Strategaeth atal hunanladdiad yng Nghymru – y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd

Cyhoeddwyd 14/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r erthygl hon yn tynnu sylw at y canfyddiadau allweddol o'r adolygiad man canol o strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-2020, Siarad â fi 2.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe i gynnal yr adolygiad man canol, a chyflwynwyd adroddiad ym mis Mawrth 2018.

Yr Epidemioleg bresennol yng Nghymru

Bob blwyddyn, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw trwy hunanladdiad yng Nghymru. Bu cynnydd cyffredinol mewn cyfraddau hunanladdiad ymhlith dynion ers 2005 (mae'r duedd hon yn llai amlwg ymhlith menywod), ond gallai hyn adlewyrchu newidiadau mewn codio a gostyngiad yn nifer y dyfarniadau naratif sy'n anodd eu codio. Felly, dylai cymariaethau ar draws blynyddoedd gael eu dehongli’n ofalus.

Mae cyfraddau hunanladdiad yn parhau i fod yn llawer uwch ymhlith dynion na’r cyfraddau ymhlith menywod, ac mae’r cyfraddau oed-benodol uchaf ymhlith dynion rhwng 30 a 49 oed. Mae cyfraddau’n uwch mewn cymunedau mwy difreintiedig, yn enwedig ymhlith dynion.

Mae patrymau hunan-niwed yn wahanol i hunanladdiad. Mae cyfradd uwch o fenywod yn cael eu derbyn i’r ysbyty fel achosion brys o ganlyniad i hunan-niwed na dynion ym mhob grŵp oedran bron, gyda'r cyfraddau uchaf i’w gweld ymhlith merched ifanc rhwng 15 a 19 oed. Efallai bod y cynnydd yng nghyfraddau derbyniadau brys i’r ysbyty o ganlyniad i hunan-niwed ymhlith plant dan 18 oed yn adlewyrchu cynnydd gwirioneddol mewn hunan-niwed, gwell ymwybyddiaeth ac ymddygiad o geisio cymorth, neu well rheolaeth yn unol â chanllawiau clinigol.

Cynnydd o ran camau gweithredu

Mae Siarad â fi 2 yn nodi chwe amcan strategol allweddol. Canfu'r adolygiad man canol fod cynnydd da wedi'i wneud yn erbyn y canlynol:

Amcan 1: Gwella ymhellach ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth am hunanladdiad a hunan-niwed ymhlith y cyhoedd, unigolion sy’n dod i gysylltiad yn aml â phobl sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad a hunan-niwed a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru

Amcan 4: Rhoi cymorth i’r cyfryngau fod yn gyfrifol wrth bortreadu ac adrodd ar hunanladdiad ac ymddygiad hunanladdol

Amcan 5: Lleihau mynediad at bethau y gellir eu defnyddio i gyflawni hunanladdiad

Mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yn erbyn:

Amcan 2: Darparu ymatebion priodol i argyfyngau personol, ymyriadau cynnar a rheolaeth ar hunanladdiad a hunan-niwed

Amcan 3: Gwybodaeth a chymorth i’r rhai sydd wedi cael profedigaeth neu yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i hunanladdiad a hunan-niwed

Amcan 6: Parhau i hybu a chefnogi dysgu, systemau gwybodaeth a monitro ac ymchwil i wella ein dealltwriaeth am hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru ac arwain camau gweithredu. Yn ogystal, canfu'r adolygiad fod cynnydd ardderchog wedi’i wneud o ran datblygu cynlluniau gweithredu atal hunanladdiad lleol, yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan y Grŵp Cynghori Cenedlaethol. Mae pob ardal bellach wedi’i chynnwys gan gynlluniau lleol ar wahanol lefelau daearyddol sy'n adlewyrchu trefniadau a phartneriaethau lleol.

Mae'r adolygiad yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, i’w gweithredu ar unwaith ac yn y tymor hwy:

Ar unwaith

  1. Mabwysiadu fframwaith hyfforddi traws-asiantaeth ar gyfer cymhwysedd atal hunanladdiad a hunan-niwed.
  2. Datblygu systemau i wella gwybodaeth am hunanladdiad a hunan-niwed.
  3. Cefnogi datblygiad llwybr ôl-ymyriad Cymru gyfan. (Ôl-ymyriad yw camau a gymerir i gefnogi pobl sydd wedi cael profedigaeth neu yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i hunanladdiad, fel teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chyfoedion).
  4. Gweithredu Canllawiau cyfredol NICE ar reoli hunan-niwed. Dylid adolygu canllawiau NICE sydd ar ddod sef 'Preventing suicide in community and custodial settings'.
  5. Dylid ystyried sicrhau bod adnoddau ar gael yn ganolog ac yn lleol i weithredu Siarad â fi 2.
  6. Dylid ystyried darparu adnoddau ar gyfer aelodaeth leyg o'r Grŵp Cynghori Cenedlaethol.

Y tymor hwy

  1. Dylid cydnabod effeithiau anghydraddoldebau cymdeithasol-economaidd ar hunanladdiad a hunan-niwed, a mynd i'r afael â hwy ar draws strategaethau a mentrau.
  2. Dylid ystyried anghenion ataliol grwpiau sy'n agored i niwed o oed a rhyw penodol, a mynd i’r afael â hwy, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddynion.
  3. Dylid ystyried hwyluso ffyrdd o gyfyngu ar bethau y gellir eu defnyddio i gyflawni hunanladdiad.
  4. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y bydd camau i atal hunanladdiad a hunan-niwed yn cael eu hwyluso ar lefel genedlaethol ar ôl 2020.

Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Bydd ymchwiliad parhaus Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad i atal hunanladdiad yn ymchwilio ymhellach i rai o'r materion a nodwyd uchod.

Un o'r negeseuon allweddol mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor hyd yma yw bod hunanladdiad o bwys i bawb. Mae angen clir o hyd i godi ymwybyddiaeth a lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â hunanladdiad / hunan-niwed ac iechyd meddwl yn fwy cyffredinol, er mwyn annog ymddygiad o geisio cymorth a helpu i sicrhau ymateb tosturiol i'r rhai a all fod yn dioddef o drallod emosiynol.

Mae sesiynau tystiolaeth lafar yn parhau yr wythnos hon (17 Mai).Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad ar dudalennau’r pwyllgor ar y we .

Cymorth a chefnogaeth

Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi, angen siarad â rhywun neu’n teimlo fel lladd eich hun, gallwch gysylltu â’r Samariaid.

Rhadffôn 24 awr y dydd o unrhyw ffôn ar 116 123.

Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm-11pm, 7 diwrnod yr wythnos)

E-bost: jo@samaritans.org

Gwefan: Samariaid Cymru


Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru