Dyfodol egwyddorion amgylcheddol yr UE: Rôl unigryw Cymru - blog gwadd

Cyhoeddwyd 04/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad

Bydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad yn trafod egwyddorion amgylcheddol craidd a llywodraethu amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd yn ystod tymor yr haf. Yn y blog gwadd hwn, mae Dr. Rupert Read, Darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol East Anglia, yn trafod y cysyniadau hyn yng nghyd-destun ymadael â’r UE.

Mae amgylcheddwyr yn mynegi pryderon bod egwyddorion amgylcheddol sylfaenol yr UE – gan gynnwys yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu, yr egwyddor ataliol a’r egwyddor ragofalus – yn y fantol wrth i’r DU ymadael â’r UE.

Mae’r nodyn hwn yn trafod y risg, gan gyfeirio’n arbennig at gyd-destun datganoli yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar yr Egwyddor Ragofalus (yr ‘ER’), oherwydd ei bod yn un o’r elfennau allweddol wrth wneud penderfyniadau polisi ynghylch diogelu a rheoli’r amgylchedd. Mae’r egwyddor hon, yng nghyd-destun Brexit, yn berthnasol i’r egwyddorion eraill i raddau helaeth.

Beth yw’r Egwyddor Ragofalus?

Nod yr ER yw sicrhau lefel uchel o weithgarwch i ddiogelu’r amgylchedd drwy ymateb ataliol cyflym wrth wneud penderfyniadau yn achos risg, er enghraifft oherwydd perygl i iechyd pobl, iechyd anifeiliaid neu iechyd planhigion. Fe’i dilynir mewn amgylchiadau lle y mae rheswm i bryderu y gallai gweithgaredd achosi niwed, ond lle mae ansicrwydd ynghylch tebygolrwydd y risg a maint y niwed.

Mae’r ER wedi’i chydnabod mewn amryw gytundebau rhyngwladol. Mae Datganiad Bergen ar Ddatblygu Cynaliadwy (1990) yn gosod yr ER yn y gyfraith ryngwladol mewn ffordd sydd wedi’i derbyn yn eang.

Y diffiniad o’r ER a nodir yn y datganiad hwn yw:

In order to achieve sustainable development, policies must be based on the precautionary principle. Environmental measures must anticipate, prevent and attack the causes of environmental degradation. Where there are threats of serious or irreversible damage, lack of full scientific certainty should not be used as a reason for postponing measures to prevent environmental degradation.

Mae’r diffiniad hwn yn arbennig o addas o ran gosod yr ER yng nghyd-destun Cymru, oherwydd y bwriad a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran rheoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy.

Mae’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (Erthygl 191) yn cyfeirio at yr egwyddorion amgylcheddol craidd, gan gynnwys yr ER, fel a ganlyn:

Union policy on the environment shall aim at a high level of protection taking into account the diversity of situations in the various regions of the Union. It shall be based on the precautionary principle and on the principles that preventive action should be taken, that environmental damage should as a priority be rectified at source and that the polluter should pay.

Bwriad egwyddorion amgylcheddol yr UE yw llywio’r gwaith o ddatblygu cyfraith a pholisi yr UE, ac fe’u defnyddir wrth ddehongli cyfraith yr UE. Gall llysoedd, busnesau a’r llywodraeth eu cymhwyso wrth wneud penderfyniadau. Mae ymgorffori’r ER yn y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod yn rhaid ei chymhwyso ym mhob sector, yn hytrach na bod ganddi ffocws penodol.

Yn 2000, mabwysiadodd y Comisiwn Ewropeaidd Gyfathrebiad ar ddefnyddio’r ER. Er mai unwaith yn unig y mae’r Cytuniad yn rhagnodi’r ER – i ddiogelu’r amgylchedd – mae’r Cyfathrebiad yn nodi bod cwmpas yr egwyddor hon lawer ehangach yn ymarferol a’i bod hefyd yn cwmpasu polisi defnyddwyr, deddfwriaeth yr UE ynghylch bwyd ac iechyd dynol, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion.

Yr egwyddor ragofalus a thystiolaeth

Mae cyfraith bresennol yr UE hefyd yn sefydlu’r Egwyddor Ataliol, sy’n berthnasol pan mae’n hysbys fod gweithgaredd yn anystyriol. Fel arall, mae’r ER yn berthnasol lle y gallai gweithgaredd fod yn anystyriol, ond lle ceir ansicrwydd ynghylch tebygolrwydd y risg.

Mae’r ER yn seiliedig ar y syniad y gallai canlyniadau peryglus godi wrth gymryd yn ganiataol bod rhywbeth yn ddiogel dim ond oherwydd nad oes unrhyw dystiolaeth o niwed ar y pryd. Mewn achosion lle ceir ‘bygythiad o ddifrod difrifol neu anadferadwy’, dylid tybio bod sylweddau newydd, yn unol â’r ER, yn euog hyd nes y’u profir yn ddiniwed, yn hytrach nag i’r gwrthwyneb.

Fel arfer, mae gwyddonwyr am osgoi canlyniadau positif anghywir, neu gamrybudd. Mae hyn yn esbonio, er enghraifft, pam mae llawer o wyddonwyr yn gymharol ofalus wrth hawlio bod cysylltiadau agos rhwng digwyddiadau tywydd eithafol a newid hinsawdd anthropogenig. Fodd bynnag, os cedwir yn rhy gaeth at yr arfer gwyddonol arferol o aros am y dystiolaeth er mwyn osgoi camrybuddion, gallai sefyllfa godi lle mae rhywbeth gwirioneddol niweidiol yn digwydd – heb rybudd digonol yn ei erbyn.

Yr egwyddor ragofalus ac arloesi

Mae rhai’n dadlau bod yr ER yn gwrthwynebu arloesedd. Mae amddiffynwyr yr ER yn credu y gall ysgogi ei ymchwil ac arloesedd ei hun. Os dangosir bod arfer presennol yn achosi risg, mae’r ER yn mynnu y dylid dilyn llwybr sy’n osgoi perygl amgylcheddol (PDF 632KB), yn aml drwy ddull arloesol.

Yr egwyddor ragofalus a Brexit

Mae dyfodol egwyddorion amgylcheddol yr UE yn ansicr yn y DU yng nghyd-destun Brexit (PDF 2.3MB).

Bu ymdrechion aflwyddiannus i ddiwygio Bil yr UE (Ymadael) yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi i ymgorffori’r egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith y DU ar ôl ymadael.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd y bydd yn cadw’r ER. Fodd bynnag, ceir pryderon o ran y ffordd y caiff yr egwyddor hon ei chadw (PDF 246KB). Mae Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, wedi nodi y gellid cynnwys yr egwyddorion amgylcheddol mewn Datganiad Polisi Cenedlaethol (DPC). Fodd bynnag, ceir pryderon (PDF 246KB) os bydd yr egwyddorion wedi’u hymgorffori mewn polisi yn unig, ac nid yn y gyfraith, ei bod yn bosibl ni fyddant yn cael eu pwysleisio na’u gorfodi’n ddigonol.

Un ffordd a awgrymwyd o roi sicrwydd ynghylch yr ER yn fwy effeithiol fyddai nodi’r egwyddor yn glir ynghylch gwaith a dyletswyddau corff llywodraethu/corff gwarchod domestig. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i oruchwylio’r gwaith o weithredu cyfraith amgylcheddol ac ymdrin ag unrhyw ‘fylchau llywodraethu‘ ar ôl Brexit. Fodd bynnag, nid yw natur corff o’r fath yn hysbys ar hyn o bryd, ac mae rhanddeiliaid yn aros am Ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU.

Y cyd-destun Cymreig ar gyfer diogelu’r egwyddor ragofalus ar ôl Brexit

Ar adeg ysgrifennu’r blog hwn, mae’n parhau’n aneglur a fydd Datganiad Polisi Cenedlaethol arfaethedig Llywodraeth y DU i ddwyn ymlaen yr egwyddorion amgylcheddol yn cynnwys Cymru, ac nid yw’n glir chwaith a fydd gan y corff gwarchod amgylcheddol arfaethedig bwerau gorfodaeth dros Gymru.

Bu ymdrechion aflwyddiannus i ddiwygio Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) Llywodraeth Cymru i gynnwys yr egwyddorion amgylcheddol a chorff llywodraethu amgylcheddol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf i ymgorffori’r egwyddorion amgylcheddol yn y gyfraith a chau’r bwlch llywodraethu.

Os cymerir llwybr lle sefydlir corff llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru, un posibilrwydd yw ehangu’n sylweddol ar bwerau ac adnoddau swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Crëwyd y swydd hon yn wreiddiol o ganlyniad i’r awydd am ‘gorff gwarchod datblygu cynaliadwy’ i Gymru, yn dilyn diddymu Comisiwn Datblygu Cynaliadwy y DU yn 2010.


Erthygl gan Rupert Read, gyda diolch i Alex Steele am gymorth golygyddol. Diolch hefyd i Victor Anderson, Tim O’Riordan a Naomi Marghaleet o ‘You Said It’, am eu sylwadau a’u mewnbwn. Mae Dr Rupert Read yn Ddarllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol East Anglia ac yn Gadeirydd Green House (www.greenhousethinktank.org). @rupertread

Golygwyd yr erthygl gan Katy Orford o Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru