Cymunedau Cynllunio Economi Llywodraeth leol Tai Y Gymraeg Yr Amgylchedd

Creu mannau cynaliadwy: Pa rôl all fod gan y system gynllunio?

10 Mai 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae creu lleoedd wrth wraidd dull gweithredu newydd Llywodraeth Cymru o gynllunio. Ond beth yw creu lleoedd a beth mae’n ei olygu yng nghyd-destun Cymru?

Pwysleisiodd  Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, bwysigrwydd creu lleoedd pan lansiodd ymgyngoriadau ar ddwy ddogfen gynllunio genedlaethol flaenllaw yn gynharach eleni – Polisi Cynllunio Cymru diwygiedig (12 Chwefror) a’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (y Fframwaith)  (1 Mai).

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod creu lleoedd yn llwyddiannus yn allweddol i greu mannau cynaliadwy lle gall pobl fyw bywydau egnïol ac iach, a bod yn falch o ddweud o ble y maent yn dod. Dywedodd fod creu mannau cynaliadwy yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Bydd y broses o greu lleoedd eto’n destun trafod yn y Cynulliad ar 15 Mai 2018, pan fydd Aelodau’n trafod “rôl y system gynllunio wrth greu lleoedd”.

Beth mae Polisi Cynllunio Cymru drafft yn ei ddweud?

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cael ei ddiwygio i ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn golygu y bydd angen i bolisïau, cynigion a phenderfyniadau cynllunio geisio cefnogi llesiant pobl a chymunedau. Dylid gwneud hyn trwy geisio cyflawni’r saith nod llesiant, a thrwy ddefnyddio’r pum ffordd o weithio, fel sy’n ofynnol yn ôl y Ddeddf.

Y bwriad yw creu mannau cynaliadwy, ac mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod creu lleoedd yn ffordd o gyflawni hyn:

Dylai’r system gynllunio greu Mannau Cynaliadwy sy’n ddeniadol, yn gymdeithasol, yn gadarnhaol, yn ddiogel, yn groesawgar, yn iach ac yn gyfeillgar. Dylai cynigion datblygu ddod â phobl ynghyd a gwneud i ni eisiau byw, gweithio a chwarae mewn ardaloedd lle mae ymdeimlad amlwg o le a llesiant gan greu ffyniant i bawb.

Mae Polisi Cynllunio Cymru drafft yn dweud bod creu lleoedd yn broses gynhwysol, sy’n cynnwys pawb sydd â budd yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Mae’n ystyried materion ar bob lefel, o’r raddfa fyd-eang, megis newid yn yr hinsawdd, i’r raddfa leol, megis effaith amwynderau ar gymdogion.

Mae Neil Hemington, Prif Gynllunydd Llywodraeth Cymru, mewn cyfweliad ar gyfer cylchgrawn Planner y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), yn esbonio ymhellach:

Placemaking complements well-being: by taking a holistic approach early on in the development process, planners can help shape good-quality places that are attractive, sociable and ultimately successful developments.

Mae Polisi Cynllunio Cymru drafft yn cyflwyno pum egwyddor cynllunio allweddol a chyfres o ganlyniadau creu lleoedd cynaliadwy i helpu’r system gynllunio i ddarparu lleoedd cynaliadwy. Dylai’r pum egwyddor allweddol fod yn fan cychwyn i “bawb sy’n ystyried yr hyn maent yn ceisio ei gyflawni”. Y pum egwyddor yw:

  1. Hwyluso’r math iawn o ddatblygiad yn y lle iawn;
  2. Gwneud y defnydd gorau o adnoddau;
  3. Hybu amgylchedd hygyrch ac iach;
  4. Creu a chynnal cymunedau; a
  5. Rhoi’r amddiffyniad gorau i’r amgylchedd a chyfyngu’r effeithiau ar yr amgylchedd.

Disgrifir y canlyniadau creu lleoedd ar dudalennau 19 i 22 o Bolisi Cynllunio Cymru drafft (PDF 4MB). Rhaid i bob polisi cynllunio a chynnig datblygu geisio darparu datblygiad sy’n “mynd i’r afael” â’r canlyniadau.

Caiff y dull newydd ei ddychmygu yn y graffig hwn:

Ffynhonnell: Dogfen ymgynghori Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10

Mae Polisi Cynllunio Cymru drafft yn mynd ymlaen i drafod nifer o themâu eraill ym maes creu lleoedd, er enghraifft annog dyluniad da (gan gynnwys defnyddio Datganiadau Dylunio a Mynediad), hyrwyddo lleoedd iachach, cefnogi’r Gymraeg, rheoli ffiniau trefol ac aneddiadau newydd, a sut y dylai creu lleoedd weithio mewn ardaloedd gwledig.

Mae Cynlluniau Lleoedd yn cael eu trafod hefyd, sef dogfennau anstatudol y gellir eu paratoi gan gymunedau lleol fel ffordd o hyrwyddo dull cydweithredu a chreu lleoedd. Dylent gefnogi’r broses o gyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol ac fe’u mabwysiedir fel canllawiau cynllunio atodol.

Cynhelir ymgynghoriad ar y fersiwn ddiwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru rhwng 12 Chwefror a 18 Mai 2018.

Beth mae opsiwn a ffefrir y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn ei ddweud?

Mae opsiwn a ffefrir y Fframwaith yn parhau â’r thema a osodir gan Bolisi Cynllunio Cymru drafft. Mae’n pwysleisio mai mannau cynaliadwy yw nod y system gynllunio ac yn dweud y bydd y Fframwaith terfynol yn darparu mannau cynaliadwy trwy:

… gefnogi dulliau cadarnhaol o greu lleoedd a sicrhau bod ein dewisiadau gofodol yn cyfeirio datblygiad i’r lleoedd iawn, yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau, yn creu ac yn cynnal cymunedau hygyrch ac iach, yn gwarchod ein hamgylchedd ac yn cefnogi ffyniant i bawb.

Mae hyn yn cyd-fynd â’r pum egwyddor allweddol a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru drafft, gyda’r dyhead ychwanegol o gefnogi ffyniant i bawb. Mae opsiwn a ffefrir y Fframwaith (PDF 3.91MB) yn mynd ymlaen i ddweud:

Er mwyn helpu i greu lleoedd cynaliadwy, bydd y Fframwaith yn sicrhau bod creu lleoedd yn elfen ganolog o’r system cynllunio datblygu. Bydd y Fframwaith yn canolbwyntio ar dair agwedd ofodol o’r thema Creu Lleoedd – datgarboneiddio a’r newid yn yr hinsawdd; iechyd a llesiant; a chymunedau cydlynus a’r iaith Gymraeg.

Yn unol â’r dull gweithredu a amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru, y thema creu lleoedd yw’r egwyddor gyntaf a ddefnyddir i ystyried dewisiadau gofodol. Rhaid i benderfyniadau i gefnogi themâu eraill ddangos yn gyntaf eu bod yn gydnaws â’r thema creu lleoedd.

Cynhelir ymgynghoriad ar opsiwn a ffefrir y Fframwaith rhwng 30 Ebrill a 23 Gorffennaf 2018.

Beth mae eraill yn ei ddweud am greu lleoedd?

Nid cysyniad newydd yw creu lleoedd ac mae’r term yn aml yn cael ei ddeall yn wahanol mewn cyd-destunau gwahanol. Mae’r dull sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru yn unigryw gan ei fod yn cael ei lywio yn bennaf gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae gan yr RTPI a’r Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA) nifer o gyhoeddiadau sy’n canolbwyntio ar elfennau gwahanol o greu lleoedd.

Mae cyhoeddiadau’r RTPI yn ymdrin â materion megis trechu tlodi (PDF 1.97MB), dementia a chynllunio, dinasoedd iach a  rhywedd a chynllunio. Mae blog yr RTPI hefyd yn cynnwys nifer o erthyglau perthnasol.

Mae’r TCPA wedi cyhoeddi cyfres o nodiadau canllaw i annog arferion da o ran creu lleoedd. Mae’r canllawiau’n canolbwyntio ar ddarparu gardd-ddinasoedd newydd ac yn cynnwys y pynciau canlynol: ynni a newid yn yr hinsawdd (PDF 3.70MB), cartrefi i bawb (PDF 963KB), celf a diwylliant (PDF 3.69KB), amgylcheddau iach a lleoedd gwyrdd a llewyrchus (PDF 6.03MB).

Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn hyrwyddo dyluniad da ar gyfer yr amgylchedd adeiledig ac yn cefnogi awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i gyflawni hyn. Mae wedi cyhoeddi Places for Life sy’n trafod y cysylltiad rhwng y mannau lle rydym yn byw a’n hiechyd, ein llesiant, ein perthnasoedd, ein mynediad i waith, ein bywyd cymdeithasol a’n heffaith ar yr amgylchedd.

Mae Athrofa Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd wrthi’n ymchwilio i faes creu lleoedd cynaliadwy yn y cyd-destun trefol a gwledig.

Mae Jan Gehl, dylunydd trefol enwog o Ddenmarc, yn hyrwyddo adeiladu dinasoedd ar y raddfa ddynol. Yn y Sgwrs TEDx hon, mae’n trafod cynefinoedd trefol da ar gyfer dynol ryw:

Mae’r cynllun presennol ar gyfer Llundain yn pwysleisio llunio lleoedd ac yn cynnwys polisïau mewn meysydd megis “cymdogaethau oes”, cynwysoldeb a dylunio i atal trosedd. Mae cynllun drafft newydd ar gyfer Llundain yn dilyn dull gwahanol; mae’n cyflwyno’r cysyniad o dwf da y mae’n ei ddisgrifio fel twf sy’n gymdeithasol ac yn economaidd gynhwysol ac yn amgylcheddol gynaliadwy.

Mae’r Project for Public Spaces yn fenter creu lleoedd fyd-eang sy’n canolbwyntio ar dir y cyhoedd. Mae dinasoedd tramor sydd â diwylliant cryf o greu lleoedd trefol yn cynnwys Auckland, Portland, Vancouver a Melbourne.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru