyfamser, mae’r gwaith o gaffael y gweithredwr nesaf wedi bod yn mynd rhagddo, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Disgwylir newyddion am y cynigydd llwyddiannus yn ddiweddarach y mis hwn.

Er y bydd datganoli yn rhoi rheolaeth i Lywodraeth Cymru dros fasnachfreintio gwasanaethau teithwyr, Llywodraeth y DU fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd. Yn wahanol i'r Alban, mae ariannu seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru yn fater neilltuedig ac er bod gan Weinidogion Cymru bwerau i fuddsoddi mewn seilwaith, nid yw Cymru yn cael dyraniad Grant Bloc ar gyfer hyn.

Pan gynigiwyd y cynnig i gymeradwyo'r gorchymyn drafft yn Nhŷ'r Arglwyddi, codwyd y mater o ddatganoli pwerau seilwaith yn y ddadl. Dywedodd y Farwnes Sugg, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth:

We do not intend to revisit the question of devolving Network Rail funding... the department will continue to liaise closely with the Welsh Government on the specification funding of Network Rail’s Operations in England and Wales... to ensure that the requirements for Wales for increased capacity on the network are reflected.

Cynllunio

Mae cynllunio'r diwydiant rheilffyrdd ym Mhrydain yn digwydd mewn cyfnodau rheoli pum mlynedd (CP). Y cyfnod rheoli presennol yw CP5 (2014-19). Cyn i bob cyfnod ddechrau, mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn cyhoeddi dau ddatganiad statudol ar gyfer Cymru a Lloegr: Manyleb Allbwn Lefel Uchel (HLOS) sy'n nodi’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i'r diwydiant rheilffyrdd ei gyflawni o fewn y cyfnod rheoli pum mlynedd; a Datganiad o’r Cronfeydd sydd ar gael (SOFA). Mae Gweinidogion yr Alban hefyd yn cyhoeddi HLOS a SOFA ar gyfer yr Alban.

Newidiadau Nesaf

Ar 20 Gorffennaf 2017 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei HLOS ar gyfer CP6 (2019-2024). Cyhoeddwyd y SOFA i gyd-fynd â hwn ym mis Hydref 2017. Yn wahanol i ddatganiadau blaenorol, a oedd yn cynnwys ymrwymiadau i brosiectau gwella seilwaith mawr, roedd HLOS a SOFA CP6 yn canolbwyntio ar weithredu, cynnal a chadw ac adnewyddu'r rheilffordd bresennol ond nid oedd yn ymrwymo i unrhyw brosiectau mawr.

Mae hyn oherwydd bod y ffordd y mae prosiectau gwella rheilffyrdd yn cael eu cynllunio gan Lywodraeth y DU yng Nghymru a Lloegr yn newid i 'ddull piblinell'. Disgrifiodd Llywodraeth y DU y newidiadau hyn yn ei Gweledigaeth Strategol ar gyfer y Rheilffyrdd (PDF, 1.37MB) ar 29 Tachwedd 2017:

Bydd ein hymagwedd biblinell newydd tuag at reoli uwchraddio ar y rheilffordd yn gweld y Llywodraeth fel cyllidwr yn gweithio ar y cyd â Network Rail a darparwyr seilwaith posibl eraill. Yn dilyn y gwersi ddysgwyd o’r materion gododd yn y cyfnod cyllido cyfredol, mae’r ffordd newydd hon o weithio yn darparu goruchwyliaeth, tryloywder a phwyntiau penderfynu clir ar gyfer cynnydd.

Mae'r ddogfen yn dweud y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol "yn cyflwyno Cynllun Uwchraddio Rheilffyrdd fydd yn diffinio’r blaenoriaethau hyn a’r camau rydym yn eu cymryd i’w darparu".

Trydaneiddio wedi dod oddi ar y cledrau

Ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd yr HLOS, daeth i'r amlwg trwy adroddiadau yn y cyfryngau bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu canslo trydaneiddio’r Brif Linell Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe. Gallwch ddarganfod mwy am ganslo’r trydaneiddio i Abertawe ar ein blog ' trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe yn cael ei ollwng gan Lywodraeth y DU '.

Ynghyd â'r cyhoeddiad hwn, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ddatganiad i'r wasg yn amlinellu meysydd lle'r oedd wedi gofyn i Network Rail ddatblygu opsiynau ar gyfer rheilffyrdd Cymru. Yr opsiynau a ddyfynnwyd oedd:

gwella amseroedd teithio a chysylltiadau rhwng Abertawe a Chaerdydd, a De Cymru, Bryste a Llundain;
gwella amseroedd teithio a chysylltiadau ar draws Gogledd Cymru;
gwasanaethau uniongyrchol o Ddoc Penfro i Lundain trwy Gaerfyrddin ar drenau Intercity Express newydd, o’r radd flaenaf;
gwelliannau i Orsaf Caerdydd;
gwelliannau i orsafoedd yn Abertawe a’r ardal gan gynnwys ystyried y ddadl dros ddarpariaeth bellach.

Cyhoeddodd Ken Skates , Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ddatganiad ysgrifenedig yn mynegi ei siom gyda'r HLOS gan ddatgan nad yw’n gwneud:

unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd yn y cyfnod 2019-2024, ond nid yw chwaith yn cadw at yr ymrwymiad i drydaneiddio'r llinell rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Aeth ymlaen i feirniadu gwariant Llywodraeth y DU ar welliannau seilwaith yng Nghymru:

er bod Cymru a’r Gororau yn cynnwys oddeutu 11 y cant o gledrau'r rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr, nid yw’r ardal wedi elwa ar ddim ond 1.5 y cant o arian Llywodraeth y DU sy’n cael ei wario ar wella’r rheilffyrdd ers 2011.

Mae dadansoddiad o Ddatganiadau Ariannol Rheoleiddiol Network Rail yn cefnogi'r honiad hwn wrth ganolbwyntio ar wariant ar welliannau .

Signalau i Abertawe

Er ei fod yn mynegi siom hefyd ym mhenderfyniad Llywodraeth y DU, nododd yr Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd ei weledigaeth ar gyfer gwelliannau yn y seilwaith o amgylch Rhanbarth Bae Abertawe yn y cyfryngau ym mis Awst 2017. Cyflwynwyd y weledigaeth hon fel dewis amgen i drydaneiddio er mwyn lleihau amser teithio rhwng Caerdydd ac Abertawe. Yr Athro Barry oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r Astudiaeth o Effaith Metro De Cymru (PDF, 9.2MB) ac ymunodd â Llywodraeth Cymru i weithio ar ddatblygiad y prosiect cyn symud i Brifysgol Caerdydd. Ymhlith y datblygiadau y mae'n eu hamlinellu ar gyfer Bae Abertawe, mae'n cynnig byrhau amseroedd teithio trwy ran syth newydd o'r rheilffordd o Bort Talbot i ganol Abertawe - gan gymryd tua 10 milltir oddi ar y llwybr presennol ar Brif Linell y Great Western.

Yn ddiweddarach ymhelaethodd adroddiadau yn y cyfryngau ar ei weledigaeth ar gyfer cynllun tebyg i Fetro De Cymru yn Rhanbarth Dinas Bae Abertawe, gan gynnwys gorsafoedd newydd a chyfleusterau parcio a theithio a galwadau am astudiaeth dichonolrwydd.

Mae grantiau a ddyfarnwyd trwy Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 (PDF, 334KB), a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018 , yn cynnwys grant o £ 700k i Gyngor Dinas Abertawe ar gyfer 'Metro De Orllewin Cymru'.

Tua’r Gogledd

Gan deithio tua'r gogledd, mae Llywodraeth Cymru wedi pledio ers tro am drydaneiddio Prif Linell Gogledd Cymru sy'n rhedeg o Gaergybi i Crewe. Yn y Pedwerydd Cynulliad, cyflwynodd Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth ar y pryd Achos Busnes Amlinellol dros drydaneiddio Prif Lein Rheilffordd y Gogledd i'r Adran Drafnidiaeth ar 31 Mawrth 2016. Ymgais oedd hyn i ddylanwadu ar HLOS yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer cyfnod rheoli 6. Cyhoeddodd Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad hefyd adroddiad ar flaenoriaethau ar gyfer dyfodol seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru gyda'r argymhellion allweddol yn cynnwys trydaneiddio Prif Linell Gogledd Cymru.

Ar 2 Mawrth 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu ei Weledigaeth ar gyfer Metro Gogledd Cymru a Gogledd-ddwyrain Cymru ac yn 'Symud Gogledd Cymru Ymlaen' (PDF, 2MB) mae Llywodraeth Cymru yn datgan y bydd:

yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gyflwyno’r achos i Lywodraeth Prydain fuddsoddi yn y cynllun hwn i wella mynediad i HS2 a’r farchnad ehangach ym Mhrydain.

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddiweddariad pellach ar ddatblygiad Metro Gogledd-ddwyrain Cymru mewn datganiad ysgrifenedig ar 14 Rhagfyr 2017 - Gweledigaeth ar gyfer Trafnidiaeth y Gogledd.

Mae ymgyrch Trac Twf 360 , sydd hefyd yn pledio dros drydaneiddio Prif Linell Gogledd Cymru, yn gynghrair drawsffiniol sy’n ymgyrchu dros well gwasanaethau rheilffyrdd ar draws ardal Gogledd Cymru a Swydd Gaer. Mae wedi cyhoeddi Prosbectws Rheilffordd Orllewin a Chymru sy’n nodi gweledigaeth yr ymgyrch ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr sydd hefyd yn amlygu trydaneiddio fel cyfle allweddol ar gyfer buddsoddi.

Taith hir i ddod?

Mae'n amlwg bod llawer o waith yn cael ei wneud i ddatblygu cynlluniau ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru ac mae datganiadau lefel uchel gan Lywodraeth y DU yn awgrymu efallai y bydd cefnogaeth ar gael. Fodd bynnag, mae ffordd bell i fynd i ddatblygu cynlluniau manwl. Mae penderfyniadau allweddol i’w gwneud o hyd ar brosiectau, gan gynnwys pwy fydd yn talu. Efallai y bydd datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi mwy o eglurder o ran camau nesaf y daith.


Erthygl gan Francesca Howorth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru