Addysg

A yw prentisiaethau yn gweithio yng Nghymru?

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn cynnal dadl ar Brentisiaethau yng Nghymru yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 9 Mai yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar brentisiaethau ac ymateb Llywodraeth Cymru yn dilyn yr adroddiad hwnnw.

04 Mai 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cynnal dadl ar Brentisiaethau yng Nghymru yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 9 Mai yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar brentisiaethau ac ymateb Llywodraeth Cymru yn dilyn yr adroddiad hwnnw.

Y cefndir

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (ESS) wedi bod yn ymchwilio i rai o’r materion cyfredol ynghylch prentisiaethau yng Nghymru. Codwyd rhai o’r materion hyn yn gyntaf gan ei ragflaenydd, Y Pwyllgor Menter a Busnes, yn ei adroddiad Prentisiaethau yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2012.

Yn fwy diweddar, rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Mawrth 2017, cynhaliodd y Pwyllgor ESS ddarn byr o waith yn edrych ar gyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau  a’r effaith y byddai’n ei chael ar fusnesau yng Nghymru. Yn ystod y gwaith hwnnw, daethpwyd â nifer o faterion ehangach yn ymwneud â phrentisiaethau yng Nghymru at sylw’r Pwyllgor. O ganlyniad, penderfynodd lansio Ymchwiliad newydd i edrych ar y materion ehangach hyn ym mis Ebrill 2017.

Trosolwg o’r Ymchwiliad

Cynlluniwyd yr Ymchwiliad Prentisiaethau yng Nghymru 2017 i ymchwilio i gynnydd Llywodraeth Cymru ar faterion megis y:

  • Gwasanaeth Paru Prentisiaeth;
  • y cydraddoldeb o ran parch at gymwysterau academaidd a galwedigaethol;
  • rhwystrau rhag ymgymryd â phrentisiaethau;
  • stereoteipio o ran rhyw ar draws gwahanol grefftau prentisiaethau;
  • datblygu prentisiaethau lefel uwch; ac
  • ymgysylltu cyflogwyr â’r system.

Cynhaliwyd ymgynghoriad y Pwyllgor rhwng 4 Ebrill 2017 a 3 Mai 2017, a derbyniwyd 26 ymateb ysgrifenedig. Yn dilyn yr ymgynghoriad, ar 11 Mai, aeth y Pwyllgor i ymweld â BT ar gyfer digwyddiad trafodaeth bwrdd crwn gyda phrentisiaid BT a oedd yn ymgymryd ag ystod o brentisiaethau. Yna aeth yr aelodau i ymweld ag Ymddiriedolaeth y Tywysog ar gyfer ail ddigwyddiad trafodaeth bwrdd crwn gyda phobl ifanc, i gael dealltwriaeth o’r rhai nad ydynt efallai wedi ymgymryd â phrentisiaeth. Hefyd, cymerodd dystiolaeth lafar yn ei gyfarfodydd ar 17 Mai  a  7 Mehefin 2017, lle cymerodd dystiolaeth gan Julie James AC, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth (‘y Gweinidog’) ar y pryd.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ystod yr hydref 2017 a’i bryderon ynghylch darparu cyngor gyrfaoedd yng Nghymru, gwahoddodd y Pwyllgor Gyrfa Cymru i roi rhagor o dystiolaeth ar 23 Tachwedd 2017.

Adroddiad Prentisiaethau yng Nghymru 2017

Cyhoeddodd y Pwyllgor ESS ei adroddiad ar Brentisiaethau yng Nghymru ym mis Chwefror 2018. Roedd yn cynnwys 14 o argymhellion a 17 o gasgliadau. Roedd yr argymhellion yn canolbwyntio ar wneud prentisiaethau yn fwy hygyrch ar gyfer:

  • pobl ag anableddau, gan alw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu penodol i gyflawni hyn;
  • Siaradwyr Cymraeg, gan ofyn i Lywodraeth Cymru osod targed ar gyfer nifer y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg;
  • pobl o gartrefi incwm isel, gan awgrymu cyflwyno grant cyffredinol i dalu am gostau byw ar gyfer prentisiaethau a chreu cronfa caledi, neu gynllun teithio rhatach, ar gyfer prentisiaethau, fel sy’n bodoli i fyfyrwyr mewn addysg uwch neu addysg bellach; a
  • dynion neu fenywod sy’n ceisio ymuno â phroffesiwn lle mae stereoteip mawr trwy brentisiaeth.

Er mwyn ysgogi camau gweithredu ar y materion hyn, mae’r Pwyllgor wedi galw am ddiweddariadau blynyddol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â nifer y bobl â nodweddion gwarchodedig ac o gartrefi incwm isel sy’n ymgymryd â phrentisiaethau yng Nghymru.

Gwnaeth y Pwyllgor wthio am fwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru ar brentisiaethau gradd, o ystyried y pryderon bod Cymru wedi syrthio ymhell y tu ôl i Loegr yn hyn o beth, y disgwylir iddi gael 7,600 o brentisiaid gradd yn 2017/18 (o’i gymharu â dim prentisiaid gradd yng Nghymru ar hyn o bryd). O ganlyniad, galwodd yr adroddiad ar Lywodraeth Cymru i bennu dyddiad pendant ar gyfer cychwyn prentisiaethau lefel gradd newydd yng Nghymru ac iddi roi diweddariad blynyddol iddynt ar ei gynnydd.

Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am ddiweddariadau bob chwe mis ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r Rhaglen Cyflogadwyedd, oedd i fod i gychwyn yn wreiddiol ym mis Ebrill 2018, ond erbyn hyn disgwylir iddi ddechrau ym mis Ebrill 2019.

Roedd dau argymhelliad olaf y Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ei phartneriaid i ymgysylltu’n well â’r prosbectws ardal gyffredin ac i adolygu sut y gall ysgogi ysgolion i ddarparu cyngor gyrfaoedd gwell.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar 1 Mai 2018. Derbyniodd 5 argymhelliad, derbyniodd 5 arall mewn egwyddor a gwrthododd 4.

Argymhellion a dderbyniwyd

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion yn galw am fwy o weithredu ar leihau stereoteipio o ran rhyw ar draws prentisiaethau, cynyddu mynediad i bobl anabl a chynyddu nifer y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.

Hefyd, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr angen i gefnogi prentisiaethau gradd a chytunodd i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar ei waith yn hynny o beth ym mis Hydref 2018. Fodd bynnag, gwrthododd osod terfyn amser ar gyfer addysgu prentisiaethau gradd am y tro cyntaf (gweler isod).

Wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn dadlau, gan y gwnaed gwaith eisoes neu fod gwaith ar y gweill, y byddai cyllid i gefnogi eu gweithredu ‘yn cael ei dynnu o gyllidebau rhaglenni presennol’.

Argymhellion a dderbyniwyd mewn egwyddor

Derbyniodd Llywodraeth Cymru mewn egwyddor alwad y Pwyllgor am gynyddu’r gefnogaeth i brentisiaid o aelwydydd incwm isel. O ran y grant cyffredinol ar gyfer costau byw, mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at yr  adolygiad o’r sector addysg ôl-18  yn Lloegr, a fydd yn cynnwys cymorth ariannol i fyfyrwyr dan anfantais. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd

yn aros am adroddiad y panel [yn gynnar yn 2019] er mwyn ein helpu i benderfynu ar ein dull o weithredu yng Nghymru.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr alwad am gronfa galedi neu basys teithio rhatach ar gyfer prentisiaethau mewn egwyddor yn nodi’r

 ymgynghoriad ar Deithiau Bws Rhatach i Bobl Ifanc yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau bws lleol mwy effeithiol, gan gynnwys cynnig teithiau bws rhatach i brentisiaid.

Mae’n dadlau y byddai angen ystyried cronfa galedi gystadleuol yn erbyn canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, sydd eto i’w gyhoeddi.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru mewn egwyddor hefyd y galwadau am ddiweddariadau ar y rhaglen cyflogadwyedd a’r nifer o bobl â nodweddion gwarchodedig sy’n ymgymryd â phrentisiaethau yn ogystal â’r angen i gwrdd â cholegau a’r Coleg Cymraeg  i drafod cefnogaeth ar gyfer prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.

Argymhellion a wrthodwyd

Gwrthododd Llywodraeth Cymru alwadau’r Pwyllgor i roi mwy o gefnogaeth i gyflogwyr godi ymwybyddiaeth o fanteision prentisiaethau ymysg pobl ifanc, gan ddweud ei bod eisoes yn darparu ‘gwybodaeth helaeth ar y manteision a’r cyfleoedd y mae prentisiaethau’n eu darparu’. Gwrthododd hefyd alwadau i annog ysgolion a phartneriaid eraill i wella lefel ac ansawdd cyngor gyrfaoedd yn seiliedig ar y ddadl bod ‘llawer o wybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd da ar gael eisoes i helpu pobl ifanc’.

Gwrthodwyd yr argymhelliad i osod terfyn amser ar gyfer addysgu prentisiaethau lefel gradd gyda Llywodraeth Cymru yn dadlau ei bod wedi gwneud cyllideb ar gael i CCAUC i ddatblygu a darparu prentisiaethau gradd a’i fod bellach yn gyfrifoldeb prifysgolion unigol i ‘benderfynu pryd y bydd y ddarpariaeth yn cychwyn’. Fodd bynnag, disgwylir y bydd cynnig cychwynnol, cyfyngedig o brentisiaethau gradd ar gael o fis Medi 2018.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr alwad hefyd i ystyried sut y gallai annog pob partner i gymryd rhan lawn yn y prosbectws ardal gyffredin gan ei fod yn credu y byddai’n briodol mandadu pob darparwr i lwytho eu cynigion i’r Prosbectws Ardal Gyffredin. Fodd bynnag, dywedodd y bydd yn gweithio

i godi ymwybyddiaeth o’r Prosbectws a’i fanteision ar draws ysgolion, colegau a darparwyr dysgu yn y gwaith gyda’r bwriad o gynyddu nifer y darparwyr gan gynnwys eu darpariaeth ar y Prosbectws.

Y camau nesaf

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Mai 2018. Gallwch wylio’r ddadl ar-lein yn http://www.senedd.tv neu ddarllen y trawsgrifiad ar  Gofnod y Trafodion.

Yn dilyn y ddadl honno, bydd y Pwyllgor yn parhau i fonitro gwaith Llywodraeth Cymru ar gefnogi prentisiaid presennol a rhai’r dyfodol i gyflawni eu dyheadau.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru