Rheoli tir yn dilyn Brexit: Ysgrifennydd y Cabinet i wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 03/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ers i'r Deyrnas Unedig bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r sawl sydd â diddordeb yn y Gymru wledig wedi bod yn trafod sut y dylid rheoli ein tir gwledig yn dilyn Brexit.

O ystyried bod tua 80 y cant o'r tir yng Nghymru yn dir fferm, un cwestiwn hanfodol i'w ateb yw beth fydd yn disodli Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE ar ôl i ni adael yr UE.

Ar hyn o bryd, mae'r PAC yn darparu'r fframwaith ar gyfer polisi a chyllid ym meysydd amaeth a rheoli tir ar draws yr UE. Yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, fe'i beirniadwyd gan ffermwyr a chadwraethwyr fel ei gilydd am fod yn rhy fiwrocrataidd ac am beidio â chyflawni ei amcanion amaethyddol na'i amcanion amgylcheddol.

Wrth gwrs, mae materion pwysig eraill y mae angen eu datrys hefyd cyn inni gael darlun cliriach o ba ffurf fydd i bolisi rheoli tir yn dilyn Brexit. Mae'r rhain yn cynnwys sut y caiff unrhyw bolisi yn y dyfodol ei ariannu, a beth fydd ein perthynas fasnachu gyda'r UE yn y dyfodol.

Byddwn yn cymryd cam tuag at ddeall natur y daith hon ar 8 Mai 2018, pan fydd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn gwneud datganiad yn y Cynulliad ar ddyfodol rheoli tir.

Beth fu safbwynt Llywodraeth Cymru hyd yma?

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet y "pum egwyddor graidd" a fydd yn sail i'r polisi rheoli tir newydd yng Nghymru am y tro cyntaf mewn araith i gynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (yr NFU) ar 20 Chwefror 2018. Mae'r pum egwyddor graidd fel a ganlyn:

  • Rhaid inni gadw'n ffermwyr ar y tir. Y rheini sy'n ei nabod ddylai rheoli tir Cymru.
  • Rydyn ni am weld sector amaethyddol llewyrchus a chryf mewn byd ar ôl Brexit, sut bynnag fydd golwg y byd hwnnw.
  • Dylai'r polisi newydd ganolbwyntio ar sicrhau bod tir Cymru'n rhoi nwyddau cyhoeddus i holl bobl Cymru.
  • Dylai'r cymorth fod ar gael i bawb. Mae hynny'n golygu rhoi'r cyfle i ffermwyr bara i wneud bywoliaeth ar y tir.
  • Ni ddylwn droi'n cefnau ar gynhyrchu bwyd. Lle bo cynhyrchu cynaliadwy'n broffidiol, rhaid inni helpu'n ffermwyr i gystadlu ym marchnadoedd y byd.

Galwodd Ysgrifennydd y Cabinet am gyfnod pontio rhwng y PAC a'r polisi newydd, gan nodi y dylai'r cyfnod hwnnw gael ei gynllunio'n dda a chael ei weithredu dros “sawl blwyddyn”. Dywedodd na fydd y Cynllun Taliad Sylfaenol cyfredol yn "ein helpu ni i wrthsefyll y newidiadau a ddaw yn sgil Brexit", a bod angen system gymorth wahanol. Mae'r Cynllun Taliad Sylfaenol ar hyn o bryd yn darparu taliadau uniongyrchol i ffermwyr, ac yn cynrychioli'r gyfran fwyaf o'r arian PAC y mae Cymru yn ei gael.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â Seland Newydd ym mis Ebrill 2018, a chyfarfu â chynrychiolwyr o'r diwydiant amaethyddiaeth yn y wlad honno. Yn dilyn yr ymweliad hwnnw, nododd ei bod "yn fwy argyhoeddedig nag erioed" bod angen cyfnod pontio.

Mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2018, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n cyflwyno "cynigion cychwynnol am ddiwygio" erbyn toriad yr haf. Dywedodd hefyd: "Nid oes angen inni ddewis rhwng cynhyrchu bwyd a nwyddau cyhoeddus. Er nad yw cynhyrchu bwyd ei hunan yn nwydd cyhoeddus, nid oes rheswm pam na all yr un fferm gynhyrchu’r ddau beth." Mae'r ffaith nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus wedi bod yn fater dadleuol ymhlith ffermwyr (gweler isod).

Gwnaeth Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd, ddatganiad yn y Cynulliad ar 17 Ebrill 2018 yn nodi ei blaenoriaethau ac yn tynnu sylw at y materion y bydd y polisi rheoli tir newydd yn canolbwyntio arnynt.

Dywedodd y Gweinidog y byddai'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio "arian cyhoeddus i ddarparu nwyddau cyhoeddus drwy wobrwyo rheolwyr tir am adfer a chynnal amgylchedd iach". Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a gwella safonau amgylcheddol yn dilyn Brexit.

Mae blaenoriaethau'r Gweinidog yn cynnwys:

  • Gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a gwella gwydnwch ecosystemau;
  • Ehangu'r gorchudd coetir er mwyn sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol; a
  • Sicrhau bod y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn esiamplau rhagorol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn enwedig o ran bioamrywiaeth a choetiroedd.

Mewn datganiad blaenorol ar 23 Mawrth 2018, dywedodd y Gweinidog y bydd gan y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol rôl bwysig o ran cyflwyno'r polisi rheoli tir newydd: "Mae angen iddyn nhw chwarae eu rhan i gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i aros ar y tir, yn ogystal â gwneud cyfraniad allweddol at y blaenoriaethau o fewn y polisi adnoddau naturiol."

Beth y mae rhanddeiliaid wedi'i ddweud?

Mae NFU Cymru wedi croesawu dull gweithredu Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth ymateb i'w datganiad ym mis Mawrth, dywedodd John Davies, Llywydd NFU Cymru: “Today’s statement from the Cabinet Secretary lays the foundations for securing a bright future for this industry through a policy that supports our primary role as food producers whilst also caring for and enhancing our environment and landscapes.”

Cyhoeddodd NFU Cymru weledigaeth ar gyfer polisi amaethyddol domestig newydd (PDF 708KB) yn ystod tymor yr haf 2017.

Roedd y croeso a gafodd y datganiad gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn fwy gofalus. Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd yr FUW, y gallai'r pum egwyddor ennill cefnogaeth fras yn hawdd, ond bod angen datblygu'r polisi newydd yn ofalus ar sail gwaith dadansoddi manwl.

Mynegodd yr FUW bryder hefyd am y ffaith nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod cynhyrchu bwyd fel nwydd cyhoeddus, gan ddweud bod cwestiynau ynghylch sut y byddai taliadau am ddarparu nwyddau cyhoeddus amgylcheddol yn cydymffurfio â rheolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO). Mae'r FUW wedi cyhoeddi nifer o bapurau briffio perthnasol ar ei wefan.

Mae NFU Cymru a'r FUW yn cefnogi cyfnod pontio sydd wedi'i gynllunio'n dda.

Cyhoeddodd Cyswllt Amgylchedd Cymru—rhwydwaith o sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol—ei weledigaeth ar gyfer rheoli tir cynaliadwy (PDF 9.10MB) ym mis Gorffennaf 2017. Yn ôl y weledigaeth hon, dylai rheoli tir fod o fudd i'r bobl, i'r amgylchedd ac i natur, a dylai sicrhau dyfodol economaidd i reolwyr tir:

… As well as products such as food and timber, we need a flourishing natural environment, rich in wildlife, to provide services like clean water, healthy soils, flood alleviation, carbon sequestration, and the benefits to our wellbeing that contact with nature brings. In turn, these ecosystem services could play a key role in supporting a prosperous rural economy, if investment is made now in nature’s restoration. …

Mae gweledigaeth Cyswllt Amgylchedd Cymru yn galw am gynnal a gwella safonau amgylcheddol ar ôl Brexit, ac am sicrhau bod arian cyhoeddus dim ond ar gael at ddibenion sicrhau buddion cyhoeddus. Mae'r weledigaeth hefyd yn datgan y dylai'r polisi rheoli tir newydd gael ei ddatblygu yn unol ag egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a hynny o fewn fframwaith y saith nod llesiant. Yn olaf, mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn dweud y dylid monitro'r polisi newydd yn rheolaidd, ac y dylid adrodd y canlyniadau i'r Cynulliad.

Ym mis Ionawr 2018, ategodd Cyswllt Amgylchedd Cymru ei weledigaeth drwy gyhoeddi datganiad safwbynt ar y drefn gyllido ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy yn y dyfodol (PDF 655KB).

Pa waith y mae'r Cynulliad wedi'i wneud yn y maes hwn?

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cynnal dau ymchwiliad mawr yn y maes hwn.

Mae adroddiad y Pwyllgor ar ei ymchwiliad i reoli tir yn y dyfodol (Mawrth 2017) yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu system gymorth newydd sy'n sicrhau canlyniadau cynaliadwy a bwyd o safon uchel. Dywedodd y Pwyllgor hefyd y dylid cael cyfnod trosiannol sy'n cyfateb i'r hyn sy'n weddill o'r cylch cyllido PAC presennol a'r cylch cyllido nesaf. Mae'r argymhellion eraill yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • sicrhau bod cyllid yn y dyfodol yn seiliedig ar gyflawni canlyniadau sy’n cyfrannu at y targedau ar gyfer ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a’i liniaru;
  • sicrhau bod cyllid yn y dyfodol yn cefnogi'r broses o wella bioamrywiaeth ac yn cyflawni amcanion y Cynllun Adfer Natur;
  • sicrhau bod cyllid yn y dyfodol yn gwobrwyo rheolwyr tir am wella mynediad i gefn gwlad;
  • sicrhau nad yw cyllid yn y dyfodol yn ddarostyngedig i fformiwla Barnett.

Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor ar ei ymchwiliad i goetiroedd (Gorffennaf 2017) dynnu sylw at yr angen i gynyddu gorchudd coetir, yn ogystal â'r cyfle i ddod ag amaethyddiaeth a choedwigaeth fasnachol at ei gilydd o dan bolisi mwy cydlynus ym maes rheoli tir.

Beth yw safbwynt presennol Llywodraeth y DU?

Gwnaeth Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, araith yng nghynhadledd yr NFU, gan nodi ei flaenoriaethau ar gyfer amaethyddiaeth yn dilyn Brexit.

Tuag wythnos yn ddiweddarach, ar 27 Chwefror 2018, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar bolisi amaethyddiaeth i Loegr yn y dyfodol. Er bod y ddogfen yn canolbwyntio'n bennaf ar Loegr, mae'r tair adran olaf yn berthnasol i'r DU yn ei chyfanrwydd: “Devolution: maintaining cohesion and flexibility”, “International trade” a “Legislation: the Agriculture Bill”.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi ymateb i'r ymgynghoriad (PDF 150KB), gan dynnu ar y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod ei ymchwiliad i reoli tir yn y dyfodol.

Ar 9 Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hasesiad dros dro o ran lle y gall fod angen fframweithiau cyffredin y DU ar ôl Brexit mewn meysydd o gyfraith yr UE sydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Cyhoeddodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ddatganiad ysgrifenedig ar 14 Mawrth 2018 yn egluro nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'r ddogfen hon ac nad oedd y ddogfen yn cynrychioli ei barn.

Mae'r asesiad yn dangos y gall fod angen fframweithiau deddfwriaethol mewn meysydd o gyfraith yr UE sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth, fel cymorth amaethyddol a lles anifeiliaid. Mae trafodaethau’n parhau rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig. Gallai canlyniadau'r trafodaethau hyn effeithio ar y graddau y bydd penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU yn dylanwadu ar bolisi rheoli tir yn y dyfodol yng Nghymru.

Beth am y drefn gyllido?

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynnal y cyllid a ddarperir ym maes amaethyddiaeth tan 2022. Mae hyn wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud yr un ymrwymiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan droeon ei bod yn gwrthwynebu trefniant lle byddai cyllid ar gyfer rheoli tir yn y dyfodol yn ddarostyngedig i Fformiwla Barnett, a hynny yn sgil y ffaith y byddai trefniant o'r fath yn lleihau'n sylweddol y cyllid y mae Cymru yn ei gael. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ailddatgan y safbwynt hwn yn y Cynulliad ar 21 Mawrth 2018.

Disgwylir i'r PAC ddarparu oddeutu €2.6 biliwn o gyllid yr UE i Gymru rhwng 2014 a 2020: €1.95 biliwn ar gyfer taliadau uniongyrchol (oddeutu €279 miliwn y flwyddyn dros y cyfnod cyllido saith mlynedd) a €665.8 miliwn ar gyfer datblygu gwledig.

Mae'r FUW yn awgrymu y gallai'r cyllid gael ei ostwng o 40 y cant pe bai Fformiwla Barnett yn cael ei ddefnyddio, ac mae Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, wedi datgan y gellid gweld gostyngiad o rhwng 75 y cant a 80 y cant.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru